Canllawiau

Sicrwydd a Risg (5)

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar sicrwydd a risg ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Sicrwydd a Risg

5.1 Yn unol â [Safonau Swyddogaethol Llywodraeth Swyddfa’r Cabinet] (https://www.gov.uk/government/publications/grants-standards) mae’r sicrwydd ar gyfer pob rhaglen yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn darparu tair lefel sicrwydd ddiffiniedig, ar wahân, sef y tair llinell amddiffyn.

5.2 Dylid cyflwyno’r llinell gyntaf ar lefel rheoli gweithredol, sy’n berchen ar y cyfrifoldeb rheoli.

5.3 Pan awdurdod lleol arweiniol sydd wedi derbyn y grant trwy Lythyr Penderfyniad am Grant, yr awdurdod lleol arweiniol sy’n darparu’r llinell amddiffyn gyntaf a’r Prif Swyddog Ariannol sy’n gyfrifol amdani gan ei fod yn gweithredu ar lefel rheoli gweithredol o fewn yr awdurdod lleol arweiniol sy’n derbyn y cyllid. Felly, y Prif Swyddog Cyllid sy’n gyfrifol am gyflwyno buddsoddiad Llywodraeth Ei Fawrhydi, gyda phriodoldeb, rheoleidd-dra a gwerth am arian.

5.4 Rydym yn cydnabod y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau ehangach sy’n rheoli awdurdodau lleol ar draws y Deyrnas Unedig ac, felly, rydym yn chwilio am ymagwedd gymesur at sicrwydd. Nid yw’r sicrwydd a’r rheolaeth perfformiad ar gyfer yr UKSPF yn dyblygu rheolau a dyletswyddau statudol yr awdurdod lleol arweiniol i ddefnyddio arian cyhoeddus yn dda.

5.5 Bydd adroddiadau gan awdurdodau lleol arweiniol i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cael eu defnyddio i sicrhau tystiolaeth o’r llinell amddiffyn gyntaf. Bydd gofyn i’r Prif Swyddog Cyllid ddarparu cadarnhad ysgrifenedig ei fod wedi ymgymryd â phob gwiriad angenrheidiol i sicrhau bod prosesau ar waith gan yr awdurdod lleol arweiniol a phrosiect(au) penodol y rhaglen i sicrhau bod eu materion ariannol o ran y rhaglen gyllido yn cael eu gweinyddu’n briodol, ac y caiff y prosesau hyn eu defnyddio’n weithgar. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i weinyddu ariannol a llywodraethu tryloyw.

5.6 Dylai’r ail linell amddiffyn fod yn annibynnol ar weithgarwch y llinell gyntaf a goruchwylio’r rheolaeth ar y risg i sicrhau bod y llinell gyntaf wedi’i llunio’n briodol a’i bod yn cyflawni yn ôl y bwriad. Mae atebolrwydd Llywodraeth Leol yn cyd-fynd â natur ddatganoledig y Gronfa wrth geisio sicrwydd y bydd gweithgarwch UKSPF yn cael ei gyflawni yn unol â dyletswyddau statudol yr awdurdod lleol arweiniol a phrosbectws y Gronfa.

5.7 Dylai archwiliad annibynnol neu gorff annibynnol ymgymryd â’r drydedd linell amddiffyn i sicrhau ‘barn wrthrychol am effeithiolrwydd llywodraethu, rheoli risg a rheoliadau mewnol’ (PDF, 341 KB).’ Mae hyn yn cynnwys yr ail linell amddiffyn a’r cyntaf.

5.8 O ran y fframwaith sicrwydd hwn, bydd Asiantaeth Archwilio Fewnol y Llywodraeth (GIAA) yn darparu sicrwydd risg annibynnol ynghylch cynllun a gweithrediad y camau rheoli o fewn y trefniadau ar gyfer yr UKSPF – fel y’u gweithredir o fewn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau – ac, os bydd angen, adrannau eraill y llywodraeth.

5.9 Trafodir a chytunir ar gwmpas ac amseru’r sicrwydd annibynnol hwn gyda Phwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, y Swyddog Cyfrifyddu a’r Uwch Swyddogion Cyfrifol priodol.

5.10 Bydd GIAA yn cydweithio â thimau archwilio mewnol sy’n gweithredu o fewn gweinyddiaethau datganoledig, fel y bo’n briodol.

Manylion pellach am y llinell amddiffyn gyntaf a’r ail:

Y llinell amddiffyn gyntaf: Prif Swyddog Ariannol

5.11 I sicrhau’r llinell amddiffyn gyntaf, bydd gofyn i’r Prif Swyddog Ariannol lenwi dwy ffurflen flynyddol ar gyfer yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Fel rhan o waith adrodd rheolaidd, bydd y Prif Swyddog Cyllid yn rhoi’r diweddariadau sicrwydd canlynol:

  • cadarnhau bod y Prif Swyddog Cyllid wedi sicrhau ei hun fod prosesau ar waith gan yr awdurdod lleol arweiniol sy’n sicrhau bod materion ariannol yn gysylltiedig â’u dyraniad gan UKSPF yn cael eu gweinyddu’n gywir;
  • ymateb yn uniongyrchol i gwestiynau sy’n mynd i’r afael â llywodraethu a thryloywder ar gyfer agweddau ar reoli grant UKSPF, gan gynnwys caffael, gwrthdaro buddiannau, rheoli cymorthdaliadau, gwrth-dwyll a risg;

Yr ail linell amddiffyn: Atebolrwydd Llywodraeth Leol

5.12 Gan ystyried natur ddatganoledig y Gronfa, yr ail linell amddiffyn yw Fframwaith Atebolrwydd ehangach Llywodraeth Leol, sy’n craffu ar weithgarwch awdurdodau lleol. Saif hwn o fewn ein hymrwymiad i barhau i wella tryloywder ac adrodd ehangach llywodraeth leol, adroddiadau penodol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar berfformiad UKSPF a deallusrwydd adrannol llywodraeth leol.

5.13 Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cydlynu gwaith ar draws adrannau’r llywodraeth, sy’n dwyn dadansoddiadau gwahanol ynghyd ar sail gyffredin er mwyn deall sefyllfa gyllidol gyffredinol awdurdodau lleol, a risgiau a chyfleoedd penodol. Bydd hyn yn cefnogi ac yn rheoli unrhyw risg sy’n dod i’r amlwg wrth gyflwyno’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

5.14 Mae archwilio llywodraeth leol hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gwybodaeth ariannol gywir a dibynadwy i awdurdodau lleol er mwyn iddynt gynllunio a rheoli eu gwasanaethau a’u cyllid yn effeithiol. Mae archwilio lleol hefyd yn sicrhau bod trefniadau ariannol awdurdodau lleol, gan gynnwys a yw gwerth am arian yn cael ei gyflawni, yn dryloyw i’r trethdalwr, ac yn hwyluso sicrwydd i’r sector cyhoeddus.

5.15 Mae’r strwythur annibynnol hwn yn cynnig goruchwyliaeth bellach dros waith Prif Swyddogion Ariannol yr awdurdodau lleol arweiniol, y mae eu sicrwydd a’u gwaith yn hanfodol i gyflwyno’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

5.16 Os bydd risgiau neu bryderon sicrwydd yn deillio o’r ail linell amddiffyn, gall yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ymgymryd ag archwiliad bwrdd gwaith ychwanegol o gyflwyno’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ar y cyd â’r awdurdod lleol arweiniol.

5.17 Byddwn yn adolygu’r ail linell amddiffyn hon yn barhaus, wrth i’r adran ddatblygu amcanion Papur Gwyn Ffyniant Bro i wella tryloywder a’r wybodaeth a’r cymhellion sydd ar gael i benderfynwyr lleol.

Cyhoeddwyd ar 19 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 March 2023 + show all updates
  1. Added further detail on local government accountability.

  2. Welsh added

  3. Added translation