Tudalennau atodol CT600M: Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi
Sut i lenwi tudalennau atodol CT600M a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.
Pryd i’w llenwi
Llenwch y tudalennau atodol hyn os yw’r cwmni yn hawlio:
-
lwfansau strwythurau ac adeiladau (SBA) uwch
-
lwfansau cyfalaf uwch (ECA) ar gyfer offer a pheiriannau ar gyfer gwariant cymhwysol sy’n ymwneud â safle treth Porthladd Rhydd neu Barth Buddsoddi
Darllenwch restr CThEF o safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd a’r mapiau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth am y cwmni
M1 Enw’r cwmni
Nodwch enw’r cwmni.
M2 Cyfeirnod treth
Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr yn y DU, sef 10 digid, ar gyfer y cwmni.
Y cyfnod sydd dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)
M3
Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.
M4
Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.
Lwfansau strwythurau ac adeiladau uwch mewn Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi
M5
Gwnewch gofnod ar wahân ar gyfer hawliadau sy’n ymwneud â phob adeilad neu strwythur y mae hawliad yn cael ei wneud ar ei gyfer.
Colofn A Lleoliad y Porthladd Rhydd neu’r Parth Buddsoddi
Nodwch y rhif sy’n cyfateb i leoliad y Porthladd Rhydd neu’r Parth Buddsoddi yn unig:
- Porthladd Rhydd: Maes awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr — 1
- Porthladd Rhydd: Felixstowe a Harwich — 2
- Porthladd Rhydd: Humber — 3
- Porthladd Rhydd: Rhanbarth Dinas Lerpwl — 4
- Porthladd Rhydd: Plymouth a De Dyfnaint — 5
- Porthladd Rhydd: Solent — 6
- Porthladd Rhydd: Thames — 7
- Porthladd Rhydd: Teesside — 8
- Porthladd Rhydd: Inverness a Cromarty Firth — 9
- Porthladd Rhydd: Forth — 10
- Porthladd Rhydd: Ynys Môn — 11
- Porthladd Rhydd: Celtaidd (Port Talbot ac Aberdaugleddau) — 12
- Parth Buddsoddi: Rhanbarth Dinas Lerpwl — 13
- Parth Buddsoddi: Gogledd-ddwyrain Lloegr — 14
- Parth Buddsoddi: Gorllewin Canolbarth Lloegr — 15
- Parth Buddsoddi: Dwyrain Canolbarth Lloegr — 16
Colofn B Cyfeiriad gweithrediad busnes
Nodwch gyfeiriad y gweithrediad busnes.
Colofn C Dyddiad y daethpwyd â’r strwythur neu’r adeilad i ddefnydd cymhwysol
Nodwch naill ai’r dyddiad y daethpwyd â’r strwythur neu’r adeilad yr ydych yn hawlio ar ei gyfer i ddefnydd cymhwysol, neu’r dyddiad yr aethpwyd i’r gwariant cymhwysol, pa un bynnag sydd hwyraf.
Colofn D Dyddiad y contract adeiladu cyntaf
Nodwch y dyddiad ar gyfer y contract adeiladu cyntaf. Os na wneir contract, neu os gwneir y contract dim ond ar ôl i’r gwaith adeiladu ddechrau, nodwch ddyddiad dechrau’r gwaith adeiladu.
Colofn E Cyfanswm y gwariant cymhwysol
Nodwch gyfanswm y gwariant cymhwysol Porthladd Rhydd neu Barth Buddsoddi sy’n ymwneud ag adeilad neu strwythur os mai chi yw’r hawliwr cyntaf a’ch bod yn hawlio lwfans strwythurau ac adeiladau am y tro cyntaf mewn perthynas â’r swm hwnnw o wariant cymhwysol Porthladd Rhydd neu Barth Buddsoddi. Mae’n rhaid adlewyrchu’r gwariant cymhwysol hwn mewn datganiad lwfans. Os mai chi a wnaeth y gwariant cymhwysol a’ch bod wedi nodi’r gwariant o’r blaen ochr yn ochr â’ch hawliad cyntaf i SBA, yna nodwch 0. Os ydych chi’n berchennog dilynol ar y strwythur neu’r adeilad a bod perchennog blaenorol wedi hawlio SBA, yna dylech nodi 0 (dylech gymryd yn ganiataol bod perchennog blaenorol wedi hawlio SBA ac wedi adrodd am y gwariant cymhwysol oni bai eich bod yn gwybod fel arall).
Pan fo dosraniad wedi’i wneud, peidiwch â chynnwys y swm nad yw’n wariant cymhwysol Porthladd Rhydd neu Barth Buddsoddi. Dylid adrodd am y gwariant hwn ar eich CT600 yn y ffordd arferol.
Colofn F Cyfanswm y Lwfans Strwythurau ac Adeiladau (SBA) a hawliwyd
Nodwch gyfanswm y lwfans strwythurau ac adeiladau uwch a hawliwyd. Pan fo dosraniad wedi’i wneud ar gyfer eiddo sy’n pontio safle treth, peidiwch â chynnwys swm y lwfansau strwythurau ac adeiladau a hawliwyd nad oeddent yn lwfansau uwch. Dylid adrodd am y swm hwn a hawliwyd ar eich CT600 yn y ffordd arferol.
M10 Cyfanswm y gwariant cymhwysol
Nodwch gyfanswm colofn E.
Mae’n rhaid cynnwys y swm hwn hefyd ym mlwch 771 o’ch ffurflen CT600.
M15 Cyfanswm y lwfansau strwythurau ac adeiladau a hawliwyd
Nodwch gyfanswm colofn F.
Mae’n rhaid cynnwys y swm hwn hefyd ym mlwch 711 (y swm sy’n gysylltiedig â masnach) ac i flwch 736 (y swm nad yw’n gysylltiedig â masnach) o’ch ffurflen CT600.
Lwfans cyfalaf uwch ar gyfer offer a pheiriannau mewn Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi
M20
Mae’n rhaid gwneud cofnod ar wahân ar gyfer hawliadau sy’n ymwneud â gwahanol Borthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi.
Colofn A Lleoliad y Porthladd Rhydd neu’r Parth Buddsoddi
Nodwch y rhif sy’n cyfateb i leoliad y Porthladd Rhydd neu’r Parth Buddsoddi yn unig:
- Porthladd Rhydd: Maes awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr — 1
- Porthladd Rhydd: Felixstowe a Harwich — 2
- Porthladd Rhydd: Humber — 3
- Porthladd Rhydd: Rhanbarth Dinas Lerpwl — 4
- Porthladd Rhydd: Plymouth a De Dyfnaint — 5
- Porthladd Rhydd: Solent — 6
- Porthladd Rhydd: Thames — 7
- Porthladd Rhydd: Teesside — 8
- Porthladd Rhydd: Inverness a Cromarty Firth — 9
- Porthladd Rhydd: Forth — 10
- Porthladd Rhydd: Ynys Môn — 11
- Porthladd Rhydd: Celtaidd (Port Talbot ac Aberdaugleddau) — 12
- Parth Buddsoddi: Rhanbarth Dinas Lerpwl — 13
- Parth Buddsoddi: Gogledd-ddwyrain Lloegr — 14
- Parth Buddsoddi: Gorllewin Canolbarth Lloegr — 15
- Parth Buddsoddi: Dwyrain Canolbarth Lloegr — 16
Colofn B Cyfeiriad gweithrediad busnes
Nodwch gyfeiriad y gweithrediad busnes.
Colofn C Rhowch ‘X’ yn y blwch os gwnaethoch hawliad Ardal Fenter yn ymwneud â’r hawliad lwfans cyfalaf uwch hwn
Nodwch X os yw’ch gweithrediad busnes wedi’i leoli mewn ardal fenter hefyd, a’ch bod wedi hawlio rhyddhad treth am y buddsoddiad hwn mewn offer neu beiriannau sydd i’w defnyddio, neu sydd i’w cadw er mwyn eu defnyddio, o fewn ardal ddynodedig a gynorthwyir yn yr ardal fenter honno.
Colofn D Cyfanswm y lwfans cyfalaf uwch a hawliwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu
Nodwch gyfanswm y lwfansau a hawliwyd wrth brynu offer neu beiriannau i’w defnyddio yn bennaf ar safle treth mewn Porthladd Rhydd Barth Buddsoddi penodol. Os hawlir y lwfans llawn, dyma fydd cyfanswm y gwariant a wnaed.
Colofn E Gwerth gwaredu
Nodwch unrhyw swm a ystyriwyd ar gyfer gwaredu offer neu beiriannau o’r fath, hyd yn oed os nad yw tâl mantoli wedi codi oherwydd bod y gwerth gwaredu’n cael ei ystyried yn y brif gronfa, cronfa cyfradd arbennig neu gronfa sengl o asedion.
Peidiwch â chynnwys y symiau yng ngholofnau D ac E gyda’r lwfansau eraill a thaliadau mantoli ym mlychau 690 i 730 o’ch ffurflen CT600 (oni bai bod gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa, cronfa cyfradd arbennig neu gronfa sengl o asedion, os felly gallai effeithio ar y symiau a gofnodir yn y blychau hynny).
M25 Cyfanswm y lwfans cyfalaf uwch a hawliwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu
Nodwch gyfanswm colofn D. Mae’n rhaid cynnwys y swm hwn gydag unrhyw wariant lwfans blwyddyn gyntaf arall ym mlwch 760 o’ch ffurflen CT600.
M30 Cyfanswm yr holl werthoedd gwaredu
Nodwch gyfanswm colofn E.
Updates to this page
-
A new designated Investment Zone has been added to column A locations for M5 and M20.
-
Investment zones tax site has been added. M5 and M20 column A locations have new entries added. Welsh translation has been updated.
-
Welsh translation added.
-
Guidance about completing 'Column E Total amount of qualifying expenditure' has been updated.
-
First published.