Canllawiau

Cosbau o ran dilyn ac olrhain tybaco

Dysgwch am y cosbau y gellir eu codi os na fyddwch yn glynu at y rheolau o ran dilyn ac olrhain tybaco yn y DU.

Mae’n rhaid i chi lynu at y rheolau dilyn ac olrhain ar gyfer cynhyrchion tybaco yn y DU (yn Saesneg) os ydych yn gweithgynhyrchu, mewnforio, cludo, storio, neu werthu cynhyrchion tybaco.

Os na fyddwch yn glynu at y rheolau, gall CThEF gymryd camau.

Os bydd Safonau Masnach yn ymweld â chi

Mae Safonau Masnach yn ymchwilio i fasnachu annheg ac i weithgareddau busnes anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i gynhyrchion tybaco na ddylent fod ar gael i’w gwerthu, a chael gwared arnynt hefyd. Weithiau gelwir y rhain yn gynhyrchion tybaco anghyfreithlon.

Os yw Safonau Masnach o’r farn eich bod wedi torri’r rheolau o ran dilyn ac olrhain tybaco, efallai y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â CThEF.

Bydd CThEF yn penderfynu a yw’r rheolau wedi’u torri, ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Bydd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gamau i’w cymryd.

Os nad ydych yn bodloni gofynion dilyn ac olrhain tybaco

Efallai y bydd methu â bodloni gofynion dilyn ac olrhain tybaco yn arwain at:

  • cosb o hyd at £10,000 am fod â chynhyrchion yn eich meddiant nad ydynt yn bodloni’r rheolau
  • atafaelu cynhyrchion tybaco ac, o bosibl, eu dinistrio
  • dadactifadu’ch ID Gweithredwr Economaidd, naill ai dros dro neu’n barhaol, os byddwch yn torri’r rheolau dro ar ôl tro, gan gyfyngu ar neu ddileu’ch gallu i brynu neu i werthu tybaco yn y DU

Dysgwch ragor ynghylch pryd y gall eich ID Gweithredwr Economaidd gael ei ddadactifadu (yn Saesneg).

Cosbau y gellir eu codi

Bydd swm y gosb ariannol yn dibynnu a yw hon yn drosedd cyntaf neu’n drosedd a ailadroddir. Bydd hefyd yn dibynnu ar faint o sigaréts neu dybaco rholio â llaw sydd yn eich meddiant ac sy’n torri’r rheolau dilyn ac olrhain tybaco.

Trosedd cyntaf

Gellir codi cosbau ariannol hyd at:

  • £2,500, os oes gennych lai na 100 o becynnau
  • £5,000, os oes gennych 100 i 299 o becynnau
  • £7,500, os oes gennych 300 i 499 o becynnau
  • £10,000, os oes gennych 500 o becynnau neu fwy

Ail drosedd

Gellir codi cosbau ariannol hyd at:

  • £5,000, os oes gennych lai na 100 o becynnau
  • £7,500, os oes gennych 100 i 299 o becynnau
  • £10,000, os oes gennych 300 o becynnau neu fwy

Troseddau pellach

Gellir codi cosbau ariannol hyd at:

  • £7,500, os oes gennych lai na 100 o becynnau
  • £10,000, os oes gennych 100 o becynnau neu fwy

O’r ail drosedd ymlaen, mae’n bosibl y bydd CThEF yn:

  • atafaelu unrhyw gynhyrchion tybaco ac, o bosibl, eu dinistrio
  • ystyried dadactifadu ID Gweithredwr Economaidd, naill ai dros dro neu’n barhaol

Sut i dalu cosb

Dysgwch sut i dalu trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau a roddir gan CThEF.

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad gan CThEF

Bydd y llythyr o benderfyniad gan CThEF yn rhoi gwybod i chi am yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad. Dysgwch sut i ofyn am adolygiad o benderfyniad gan CThEF.

Cyhoeddwyd ar 10 July 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 July 2023 + show all updates
  1. Added translation.

  2. First published.