Trosglwyddo ffeiliau gyda CThEF yn ddiogel
Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth ar-lein neu mewngofnodwch iddo er mwyn trosglwyddo data i CThEF ac oddi wrtho.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i drosglwyddo ffeiliau data i CThEF ac oddi wrtho’n ddiogel. ‘Gwasanaeth Cyfnewid Data Diogel’ oedd yr enw blaenorol ar hyn.
Bydd CThEF yn cysylltu â chi gyda gwahoddiad i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn. Bydd angen i chi gael eich gwahodd i gofrestru.
Os oeddech eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Cyfnewid Data Diogel, ni fydd angen i chi gofrestru eto. Gallwch fewngofnodi i’r gwasanaeth hwn gan ddefnyddio’ch manylion presennol.
Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth
Ar ôl i chi gael gwahoddiad gan CThEF, byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Mae sut rydych chi’n cofrestru yn dibynnu ar beth rydych chi’n mynd i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ei gyfer.
Cofrestru o dan y cynllun Anfon parseli i Ogledd Iwerddon
Os ydych chi’n anfon parseli i Ogledd Iwerddon fel rhan o Fframwaith Windsor, mae’n rhaid i chi gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
I gofrestru, e-bostiwch btc_sdesregistration@hmrc.gov.uk gan nodi ‘Register: Moving Parcels to Northern Ireland’ fel y pwnc. Dylai’r e-bost gynnwys y manylion canlynol:
- enw’r sefydliad
- Rhif Cynllun Cludwyr y DU — dysgwch sut i gofrestru i gael rhif Cynllun Cludwyr y DU (yn agor tudalen Saesneg)
- Rhif EORI
Byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chyfarwyddiadau ar sut i gwblhau eich cofrestriad.
Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon Cyfeirnod Gwasanaeth (SRN) a math o wybodaeth atoch ar gyfer eich trosglwyddiad.
Darllenwch y canllawiau technegol am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn fel rhan o’r cynllun Anfon parseli i Ogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).
Cofrestru fel gweinyddwr cynllun pensiwn
Os ydych chi’n weinyddwr cynllun pensiwn yr effeithir arno gan y cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus, gallwch gofrestru drwy e-bost yn publicservicepensionsremedy@hmrc.gov.uk.
Mae’n rhaid i’ch e-bost gynnwys y canlynol:
- ‘File transfer registration’ yn y llinell pwnc
- enw a Chyfeirnod Treth y Cynllun Pensiwn (PSTR) y cynllun pensiwn sydd i’w gofrestru
- eich Dynodydd (ID) Gweinyddwr y Cynllun Pensiwn
- enw person cyswllt a chyfeiriad e-bost cyswllt ar ei gyfer
Byddwn yn anfon e-bost at y person a enwir gyda chyfarwyddiadau ar sut i gwblhau’r cofrestriad.
Ar ôl i chi gofrestru, gallwch chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes CThEF i gael mynediad i’r gwasanaeth.
Mewngofnodi i’r gwasanaeth
I fewngofnodi, bydd angen i chi gael y Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth a’r cyfrinair a ddefnyddioch i greu’ch cyfrif treth busnes.
Ni allwch ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair GOV.UK One Login ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg),
Cael rhagor o help
Cysylltwch â’r tîm gwasanaeth trosglwyddo ffeiliau (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen help arnoch i gael mynediad i’r gwasanaeth neu ei ddefnyddio.
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
The name of the service has changed from the ‘Secure Data Exchange Service’ to ‘Transfer files securely with HMRC’. The methods for registration have been updated.
-
Information has been added for pension scheme administrators affected by the public service pensions remedy who need to register for the Secure Data Exchange Service.
-
Guidance in the 'Set up SDES for the first time' section has been updated.
-
First published.