Carchar Abertawe: Strategaeth teulu a phobl eraill arwyddocaol
Mae strategaeth teulu Abertawe yn amlinellu sut rydyn ni’n cefnogi carcharorion yn ein gofal i ddatblygu cydberthynas ystyrlon ac adeiladol â’u teulu neu bobl eraill arwyddocaol.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Ein hymrwymiad i chi
Mae teuluoedd ar gael o bob lliw a llun. Pan fyddwn ni’n cyfeirio at ‘deuluoedd’, rydyn ni’n cynnwys perthnasau, partneriaid, gwarcheidwaid cyfreithiol, ffrindiau ac eraill sy’n chwarae rhan ystyrlon ym mywyd rhywun.
Yng Ngharchar EF Abertawe, byddwn yn:
- cefnogi carcharorion a theuluoedd i gynnal cydberthnasoedd da
- lleihau’r rhwystrau i ymweliadau a chynnig amgylchedd croesawgar a chyfeillgar i blant
- darparu gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd drwy gydol cyfnod y carcharor dan glo
- helpu i ddatblygu sgiliau magu plant cadarnhaol a chefnogi cyfranogiad rhieni yn addysg a llesiant eu plant
- cynnwys teuluoedd yn y gwaith o gynllunio dedfrydau ac ailsefydlu
- cynnig cymorth gyda chydberthnasoedd sy’n gymhleth neu dan straen
- cysylltu trigolion a theuluoedd ag awdurdodau lleol a gwasanaethau arbenigol
- sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant ar faterion sy’n ymwneud â theuluoedd a phlant
Y gefnogaeth a’r gwasanaethau a gynigir
Canolfan Ymwelwyr Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cael ei gweithredu gan PACT, ac mae’n darparu lle diogel a chroesawgar, cymorth gyda gwiriadau adnabod, a mynediad at wybodaeth a lluniaeth.
Cyfleusterau chwarae i blant
Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r neuadd ymweld yn cynnig adnoddau chwarae diogel sy’n briodol i oed. Mae offer synhwyraidd ychwanegol ar gael i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Gwaith ymgysylltu â theuluoedd
Mae rheolwr a thîm ymgysylltu â theuluoedd PACT yn darparu cefnogaeth i breswylwyr a theuluoedd, yn helpu i ailadeiladu cydberthnasoedd, yn helpu gyda materion lles plant, ac yn cysylltu â gwasanaethau cymdeithasol lle bo angen.
Galwadau fideo cymdeithasol diogel
Gall preswylwyr gael galwadau fideo diogel, gan gefnogi teuluoedd sy’n cael trafferth teithio neu sydd angen cyswllt mwy hyblyg.
Cyrsiau magu plant a chydberthnasoedd
Mae Carchar EF Abertawe yn cynnig cyrsiau fel Practical Parenting, cymorth cydberthynas, a llyfrau gwaith dan arweiniad sydd â’r nod o gryfhau cysylltiadau teuluol.
Cymorth i deuluoedd
Mae cymorth ar gael i deuluoedd sy’n profi straen, ansicrwydd neu drafferthion emosiynol. Mae Teulu a Ffrindiau Carcharorion (FFOPS) a PACT yn cynnig cymorth ymarferol, emosiynol a chyfeirio cyn, yn ystod ac ar ôl ymweliadau.
Gwaith achos ymgysylltu â theuluoedd
Mae gweithwyr achos yn cefnogi teuluoedd o ran amddiffyn plant, materion lles, ailadeiladu cydberthnasoedd a chynnal cyfathrebu pan nad yw ymweliadau rheolaidd yn bosibl.
Diwrnodau teulu
Rydyn ni’n cynnig o leiaf 12 diwrnod gyda thema benodol i deuluoedd bob blwyddyn, gan gynnwys sesiynau sy’n addas ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, diwrnodau i oedolion yn unig, a digwyddiadau arbennig fel Eid, y Nadolig a gweithgareddau tymhorol.
Pobl sy’n gadael gofal
Rydyn ni’n dilyn Strategaeth HMPPS ar gyfer Pobl sydd â Phrofiad o Ofal. Mae’r cymorth yn cynnwys hyrwyddwyr penodol, mynediad at adnoddau arbenigol, fforymau cymheiriaid, sesiynau llesiant a gwaith achos wedi’i dargedu.
Mesurau diogelu
Mae gennym bolisi diogelu i sicrhau bod oedolion, plant ac unigolion agored i niwed yn cael eu hamddiffyn. Ymatebir i bob pryder yn brydlon ac yn unol â pholisi’r gwasanaeth carchardai.
I gael rhagor o gyfeiriadau at fesurau diogelu, gweler Fframwaith Polisi Diogelu Plant HMPPS
Beth ydyn ni wedi’i gyflawni?
- Cyflwyno diwrnodau teulu cynhwysol ar thema benodol a chynyddu’r cynnig i 12 y flwyddyn.
- Gwneud y neuadd ymweld yn fwy cyfforddus a hygyrch gyda dodrefn newydd.
- Ehangu adnoddau chwarae i ddiwallu anghenion plant o bob oed a phlant niwroamrywiol.
- Gwaith partneriaeth cryfach gydag asiantaethau allanol gan gynnwys PACT, FFOPS a gwasanaethau niwroamrywiaeth.
- Darparu arolwg o anghenion teuluoedd ar draws y carchar sy’n arwain y gwelliannau presennol.
- Gwell cyfleoedd cyfathrebu drwy alwadau fideo a mynediad hyblyg dros y ffôn.
- Mwy o amlygrwydd i gyfleoedd cefnogi teuluoedd drwy’r sefydliad cyfan.
Fe ddywedoch chi, fe wnaethon ni
- Fe ddywedoch chi: Mwy o ddiwrnodau teulu. Fe wnaethon ni: Cynyddu’r cynnig o 9 i 12 y flwyddyn.
- Fe ddywedoch chi: Mwy o luniaeth yn ystod ymweliadau. Fe wnaethon ni: Ehangu’r amrywiaeth o fyrbrydau a diodydd sydd ar gael.
- Fe ddywedoch chi: Mwy o deganau i blant hŷn. Fe wnaethon ni: Cyflwyno ystod ehangach o gemau a gweithgareddau i bob oed.
- Fe ddywedoch chi: Dewisiadau bwyd poeth. Fe wnaethon ni: Cyflwyno rholiau cig moch yn ystod ymweliadau bore, gyda mwy o opsiynau newydd ar y gweill.
Sut byddwn ni’n mesur ein llwyddiant?
Rydyn ni’n adolygu cynnydd ac ansawdd yn rheolaidd drwy:
- holiaduron anghenion teuluoedd carcharorion
- pwyllgor ymgynghorol carcharorion
- cyfarfodydd lleihau aildroseddu
- Adborth Arolygiaeth Carchardai EF
- Mesur Ansawdd Bywyd yn y Carchar a mesurau diwylliant adsefydlu
- bwrdd cynghori ymwelwyr
- ymgysylltu â thimau carchardai mwy diogel
- mesurau perfformiad sy’n gysylltiedig â chyswllt â theulu
Strwythur Staffio
- Llywodraethwr
- Pennaeth Lleihau Aildroseddu
- Pennaeth y Gaplaniaeth
- Arweinydd y Teulu a Phobl Eraill Arwyddocaol
- Hyrwyddwr y Teulu a Phobl Eraill Arwyddocaol
- Rheolwr Ymgysylltu â Theuluoedd PACT
- Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd
- Gwirfoddolwyr