Deunydd hyrwyddo

Sut i ddefnyddio’ch cyfrif treth busnes CThEF

Diweddarwyd 22 March 2022

Mae’ch cyfrif treth busnes CThEF yn cyfrif ar-lein sy’n dod â’ch holl drethi busnes ynghyd yn yr un lle.

Gan fewngofnodi i un cyfrif yn unig gallwch fwrw golwg dros grynodeb o sefyllfa treth eich busnes ar gyfer trethi yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer. Gallwch ddefnyddio’ch gwasanaethau treth ar-lein er mwyn cwblhau tasgau, megis cyflwyno Ffurflenni Treth a gwneud taliadau.

Os ydych eisoes yn rheoli’ch treth busnes ar-lein, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes.

Pwy all ddefnyddio cyfrif treth busnes

Gall unig fasnachwyr, partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig ei ddefnyddio er mwyn cael manylion am eu sefyllfa treth ar gyfer:

  • Hunanasesiad
  • TWE
  • TAW
  • Treth Gorfforaeth
  • dros 40 trethi busnes arall

Gall gweinyddwyr cyfrifon roi mynediad i aelodau o’u tîm er mwyn iddynt reoli trethi busnes.

Os ydych yn penderfynu defnyddio asiant i reoli’ch materion treth, gallwch barhau i ddefnyddio’r cyfrif treth busnes ac ychwanegu gwasanaethau er mwyn gwirio’r hyn sy’n digwydd yn eich cyfrif.

Cael y gorau o’ch cyfrif treth busnes

Er mwyn gweld bob un o’ch trethi yn eich cyfrif treth busnes, mae’n rhaid i chi ddefnyddio un Dynodydd Defnyddiwr (ID) yn unig ar gyfer Porth y Llywodraeth. Peidiwch â chreu un newydd. Mae’n rhaid i’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) yr ydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes fod yr un peth a’r un a ddefnyddiwyd gennych er mwyn:

  • cofrestru ar gyfer eich treth gyntaf

  • cofrestru ar gyfer unrhyw drethi busnes eraill (gweler yr adrannau ‘Ychwanegu neu ganslo treth busnes’ a ‘Gwybodaeth bellach’ i gael rhagor o wybodaeth)

Os ydych yn defnyddio mwy nag un Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth, mae’n bosibl y byddwch yn gallu alinio’ch cofrestriadau treth a’ch gwasanaethau ar-lein i un Dynodydd Defnyddiwr (ID).

Mae’r arweiniad hwn yn rhoi gwybod i chi sut i ychwanegu neu ganslo treth busnes yn eich cyfrif – a hynny i’w weld yn yr adran ‘Defnyddio’ch cyfrif treth busnes’.

Sut mae’n gweithio

Mae 2 ran benodol i’ch cyfrif treth busnes:

  • dewislen ar y brig ar gyfer rheoli’ch cyfrif, gweld negeseuon diogel ac i gael help

  • crynodeb treth busnes (hafan) ar gyfer cwblhau tasgau sy’n ymwneud â thaliadau a Ffurflenni Treth

Bydd eich crynodeb yn rhoi mynediad i chi at wasanaethau treth ar-lein sy’n gysylltiedig â’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) y gwnaethoch ei ddefnyddio i fewngofnodi. Mae’n dangos cerdyn treth ar gyfer bob treth yr ydych wedi cofrestru ar ei chyfer gyda’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) hwnnw.

Os nad yw’ch crynodeb yn dangos pob treth yr ydych wedi cofrestru ar ei chyfer, mae’n bosibl eich bod yn defnyddio Dynodydd Defnyddiwr (ID) gwahanol ar gyfer Porth y Llywodraeth, felly bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  • gwirio’r manylion yr ydych yn eu defnyddio er mwyn mewngofnodi i’ch trethi busnes

  • cofrestru ar gyfer y trethi yr ydych am gael mynediad iddynt i’ch cyfrif treth busnes gan ddefnyddio’r manylion hyn

Creu’ch cyfrif treth busnes CThEF

Os ydych eisoes yn rheoli’ch treth busnes ar-lein, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes.

Dilynwch y camau hyn i greu cyfrif treth busnes, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes:

  1. Cofrestru ar gyfer treth busnes – mae’n bosibl y cewch gyfeirnod treth ar gyfer eich data treth.

  2. Creu Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth er mwyn cael eich sefydliad ar-lein – dylech ddefnyddio un yn unig.

  3. Ychwanegu’r dreth yr ydych am gael mynediad ati drwy ddefnyddio’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth a gawsoch yng ngham 2.

  4. Er mwyn dechrau defnyddio’r gwasanaeth, mae’n bosibl y bydd angen Cod Cychwyn arnoch (a elwir hefyd yn PIN Cychwyn). Bydd CThEF yn ei anfon atoch drwy’r post (gall hyn gymryd hyd at 10 diwrnod).

Defnyddio’ch cyfrif treth busnes

Rheoli’ch cyfrif

Yn ‘Rheoli’ch cyfrif’, gallwch wneud y canlynol:

  • ychwanegu neu ddileu treth, toll neu gynllun

  • rhoi caniatâd i aelod o’r tîm er mwyn iddo allu cael mynediad at dreth, toll neu gynllun

  • ychwanegu, newid neu fwrw golwg dros asiant treth a’i awdurdodi i weithredu ar eich rhan

  • bwrw golwg dros fanylion eich cyfrif (cyfeiriad, rhif ffôn, e-bost, Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth a dewisiadau diogelwch) neu eu newid

  • cofrestru i gael hysbysiadau di-bapur

Ychwanegu neu ganslo treth busnes

Gallwch ychwanegu treth i’ch cyfrif treth busnes drwy ddewis y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • ‘Cael mynediad ar-lein i dreth, toll neu gynllun’ o’r hafan

  • ‘Ychwanegu treth, toll neu gynllun at eich cyfrif’ o’r brif ddewislen ‘Rheoli cyfrif’

Er mwyn cael mynediad i’r gwasanaeth rydych yn ei ychwanegu, mae’n bosibl y bydd angen Cod Cychwyn arnoch (a elwir hefyd yn PIN Cychwyn). Gall gymryd hyd at 10 diwrnod i gyrraedd drwy’r post.

Gallwch hefyd ddileu toll, treth neu gynllun. Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • datgofrestru – oherwydd does dim rhaid i chi gyflwyno Ffurflenni Treth mwyach

  • atal mynediad – ni fyddwch yn gweld gwybodaeth am y dreth hon yn eich cyfrif treth busnes mwyach

Os ydych yn atal mynediad yn unig, bydd yn dal yn rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth.

Ni fyddwch yn colli’ch data treth. Bydd eich data yn dal i gael eu cadw yn y system dreth berthnasol, hyd yn oed os nad yw ar gael yn eich cyfrif treth busnes mwyach.

Gwyliwch fideo ynghylch sut i ychwanegu treth i’ch cyfrif treth busnes yn yr adran ‘Rhagor o wybodaeth’.

Gwirio’ch sefyllfa treth gan ddefnyddio’ch cardiau treth

Yn dibynnu ar y dreth, gall eich cardiau ddangos y canlynol:

  • eich cyfeirnod treth

  • a oes gennych Ffurflen Dreth i’w llenwi

  • eich balans (treth sy’n ddyledus neu dreth sydd wedi’i gordalu)

  • cysylltiadau i ragor o fanylion, megis gwybodaeth am daliadau a Ffurflenni Treth

Cwblhau tasg sy’n ymwneud â Ffurflen Dreth neu daliad

Gan ddefnyddio cerdyn treth, gallwch gael at eich gwasanaeth ar-lein er mwyn:

  • cyflwyno Ffurflen Dreth

  • gwneud taliad

Ar gyfer y rhan fwyaf o drethi, gallwch hefyd fwrw golwg dros y canlynol:

  • ad-daliadau sydd ar CThEF i chi

  • taliadau yr ydych wedi eu gwneud

  • llog ar unrhyw daliadau hwyr

  • cosbau am dalu’n hwyr neu gosbau am gyflwyno’n hwyr

  • cynlluniau talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

  • cyfrifiadau treth ar gyfer blynyddoedd blaenorol

Ychwanegu aelod o’r tîm

Dysgwch am y camau i’w cymryd er mwyn rhoi mynediad i aelod o’r tîm er mwyn iddo allu cael mynediad at eich cyfrif treth busnes.

Rhagor o wybodaeth

Gwyliwch fideo ynghylch sut i ychwanegu treth drwy’ch cyfrif treth busnes.