Canllawiau

Tudalennau atodol CT600C: rhyddhad grŵp a chonsortiwm

Sut i lenwi tudalennau atodol CT600C a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i’w llenwi

Mae angen i chi lenwi’r tudalennau atodol hyn os ydych yn hawlio neu’n ildio unrhyw un o’r canlynol:

  • symiau o dan ddarpariaethau rhyddhad y grŵp a’r (neu’r) consortiwm

  • symiau o dan adran 356NA(3)(b) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (taliadau prydles sydd dros ben ac sydd heb gael eu hystyried at ddibenion cyfrifo elw contractwr sydd wedi’i ddiogelu)

  • swm y colledion a gariwyd ymlaen o dan y rheolau diwygio colledion

Gwybodaeth am y cwmni

C1 Enw’r cwmni

Nodwch enw’r cwmni.

C2 Cyfeirnod treth

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr 10 digid ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod sydd dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

C3

Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

C4

Rhan 1: hawliadau am ryddhad grŵp

Llenwch y rhan hon os ydych yn hawlio rhyddhad grŵp yn eich cyfrifiad o Dreth Gorfforaeth sy’n daladwy. Mae’n rhaid i hawliadau rhyddhad grŵp mewn perthynas â cholledion a gariwyd ymlaen gael eu nodi yn Rhan 3 yn unig.

Oni bai bod trefniant syml ar waith, mae’n rhaid i chi hefyd atodi copi i’r hawliad o hysbysiad o gydsyniad pob cwmni sy’n ildio. Dylech gynnwys hawliadau a wnaed o dan ddarpariaethau’r consortiwm, ac atodi copi o hysbysiad o gydsyniad pob aelod o’r consortiwm.

C5 Manylion y cwmni sy’n ildio

Nodwch y manylion canlynol ar gyfer pob ildiad:

  • enw’r cwmni sy’n ildio

  • cyfnod cyfrifyddu y cwmni sy’n ildio, os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth

  • cyfeirnod treth y cwmni sy’n ildio, neu wybodaeth arall a all helpu gydag adnabod y cwmni, er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni

  • swm yr ildiad a hawliwyd

C10 Y cyfanswm a hawliwyd

Nodwch gyfanswm y rhyddhad grŵp a hawliwyd.

Nodwch y ffigur o flwch C10 ym mlwch 310 o’ch ffurflen CT600.

C15 Colledion masnachol sefydliad parhaol

Nodwch ‘X’ os yw hawliad am ryddhad grŵp yn cynnwys colledion o fasnach a gynhaliwyd yn y DU drwy sefydliad parhaol gan gwmni dibreswyl.

Darllenwch Lawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM80310: sefydliad parhaol yn y DU sy’n perthyn i gwmni dibreswyl (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

C20 Colledion cwmni dibreswyl

Nodwch ‘X’ os yw hawliad am ryddhad grŵp yn cynnwys colledion cwmni dibreswyl, heblaw’r rhai a gwmpesir gan flwch C15, neu sy’n ymwneud â chwmni cyswllt dibreswyl.

Mae hawliad yn cynnwys cwmni dibreswyl os yw’r hawliwr, sef y cwmni sy’n ildio neu unrhyw gwmni arall sydd â pherthynas sefydledig gyda’r grŵp, yn ddibreswyl.

Ni allwch wneud hawliad am ryddhad grŵp am golledion gan gwmni dibreswyl (oni bai drwy sefydliadau parhaol yn y DU) ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu a ddechreuodd ar 27 Hydref 2021, neu ar ôl hynny.

Bydd unrhyw gyfnod cyfrifyddu sy’n cwympo’r naill ochr i 27 Hydref 2021 yn cael ei drin fel 2 gyfnod ar wahân:

  • un cyfnod sy’n dod i ben ar 26 Hydref 2021

  • un cyfnod sy’n dechrau ar 27 Hydref 2021

Awdurdodi hawliad

Llenwch yr adran hon os oes trefniadau syml ar waith, ac nad oes copïau o’r cydsyniad wedi’u darparu.

Rhan 2: symiau sydd wedi’u hildio fel rhyddhad grŵp

Llenwch y rhan hon os yw’r cwmni’n ildio unrhyw swm o dan ddarpariaethau’r grŵp (neu’r consortiwm). Mae’n rhaid i hawliadau rhyddhad grŵp mewn perthynas â cholledion a gariwyd ymlaen gael eu nodi yn Rhan 4 yn unig.

Oni bai bod trefniant syml ar waith:

  • mae angen hysbysiad o gydsyniad ar gyfer pob hawliad

  • gall y rhan hon gael ei derbyn fel hysbysiad o gydsyniad os caiff ei llenwi gan berson awdurdodedig, ac mae manylion y cwmni sy’n ildio yn cael eu nodi

  • mae angen anfon copi o’r hysbysiad o gydsyniad at swyddfa CThEF sy’n delio â Ffurflen Dreth y cwmni sy’n hawlio — mae angen gwneud hyn naill ai ar yr un pryd ag y bydd y cwmni sy’n hawlio yn cyflwyno’i Ffurflen Dreth ar gyfer hawlio’r rhyddhad grŵp, neu cyn hynny

  • bydd angen cydsyniad pob aelod arall o’r consortiwm er mwyn cael rhyddhad consortiwm

C45 Colledion masnachu — cyfanswm

Nodwch swm y colledion masnachu a ildiwyd.

C46 Colledion masnachu — Gogledd Iwerddon

Gadewch y blwch hwn yn wag.

C50 Lwfansau cyfalaf anfasnachol dros ben sy’n uwch na’r incwm y maent wedi’u didynnu ohono yn y lle cyntaf

Nodwch swm y lwfansau cyfalaf anfasnachol a ildiwyd.

C55 Diffyg anfasnachol ar gysylltiadau benthyciadau

Nodwch swm y diffygion anfasnachol a ildiwyd.

C60 Rhoddion elusennol cymwys dros ben sy’n uwch na’r elw

Nodwch swm y rhoddion elusennol a’r rhoddion chwaraeon ar lefel llawr gwlad a ildiwyd.

C65 Colledion busnes eiddo yn y DU dros ben sy’n uwch na’r elw

Nodwch swm y colledion a ildiwyd.

C70 Treuliau rheoli dros ben sy’n uwch na’r elw

Nodwch swm y treuliau rheoli a ildiwyd.

C75 Diffyg anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol

Nodwch swm y diffygion anfasnachol a ildiwyd.

C80 Cyfanswm

Nodwch y cyfanswm a ildiwyd.

C85 Manylion yr ildiad

Nodwch y manylion canlynol ar gyfer pob ildiad:

  • enw’r cwmni sy’n hawlio

  • cyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n hawlio, os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth

  • cyfeirnod treth y cwmni sy’n hawlio, neu wybodaeth arall a all helpu gydag adnabod y cwmni, er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni

  • y swm a ildiwyd

C90 Y cyfanswm a ildiwyd

Nodwch y cyfanswm a ildiwyd.

Manylion y cwmni sy’n ildio rhyddhad

Llenwch yr adran hon i gyd os ydych yn defnyddio’r ffurflen hon fel hysbysiad o gydsyniad i ildio.

C115 Enw llawn yr unigolyn sy’n awdurdodi

Oni bai bod datodwr neu weinyddwr wedi’i benodi, gall unrhyw un sydd wedi’i awdurdodi i lenwi’r adran hon ar ran y cwmni fynd ati i wneud hynny.

Darllenwch Lawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM80100: Grwpiau a chonsortia: rhyddhad grŵp (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Rhan 3: hawliadau am ryddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen

Llenwch y rhan hon os ydych yn hawlio rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen yn eich cyfrifiad o Dreth Gorfforaeth sy’n daladwy. Oni bai bod trefniant syml ar waith, mae’n rhaid i chi hefyd atodi copi i’r hawliad o hysbysiad o gydsyniad pob cwmni sy’n ildio. Dylech gynnwys hawliadau a wnaed o dan ddarpariaethau’r consortiwm, ac atodi copi o hysbysiad o gydsyniad pob aelod o’r consortiwm.

C125 Manylion y cwmni sy’n ildio

Nodwch y manylion canlynol ar gyfer pob ildiad:

  • enw’r cwmni sy’n ildio

  • cyfnod cyfrifyddu y cwmni sy’n ildio, os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth

  • cyfeirnod treth y cwmni sy’n ildio, neu wybodaeth arall a all helpu gydag adnabod y cwmni, er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni

  • swm yr ildiad a hawliwyd

C130 Y cyfanswm a hawliwyd

Nodwch gyfanswm y rhyddhad grŵp a hawliwyd.

Nodwch y ffigur o flwch C130 ym mlwch 312 o’ch ffurflen CT600.

C135 Colledion masnachol sefydliad parhaol

Nodwch ‘X’ os yw hawliad am ryddhad grŵp yn cynnwys colledion o fasnach a gynhaliwyd yn y DU drwy sefydliad parhaol gan gwmni dibreswyl.

Awdurdodi hawliad

Llenwch yr adran hon os oes trefniadau syml ar waith, ac nad oes copïau o’r cydsyniad wedi’u darparu.

Rhan 4: symiau sydd wedi’u hildio fel rhyddhad grŵp

Llenwch y rhan hon os yw’r cwmni’n ildio unrhyw swm o golled a gariwyd ymlaen o dan ddarpariaethau’r grŵp (neu’r consortiwm).

Oni bai bod trefniant syml ar waith:

  • mae angen hysbysiad o gydsyniad ar gyfer pob hawliad

  • gall y rhan hon gael ei derbyn fel hysbysiad o gydsyniad os caiff ei llenwi gan berson awdurdodedig, ac mae manylion y cwmni sy’n ildio yn cael eu nodi

  • mae angen anfon copi o’r hysbysiad o gydsyniad at swyddfa CThEF sy’n delio â Ffurflen Dreth y cwmni sy’n hawlio — mae angen gwneud hyn naill ai ar yr un pryd ag y bydd y cwmni sy’n hawlio yn cyflwyno’i Ffurflen Dreth ar gyfer hawlio’r rhyddhad grŵp, neu cyn hynny

  • bydd angen cydsyniad pob aelod arall o’r consortiwm er mwyn cael rhyddhad consortiwm

C160 Colledion masnachu a gariwyd ymlaen — cyfanswm

Nodwch swm y colledion masnachu a ildiwyd.

C161 Colledion masnachu a gariwyd ymlaen — Gogledd Iwerddon

Gadewch y blwch hwn yn wag.

C165 Diffyg anfasnachol ar gysylltiadau benthyciadau a gariwyd ymlaen

Nodwch swm y diffygion anfasnachol a ildiwyd.

C170 Colledion busnes eiddo yn y DU a gariwyd ymlaen

Nodwch swm y colledion a ildiwyd.

C175 Treuliau rheoli a gariwyd ymlaen

Nodwch swm y treuliau rheoli a ildiwyd.

C180 Diffyg anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol a gariwyd ymlaen

Nodwch swm y diffygion anfasnachol a ildiwyd.

C185 Cyfanswm

Nodwch y cyfanswm a ildiwyd.

C190 Manylion yr ildiad

Nodwch y manylion canlynol ar gyfer pob ildiad:

  • enw’r cwmni sy’n hawlio

  • cyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n hawlio, os yw’n wahanol i’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth

  • cyfeirnod treth y cwmni sy’n hawlio, neu wybodaeth arall a all helpu gydag adnabod y cwmni, er enghraifft, rhif cofrestru’r cwmni

  • y swm a ildiwyd

C195 Y cyfanswm a ildiwyd

Nodwch y cyfanswm a ildiwyd.

Manylion y cwmni sy’n ildio rhyddhad

Llenwch yr adran hon i gyd os ydych yn defnyddio’r ffurflen hon fel hysbysiad o gydsyniad i ildio.

C220 Enw llawn yr unigolyn sy’n awdurdodi

Oni bai bod datodwr neu weinyddwr wedi’i benodi, gall unrhyw un sydd wedi’i awdurdodi i lenwi’r adran hon ar ran y cwmni fynd ati i wneud hynny.

Darllenwch Lawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM82000: Treth Gorfforaeth: Rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd ar 30 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 January 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.