Canllawiau

Tudalennau atodol CT600H: breindaliadau trawsffiniol

Sut i lenwi tudalennau atodol CT600H a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i’w llenwi

Cwmnïau yn y DU neu sefydliadau parhaol yn y DU sy’n perthyn i gwmnïau tramor

Os yw’r canlynol yn wir am y cwmni (neu am y sefydliadau parhaol yn y DU sy’n perthyn i gwmni tramor):

  • gwnaeth freindaliadau trawsffiniol ar ôl 1 Hydref 2002

  • roedd yn credu’n rhesymol bod gan y sawl oedd yn cael y breindaliadau hawl i ryddhad cytuniad ar unrhyw dreth a ddidynnwyd

Mae gan y cwmni hawl i wneud taliadau o’r fath heb ddidynnu treth, neu ar y gyfradd a bennir yn y Cytuniad Trethiant Dwbl sy’n briodol i wlad breswyl y talai. Darllenwch arweiniad CThEF ar gytuniadau treth (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth am wledydd neu diriogaethau sydd â Chytundebau Trethiant Dwbl.

Gwybodaeth am y cwmni (neu’r sefydliadau parhaol yn y DU)

H1, Enw’r cwmni

Nodwch enw’r cwmni.

H2, Cyfeirnod treth

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr 10 digid ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod sydd dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

H3

Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

H4

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

Manylion y taliadau sydd wedi’u gwneud

H5A i H5H, Manylion y taliadau sydd wedi’u gwneud

Nodwch y manylion perthnasol ar gyfer pawb a gafodd y breindal. Ym mlwch H5E, nodwch enw’r wlad sydd â’r Cytundeb Trethiant Dwbl gyda’r DU.

Cosbau

Mae yna ddarpariaethau ychwanegol ar gyfer cosbau am fethu â chadw’r gyfraith ynghylch breindaliadau. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

Mae yna hefyd ddarpariaeth ar gyfer cyhoeddi Cyfarwyddyd o dan y canlynol:

Cyhoeddwyd ar 30 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 January 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.