Canllawiau

Tudalennau atodol CT600D: yswiriant

Sut i lenwi tudalennau atodol CT600D a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i’w llenwi

Llenwch y tudalennau atodol hyn os yw’r cwmni yswiriant (gan gynnwys cymdeithas gyfeillgar) wedi ymrwymo i bolisïau neu gontractau sydd wedi’u trin fel rhai sy’n ymwneud â Busnes Aswiriant Bywyd Tramor yn ystod y cyfnod cyfrifyddu.

Gwybodaeth am y cwmni

D1 Enw’r cwmni

Nodwch enw’r cwmni.

D2 Cyfeirnod treth

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ‘10 digid’ ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

D3

Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

D4

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

D5 Busnes Aswiriant Bywyd Tramor

Nodwch ‘X’ os yw’r cwmni wedi cael neu wedi llenwi’r tystysgrifau, dogfennau, ymrwymiadau a datganiadau sy’n ofynnol yn unol â Rheoliadau Cwmnïau Yswiriant (Busnes Aswiriant Bywyd Tramor) (Cydymffurfio) 1995.

Peidiwch â llenwi blwch D5 os na chrëwyd neu os na chafwyd y rhain o fewn y terfynau amser a nodir yn y rheoliadau. Yn yr achos hwn, cyflwynwch eich Ffurflen Dreth ar y sail nad yw’ch cwmni yn Fusnes Aswiriant Bywyd Tramor.

Cyhoeddwyd ar 30 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 January 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.