Canllawiau

Hyrwyddwyr cynlluniau arbed treth yn targedu gweithwyr y GIG sy’n dychwelyd i’r gwaith (Spotlight 54)

Cael gwybod am y cynlluniau arbed treth sy’n cael eu defnyddio i dargedu gweithwyr sy’n dychwelyd i’r GIG er mwyn helpu i ymateb i’r achos o goronafeirws (COVID-19).

Mae CThEM yn ymwybodol bod hyrwyddwyr diegwyddor cynlluniau arbed treth yn targedu gweithwyr sy’n dychwelyd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) er mwyn helpu i ymateb i’r achos o goronafeirws (COVID-19).

Os ydych yn dychwelyd i weithio i’r GIG, mae CThEM yn eich rhybuddio i fod yn ofalus iawn ac i beidio ag ymuno â’r cynlluniau hyn. Mae CThEM yn ystyried eu bod yn enghreifftiau o arbed treth.

Nodweddion y cynlluniau arbed treth hyn

Mae gan y cynlluniau sy’n cael eu cynnig rai nodweddion cyffredin (gan gynnwys defnyddio cwmni ambarél) er y gellir eu disgrifio’n wahanol. Fel arfer, bydd y cyflog yn cynnwys dau daliad i chi:

  • bydd y taliad cyntaf yn cael ei ddatgan fel enillion, a bydd yn mynd drwy gyflogres y cwmni ambarél, yn aml ar lefel debyg i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu fel taliad cyfradd unffurf, er enghraifft, £100 yr wythnos
  • nid yw’r ail daliad y bydd y cwmni ambarél yn ei hawlio yn drethadwy – gellir disgrifio’r taliad hwn fel benthyciad, blwydd-dal, cyfranddaliadau, blaenswm cyfalaf sy’n cynnwys cydberchnogaeth, neu daliad sy’n deillio o gyfleuster credyd cylchdröol, neu ryw ffurf arall nad yw’n drethadwy

Mae gan bob un o’r cynlluniau hyn un peth yn gyffredin, a hynny yw ceisio cuddio gwir lefel eich enillion, a fyddai fel rheol yn destun Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mae’n bosibl y bydd rhai cwmnïau ambarél yn cynnig esboniadau amwys ynghylch sut mae’r cynlluniau’n gweithio, er enghraifft, drwy ddefnyddio’ch lwfans personol yn fwy effeithlon ac, yn aml, byddant yn honni y gallwch fynd ag 80% i 85% o’ch cyflog adref.

Gall y slipiau cyflog a roddir gan y cwmni ambarél hefyd fod yn gamarweiniol. Gallant ddangos un neu’r ddau o’r canlynol:

  • y taliad cyntaf yn unig
  • didyniadau anghywir

Os gofynnir i chi lofnodi dogfennau heblaw eich contract cyflogaeth, dylech feddwl yn ofalus iawn cyn cofrestru. Dylech herio’r sefyllfa os gofynnir i chi lofnodi cytundebau ar wahân i gael benthyciadau, blaensymiau, cyfranddaliadau, blwydd-daliadau neu unrhyw beth arall nad yw’n berthnasol i’ch gwaith. Mae’r cynlluniau hyn yn debygol iawn o gynnwys arbed treth, hyd yn oed os nad ydych yn sylweddoli hynny. O ganlyniad, gallai fod arnoch dreth a llog yn y pen draw, yn ogystal â’r ffioedd a dalwyd i’r cwmni ambarél.

Os ydych o’r farn bod y math hwn o gynllun yn cael ei gynnig i chi, mae CThEM yn eich cynghori i wneud y canlynol:

  • gwirio faint o dreth y byddai’n rhaid i chi ei thalu ar eich incwm fel arfer gan ddefnyddio cyfrifiannell dreth ar-lein CThEM – bydd y gyfrifiannell yn cyfrifo beth ddylai eich cyflog clir net fod ar ôl Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • gofyn i’r person sy’n cynnig y cynllun i chi am ddadansoddiad o’r didyniadau sy’n cael eu gwneud er mwyn i chi allu gweld y symiau a godir arnoch. Er enghraifft, gofynnwch beth sydd wedi’i gynnwys yn y ffioedd a gwiriwch a yw treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u didynnu
  • cymharu’r ffigurau i weld a yw’r cynllun sydd wedi’i gynnig i chi yn gyfreithlon ac yn cydymffurfio

Mae CThEM eisoes wedi cyhoeddi rhybuddion am gynlluniau tebyg. Mae Spotlight 53 a chyhoeddiadau Spotlight cynharach eraill yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch sut mae rhai o’r cynlluniau hyn yn honni eu bod yn gweithio.

Mae Spotlight 45 hefyd yn disgrifio’r hyn y dylid bod yn wyliadwrus amdano mewn perthynas â chwmnïau ambarél sy’n cynnig cynlluniau arbed treth.

Rhagor o arweiniad ar gyfer contractwyr a gweithwyr asiantaeth.

Yr hyn i’w wneud os ydych o’r farn eich bod eisoes yn defnyddio’r math hwn o gynllun

Os ydych yn defnyddio un o’r cynlluniau hyn, mae CThEM yn argymell yn gryf eich bod yn ei adael cyn gynted â phosibl ac yn setlo’ch materion treth.

Os ydych o’r farn eich bod newydd ymuno ag un o’r cynlluniau hyn, dylech e-bostio CA.CLscot@hmrc.gov.uk cyn gynted â phosibl.

Gweithwyr eraill yn y gwasanaeth iechyd

Os byddwch yn dod yn ymwybodol o achosion o farchnata neu hyrwyddo’r mathau hyn o gynlluniau, cysylltwch â CThEM.

Os ydych eisoes yn siarad â rhywun yn CThEM ynglŷn â’r defnydd o gynllun arbed treth, cysylltwch â’r person hwnnw.

Gallwch setlo’ch materion treth os nad oes gennych gyswllt yn CThEM ac rydych yn rhan o gynllun arbed treth rydych am ei adael.

Rhagor o wybodaeth am sut i gael gwybod beth yw cynlluniau arbed treth.

Cyhoeddwyd ar 30 March 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 April 2020 + show all updates
  1. The Welsh translation for this page has been added.

  2. First published.