Canllawiau

Tudalennau atodol CT600I: tâl atodol yng nghyswllt masnach a ddiogelwyd

Sut i lenwi tudalennau atodol CT600I a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i’w llenwi

Llenwch y tudalennau atodol hyn os, am unrhyw gyfnod sy’n dechrau (neu y tybir ei fod wedi dechrau) ar neu ar ôl 17 Ebrill 2002, oedd y cwmni’n cynnal masnach cynhyrchu a ddiogelwyd o dan Ran 8 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010.

Gwybodaeth am y cwmni

I1 Enw’r cwmni

Nodwch enw’r cwmni.

I2 Cyfeirnod treth

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr yn y DU, sef 10 digid, ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod sydd dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

I3

Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

I4

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

Cyfrifo’r tâl atodol

I5 i I15 Tâl atodol yng nghyswllt elw a ddiogelwyd

Mae Deddf Treth Gorfforaeth 2010 yn diffinio masnach a ddiogelwyd yn:

Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau echdynnu olew ac unrhyw weithgareddau sy’n cynnwys caffael, mwynhad neu ymelwa ar hawliau olew yn y DU neu mewn ardal ddynodedig. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu pob gweithgaredd artraeth ac alltraeth o’r fath hyd at gyrion allanol Sgafell Gyfandirol y DU.

Codir y tâl atodol ar yr holl elw a ddiogelwyd wedi’i addasu sy’n dod i law ar neu ar ôl 17 Ebrill 2002. Rhaid i chi nodi ffigur yr elw neu’r golled a ddiogelwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu ar ôl unrhyw ryddhad grŵp a ildiwyd i’r cwmni a’i osod yn erbyn elw a ddiogelwyd ar gyfer y cyfnod (ond cyn i golledion gael eu dwyn ymlaen neu eu cario yn ôl o gyfnodau eraill).

I20, I25 ac I30 Costau ariannu nas caniateir

I gyfrifo’r elw a ddiogelwyd wedi’i addasu, mae’r costau ariannu sy’n rhan o’r elw neu’r colledion a ddiogelwyd yn cael eu hepgor o’r cyfrif. Costau ariannu yw costau’r cyllid i ariannu dyledion, ac maent yn cynnwys:

Y costau ariannu y mae angen i chi eu nodi yw’r rheiny ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn. Os, o dan amgylchiadau prin, mae costau ariannu net yn negyddol ac mae angen eu tynnu o’r elw a ddiogelwyd, dylid nodi’r addasiad ym mlwch I50.

I35 Elw a ddiogelwyd wedi’i addasu

Addaswch yr elw neu’r colledion a ddangosir ym mlwch I5 ar gyfer cyfanswm y costau ariannu nas caniateir sydd i’w weld ym mlwch I30, gan ychwanegu’r ffigur yn I30 yn ôl i’r elw neu i leihau’r colledion. Os mai colled yw’r canlyniad, nodwch ‘0’ ym mlwch I35.

I40 Addasiad datgomisiynu

Mae’r blwch hwn yn berthnasol dim ond pan fydd cyfradd y tâl atodol yn uwch nag 20%.

Ar gyfer gwariant mewn cysylltiad â datgomisiynu a wnaed ar neu ar ôl 21 Mawrth 2012, mae adran 330A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 yn cyfyngu ar y rhyddhad treth sydd ar gael ar gyfer gwariant datgomisiynu at ddibenion y tâl atodol.

Mae’n gwneud hyn trwy gynyddu’r elw sy’n agored i’r tâl atodol lle cymerir gwariant datgomisiynu i ystyriaeth wrth leihau neu ddileu’r elw hwnnw. Gellir cymryd y gwariant datgomisiynu i ystyriaeth felly drwy fod yn wariant yn y cyfnod cyfrifyddu presennol neu drwy gael ei gynnwys yn y colledion a ddygwyd ymlaen, a gariwyd yn ôl neu a ildiwyd i’r cwmni. Nodwch swm y cynnydd ym mlwch I40.

I45 Elw a ddiogelwyd wedi’i ddiwygio

Nodwch yr elw a ddiogelwyd wedi’i ddiwygio ar ôl rhoi’r addasiad datgomisiynu ar waith.

I50 Y colledion a ddygwyd ymlaen neu o gyfnod cyfrifyddu diweddarach

Os yw’r cwmni wedi gosod colledion a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cynharach neu yn ôl o gyfnodau diweddarach yn erbyn elw’r cyfnod ar gyfer Treth Gorfforaeth, mae angen lleihau’r colledion hynny er mwyn cyfrifo’r tâl atodol i ddileu’r costau ariannu.

Colledion a ddygir ymlaen fydd y colledion cronedig fel y’u cyfrifwyd gan ddefnyddio’r dybiaeth bod costau ariannu’n cael eu hepgor wrth gyfrifo elw neu golled y cwmni yn sgil unrhyw fasnach a ddiogelwyd ar gyfer cyfnod cyfrifyddu (darllenwch adran 330(3) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010).

Bydd colledion o gyfnod diweddarach o dan adran 37 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 fel y’u cyfrifir gan ddefnyddio’r rhagdybiaeth yn adran 330(3). Ni all y cyfanswm a nodwyd yn y blwch hwn fod yn fwy na’r swm ym mlwch I45.

Pan gynhwysir y gwariant datgomisiynu yn y colledion a ddygir ymlaen neu a gariwyd yn ôl, cynyddwch yr elw a ddiogelwyd wedi’i addasu yn ystod y cyfnod cyfrifyddu gan y ffracsiwn priodol o’r gwariant datgomisiynu a gymerir i ystyriaeth wrth leihau elw’r cyfnod cyfrifyddu. Nodwch swm y cynnydd ym mlwch I40.

Addasiad datgomisiynu

I55 Gostyngiad datgomisiynu

Pan fo’r gwariant datgomisiynu yn lleihau faint o Dreth Refeniw Petroliwm (PRT) y gellir ei godi, mae adran 330B o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 yn darparu gostyngiad yn yr elw sy’n agored i’r tâl atodol lle byddai’r elw sy’n deillio o’r gostyngiad yn y PRT yn agored i’r tâl atodol ar gyfradd o fwy nag 20%.

Nodwch swm y gostyngiad yn y blwch hwn. Peidiwch â nodi swm sy’n fwy na’r hyn sydd ei angen i leihau I65 i ddim.

I60 Lwfans Maes

Nodwch swm y Lwfans Maes. Dylech gynnwys unrhyw hawliad am lwfans artraeth mewn perthynas â gwariant cyfalaf a wnaed ar ac ar ôl 5 Rhagfyr 2013. Peidiwch â nodi swm sy’n fwy na’r hyn sydd ei angen i leihau I65 i ddim.

Dylech gynnwys unrhyw hawliad am lwfans ardaloedd clwstwr o bwysedd a thymheredd uchel, lwfans olew a nwy artraeth neu lwfans buddsoddi yn y blwch hwn. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

I65 Elw net sy’n agored i’r tâl am ddiogelu

Nodwch y ffigur ym mlwch I45 llai’r ffigurau ym mlychau I50 i I65.

I70 Treth ar y gyfradd tâl atodol

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl:

  • 24 Mawrth 2011, y tâl atodol yw 32%

  • 1 Ionawr 2015, y tâl atodol yw 20%

  • 1 Ionawr 2016, y tâl atodol yw 10%

Wrth gyfrifo swm y tâl atodol ar gyfer cyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2015 ac sy’n dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, dylech drin y cyfnod sy’n dod cyn 1 Ionawr 2015 a’r cyfnod sy’n dod ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel cyfnodau cyfrifyddu ar wahân.

Wrth gyfrifo swm y tâl atodol ar gyfer cyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2016 ac sy’n dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, dylech drin y cyfnod sy’n dod cyn 1 Ionawr 2015 a’r cyfnod sy’n dod ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel cyfnodau cyfrifyddu ar wahân.

Dylech rannu’r elw rhwng y cyfnodau cyfrifyddu gwahanol hynny yn gymesur â nifer y diwrnodau yn y cyfnodau hynny. Fodd bynnag, os yw dosraniad ar sail amser yn rhoi canlyniad sy’n anghyfiawn neu’n afresymol, gall y cwmni ddewis sail sy’n gyfiawn ac yn rhesymol. Os yw’r amgylchiadau hyn yn berthnasol, cysylltwch â’ch swyddfa dreth CThEF i gael cyngor.

Nodwch y ffigur o flwch I70 ym mlwch 505 ar eich ffurflen CT600.

Colledion (lle bo hynny’n briodol)

I75 Colledion masnach a ddiogelwyd yn y cyfnod

Dylai hyn fod yn golledion masnach y cwmni a ddiogelwyd yn y cyfnod fel y’i cyfrifir gan ddefnyddio’r rhagdybiaeth yn adran 330(3) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010.

Masnach a ddiogelwyd net

I80 ac I85 Treth a ddiogelwyd net

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2005, mae rhwymedigaeth i Dreth Gorfforaeth a’r tâl atodol mewn perthynas ag elw a ddiogelwyd cwmni mawr yn daladwy fesul uchafswm o 3 rhandaliad. Mae treth ar elw arall yn parhau i fod yn daladwy fesul uchafswm o 4 rhandaliad. Mae trefniadau trosiannol ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2016 ac sy’n dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Yn y blwch perthnasol, nodwch y ffigur yr ydych wedi’i gyfrifo ar gyfer Treth Gorfforaeth a ddiogelwyd a’r tâl atodol o dan adran 330(o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (adran 501A (3) o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988 gynt) ar ôl unrhyw ddidyniad pellach o ran treth.

Gall y didyniad pellach hwn gyfeirio yn unig at ddidyniadau a ddangosir ar y ffurflen CT600 ar ôl blwch 510 ar y ffurflen honno. Er enghraifft, efallai y byddwch am leihau naill ai’r ffigur Treth Gorfforaeth a ddiogelwyd neu’r ffigur tâl atodol gan y Dreth Incwm a ddidynnwyd o’r incwm gros sydd wedi’i gynnwys yn yr elw arall.

Nodwch y ffigurau o flychau I180 ac I85 ym mlychau 585 a 590 ar eich ffurflen CT600.

Hanes treth wedi’i drosglwyddo

Wrth werthu trwydded olew a nwy a gymeradwywyd ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2018, gall y prynwr ddewis ar y cyd â gwerthwr y drwydded honno i drosglwyddo rhan o hanes treth y cwmni sy’n gwerthu iddynt yn unol ag atodlen 15 o Ddeddf Cyllid 2019.

Mae angen i chi lenwi’r adran hon os gwnaeth y cwmni ddewis ar y cyd i drosglwyddo’r hanes treth.

Pan fo’r cwmni wedi caffael yr hanes treth trosglwyddadwy (TTH), mae’n ofynnol iddo gyflwyno manylion elw sydd wedi’i olrhain yr ased a drosglwyddwyd ynghyd â’i Ffurflen Dreth Gorfforaeth flynyddol. Mae blychau I90 i I160 yn darparu lle i gwmnïau roi’r wybodaeth ychwanegol honno, er nad yw’r blychau hyn yn rhan o Ffurflen Dreth y cwmni.

I90 ac I95 Mae dewis i drosglwyddo hanes treth wedi ei wneud yn y cyfnod dan sylw yn y Ffurflen Dreth hon

Nodwch X ym mlwch I190 os gwnaeth y cwmni un neu fwy dewis o ran caffael asedion yn ystod cyfnod y Ffurflen Dreth hon.

Nodwch X ym mlwch I195 os gwnaeth y cwmni un neu fwy dewis o ran gwaredu asedion yn ystod cyfnod y Ffurflen Dreth hon.

I100 ac I105 Mae dewis i drosglwyddo hanes treth wedi ei wneud yn ystod cyfnod cyfrifyddu blaenorol

Nodwch X ym mlwch I190 os gwnaeth y cwmni un neu fwy dewis o ran caffael asedion yn ystod cyfnod cyfrifyddu blaenorol.

Nodwch X ym mlwch I195 os gwnaeth y cwmni un neu fwy dewis o ran gwaredu asedion yn ystod cyfnod cyfrifyddu blaenorol.

Gwybodaeth am yr ased a’i olrhain

Llenwch flychau I110 i I160 ar gyfer pob ased a gafaelwyd. Dylech lenwi ac amgáu dalen ychwanegol lle mae asedion lluosog wedi’u caffael.

I110 Disgrifiad o’r ased

Nodwch enw’r maes a gaffaelwyd y gwnaed dewis hanes treth trosglwyddadwy ar ei gyfer.

I115 Cyfeirnod yr ased

Nodwch gyfeirnod yr ased a roddwyd gan CThEF pan gytunwyd ar fanylion y dewis a’r hanes treth trosglwyddadwy cysylltiedig. Dylid ei ddefnyddio ym mhob gohebiaeth a phob Ffurflen Dreth Gorfforaeth yn y dyfodol i nodi’n unigryw yr ased a’r hanes treth trosglwyddadwy cysylltiedig, ynghyd â’r enw neu’r disgrifiad a ddarperir. 

I120 Rhowch ‘X’ ym mlwch I120 os yw’r OGA wedi cymeradwyo dod â’r cynhyrchu i ben.

Nodwch X os yw’r Awdurdod Olew a Nwy (OGA) wedi cymeradwyo dod â’r cynhyrchu i ben mewn perthynas â’r ased hwn.

I125 Rhowch ‘X’ ym mlwch I125 os yw ardystiad olrhain yr STO yn gymwys.

Nodwch X os yw ardystiad yr uwch swyddog olrhain (STO) yn gymwys neu â chafeat. Mae Rhan 9 o atodlen 15 o Ddeddf Cyllid 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni benodi STO i oruchwylio’r gwaith parhaus o olrhain elw a cholledion sy’n ymwneud â’r ased hwn. Rhaid i’r STO ddarparu ardystiad ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu bod yr elw wedi’i olrhain yn briodol.

Olrhain hanes treth wedi’i drosglwyddo

I130 Rhowch ‘X’ ym mlwch I130 os oes atodlen fanwl o’r cyfnodau cyfrifyddu a’r cyfraddau ar waith wedi’i chynnwys yn y cyfrifiannau treth

Nodwch X os oes atodlen fanwl wedi’i darparu. Dim ond pan fo’r hanes treth trosglwyddadwy wedi’i actifadu a’i ddefnyddio neu ei werthu y mae angen darparu atodlen fanwl o’r cyfnodau cyfrifyddu a’r cyfraddau.

I135 Hanes treth wedi’i drosglwyddo — Treth Gorfforaeth a ddiogelwyd

A Swm a ddygwyd ymlaen neu sydd wedi’i gaffael

Nodwch swm yr elw a’r dreth a gynhwysir yn y dewis gwreiddiol ar gyfer yr ased hwn, llai unrhyw addasiadau a wnaed yn ystod cyfnodau cyfrifyddu blaenorol.

B Swm a drosglwyddwyd

Os gwaredwyd yr ased neu ran ohono, nodwch y symiau o elw a threth a gynhwysir yn y dewis gwreiddiol a drosglwyddwyd yn y cyfnod cyfrifyddu hwn.

C Swm a defnyddiwyd yn y cyfnod hwn

Os gwneir hawliad am golledion yn y cyfnod cyfrifyddu hwn, i’w rhyddhau yn erbyn hanes treth trosglwyddadwy yr ased hwn, nodwch y symiau o elw hanes treth trosglwyddadwy sy’n cael eu cynnwys a’r dreth sy’n cael ei hadennill yn sgil hynny.

D Swm a gariwyd ymlaen

Nodwch swm yr elw a’r dreth a gynhwysir yn y dewis gwreiddiol ar gyfer yr ased hwn, llai unrhyw addasiadau a wnaed yn y cyfnod cyfrifyddu hwn a rhai blaenorol. Dylai’r symiau elw a threth gyfateb i A minws cyfanswm B ac C.

I140 Hanes treth wedi’i drosglwyddo — tâl atodol

A Swm a ddygwyd ymlaen neu sydd wedi’i gaffael

Nodwch swm yr elw a’r dreth a gynhwysir yn y dewis gwreiddiol ar gyfer yr ased hwn, llai unrhyw addasiadau a wnaed yn ystod cyfnodau cyfrifyddu blaenorol.

B Swm a drosglwyddwyd

Os gwaredwyd yr ased neu ran ohono, nodwch y symiau o elw a threth a gynhwysir yn y dewis gwreiddiol a drosglwyddwyd yn y cyfnod cyfrifyddu hwn.

C Swm a defnyddiwyd yn y cyfnod hwn

Os gwneir hawliad am golledion yn y cyfnod cyfrifyddu hwn, i’w rhyddhau yn erbyn hanes treth trosglwyddadwy yr ased hwn, nodwch y symiau o elw a ddiogelwyd wedi’i addasu ar gyfer hanes treth trosglwyddadwy a fydd yn peidio â bod ar gael i’r cwmni er mwyn i hawliadau gael eu gosod yn eu herbyn yn y dyfodol. Ni fydd hyn o reidrwydd yr un fath â swm yr hanes treth trosglwyddadwy a ddefnyddir at ddibenion Treth Gorfforaeth a ddiogelwyd.

D Swm a gariwyd ymlaen

Nodwch swm yr elw a ddiogelwyd wedi’i addasu a’r tâl treth atodol sy’n dal i fod ar gael i’w gario ymlaen. Dylai’r symiau gyfateb i A minws cyfanswm B ac C.

I145 Elw neu golledion sydd wedi’u holrhain

A Swm a ddygwyd ymlaen

Nodwch swm net yr elw neu’r colledion sydd wedi’u holrhain y gellir eu priodoli i’r ased hwn yn ystod cyfnodau cyfrifyddu blaenorol ers caffael yr ased yn y lle cyntaf fel rhan o drafodiad lle trosglwyddwyd hanes treth trosglwyddadwy.

B Elw neu golledion ar gyfer y cyfnod hwn

Nodwch faint o elw net neu golledion y gellir eu priodoli i’r ased hwn yn y cyfnod cyfrifyddu hwn.

C Addasiadau eraill

Nodwch swm unrhyw addasiadau sydd angen eu gwneud i’r elw neu’r colledion a ddygwyd ymlaen, naill ai fel gostyngiad neu gynnydd. Er enghraifft, os trosglwyddwyd yr ased cyfan neu ran ohono, efallai y bydd angen lleihau’r elw sydd wedi’i olrhain yn gymesur â’r trosglwyddiad.  

D Swm a gariwyd ymlaen

Nodwch gyfanswm yr elw net neu’r colledion sydd wedi’u holrhain y gellir eu priodoli i’r ased hwn ers iddo gael ei gaffael, gan gynnwys y rhai ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn.

I150 Gwariant datgomisiynu

Pan fydd cyfanswm y gwariant datgomisiynu sy’n ymwneud â’r ased hwn yn hafal i neu’n fwy na’r elw net sy’n ymwneud â’r ased hwn, mae’r hanes treth trosglwyddadwy a gaffaelwyd gyda’r ased yn cael ei actifadu. O hynny ymlaen, mae’r hanes treth trosglwyddadwy ar gael ar gyfer rhyddhau colledion yn sgil hynny.

A Balans a ddygwyd ymlaen

Nodwch faint o wariant datgomisiynu a wnaed mewn perthynas â’r ased hwn yn ystod cyfnodau cyfrifyddu blaenorol ers caffael yr ased yn y lle cyntaf fel rhan o drafodiad lle defnyddiwyd hanes treth trosglwyddadwy.

B Gwariant am y cyfnod hwn

Nodwch faint o wariant datgomisiynu y gellir ei briodoli i’r ased hwn yn y cyfnod cyfrifyddu hwn.

C Addasiadau eraill

Nodwch swm unrhyw addasiadau sydd angen eu gwneud i’r gwariant datgomisiynu a ddygwyd ymlaen, naill ai fel gostyngiad neu fel cynnydd. Er enghraifft, os trosglwyddwyd yr ased cyfan neu ran ohono, efallai y bydd angen lleihau’r gwariant datgomisiynu y gellir ei briodoli yn gymesur â’r trosglwyddiad.

D Swm a gariwyd ymlaen

Nodwch gyfanswm y gwariant datgomisiynu net y gellir ei briodoli i’r ased hwn ers iddo gael ei gaffael, gan gynnwys y rhai ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn.

I155 Hanes treth trosglwyddadwy sydd wedi’i actifadu — wedi’i ddiogelu

A Wedi’i actifadu’n flaenorol

Nodwch swm yr elw a ddiogelwyd o ran hanes treth trosglwyddadwy a’r dreth gysylltiedig a actifadwyd yn ystod cyfnodau cyfrifyddu blaenorol ers caffael yr ased. Yr elw i’w gynnwys yw’r swm yr oedd y gwariant datgomisiynu mewn perthynas â’r ased hwn wedi rhagori ar yr elw net cronnus mewn perthynas â’r un ased hwn ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol. Dylai’r dreth i’w chynnwys fod yn yr un gyfran â swm yr elw o’i gymharu â’r cyfanswm.

B Wedi’i actifadu yn ystod y cyfnod hwn

Nodwch y swm ychwanegol o elw a ddiogelwyd o ran hanes treth trosglwyddadwy a’r dreth gysylltiedig a actifadwyd yn y cyfnod cyfrifyddu hwn. Yr elw i’w gynnwys yw’r swm y mae’r gwariant datgomisiynu yn y cyfnod cyfrifyddu hwn mewn perthynas â’r ased hwn wedi rhagori ar yr elw net mewn perthynas â’r ased hwn yn y cyfnod cyfrifyddu hwn. Dylai’r dreth i’w chynnwys fod yn yr un gyfran â swm yr elw o’i gymharu â’r cyfanswm.

C Cyfanswm sydd wedi’i actifadu

Nodwch y cyfansymiau o elw a threth a nodwyd ym mlychau I155 A a B, ar ôl gwneud unrhyw addasiadau pellach sydd eu hangen, er enghraifft os caiff symiau eu dadactifadu yn unol â Rhan 6 o atodlen 15 o Ddeddf Cyllid 2019.

D Cyfanswm a ddefnyddiwyd

Nodwch gyfanswm yr elw a ddiogelwyd o ran hanes treth trosglwyddadwy a’r dreth y gwnaed hawliadau am golledion yn eu herbyn yn y cyfnod cyfrifyddu hwn neu yn y gorffennol.

I160 Hanes treth trosglwyddadwy sydd wedi’i actifadu — tâl atodol

A Wedi’i actifadu’n flaenorol

Nodwch swm yr elw a ddiogelwyd wedi’i addasu o ran hanes treth trosglwyddadwy a’r tâl treth atodol cysylltiedig a actifadwyd yn ystod cyfnodau cyfrifyddu blaenorol ers caffael yr ased.

B Wedi’i actifadu yn ystod y cyfnod hwn

Nodwch y swm ychwanegol o elw a ddiogelwyd wedi’i addasu o ran hanes treth trosglwyddadwy a’r tâl treth atodol cysylltiedig a actifadwyd yn y cyfnod cyfrifyddu hwn.

C Cyfanswm sydd wedi’i actifadu

Nodwch y cyfansymiau o elw a threth a nodwyd ym mlychau I155 A a B ar ôl gwneud unrhyw addasiadau pellach sydd eu hangen, er enghraifft os caiff symiau eu dadactifadu yn unol â Rhan 6 o atodlen 15 o Ddeddf Cyllid 2019.

D Cyfanswm a ddefnyddiwyd

Nodwch gyfanswm yr elw a ddiogelwyd wedi’i addasu o ran hanes treth trosglwyddadwy a’r tâl treth atodol nad yw bellach ar gael i’r cwmni osod colledion pellach yn eu herbyn, o ganlyniad i hawliadau am golledion a wnaed yn y cyfnod cyfrifyddu hwn neu yn y gorffennol.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch y Llawlyfr Trethiant Olew (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd ar 30 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 January 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.