Treth cerbydau dros dro o £1 ar gyfer y rhan fwyaf o gerbydau nwyddau trwm (HGV)
Gwiriwch os yw’ch HGV yn gymwys ar gyfer y gyfradd dreth cerbydau dros dro o £1.
O 1 Gorffennaf 2026, bydd y rhan fwyaf o gerbydau HGV yn gymwys ar gyfer gostyngiad yn y gyfradd dreth cerbyd o £1 am 12 mis.
Os yw’ch cerbyd yn gymwys, bydd y gyfradd ostyngedig yn cael ei hychwanegu’n awtomatig pan fyddwch yn trethu eich cerbyd rhwng 1 Gorffennaf 2026 a 30 Mehefin 2027.
Gwirio os yw’ch cerbyd HGV yn gymwys
Mae’r gyfradd o £1 yn gymwys i gerbydau HGV sydd o fewn y cyfraddau treth canlynol:
- 1 (HGV)
- 2 (ôl-gerbyd HGV)
- 16 (Ynysoedd Bychain)
- 23 (Trafnidiaeth Gyfun)
- 57 (Mathau Arbennig)
Gallwch ddod o hyd i’ch cyfradd treth cerbyd ar y llyfr log (V5CW). Os ydych chi’n weithredwr fflyd gofrestredig DVLA, gallwch hefyd wirio’r wybodaeth hon gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
Pan fydd y gyfradd £1 yn gymwys
Mae’r gyfradd £1 yn gymwys i gerbydau sydd wedi’u trethu rhwng 1 Gorffennaf 2026 a 30 Mehefin 2027.
Os ydych chi’n trethu eich cerbyd cyn 1 Gorffennaf 2026, byddwch yn talu’r gyfradd (safonol) cyfredol ac ni fyddwch yn gymwys i gael ad-daliad. Byddwch yn gallu talu’r gyfradd £1 y tro nesaf y byddwch yn ei drethu yn ystod y cyfnod cyfradd gostyngedig.
Treth HGV
Os yw eich cerbyd yn atebol i’r dreth HGV, bydd yn parhau i gael ei godi ar y gyfradd gyfredol ochr yn ochr â’r gyfradd £1 o VED. Bydd hyn yn cael ei hychwanegu’n awtomatig pan fyddwch chi’n adnewyddu eich treth cerbyd.
Sut i drethu eich cerbyd
Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein, dros y ffon neu yn Swyddfa’r Post sy’n delio a threth cerbyd.
Efallai na fydd y gyfradd ar eich nodyn atgoffa treth cerbyd yn cynnwys y gyfradd £1. Bydd y gyfradd gywir yn cael ei hychwanegu pan fyddwch chi’n trethu eich cerbyd.