Canllawiau

Tudalennau atodol CT600B: eithriadau i gwmnïau tramor rheoledig a sefydliadau tramor parhaol, hybrid a chamgymariadau eraill

Sut i lenwi tudalennau atodol CT600B a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i’w llenwi

Llenwch y tudalennau atodol hyn os oedd gan eich cwmni gyfran perthnasol o 25% mewn cwmni tramor rheoledig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyfrifyddu hwn, a bod un o’r canlynol yn berthnasol i gyfnod cyfrifyddu’r cwmni tramor rheoledig:

  • daeth i ben yr un pryd a chyfrifyddu’r cwmni

  • daeth i ben o fewn cyfnod cyfrifyddu’r cwmni

Dylech hefyd lenwi’r tudalennau atodol hyn os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i’r cwmni:

Peidiwch â chynnwys unrhyw gwmni tramor rheoledig sy’n bodloni’r Eithriad Treth, yr Eithriad o ran Tiriogaethau Eithriedig neu’r Eithriad o ran Maint Elw Isel.

Gwybodaeth am y cwmni

B1 Enw’r cwmni

Nodwch enw’r cwmni.

B2 Cyfeirnod treth

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ‘10 digid’ ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

B3

Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

B4

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

Eithriadau i gwmnïau tramor rheoledig a sefydliadau tramor parhaol

B5 Tabl cwmni tramor rheoledig

A Enw’r cwmni tramor rheoledig

Nodwch enw llawn y cwmni tramor rheoledig.

B Tiriogaeth breswylio

Nodwch diriogaeth breswylio’r cwmni tramor rheoledig fel y’i pennir o dan bennod 20, Rhan 9A o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol ac Eraill) 2010.

C Math o eithriad sy’n ddyledus (os o gwbl)

Mae’n rhaid i gwmni sy’n gwmni trethadwy (fel y’u diffinnir yn adran 371BD o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol ac Eraill) 2010) wneud cofnod pan fo’r elw i gyd wedi’i eithrio oherwydd:

  • nid oes yr un o benodau 4 i 8 yn berthnasol — nodwch borth pennod 3 yng ngholofn C

  • er bod angen ystyried un neu fwy o benodau 4 i 8, nid oes unrhyw elw taladwy yn codi — nodwch rif y bennod berthnasol o 4 i 8 yng ngholofn C

  • mae elw o gysylltiadau benthyciad cymwys wedi’i eithrio’n llawn o dan bennod 9 — nodwch bennod 9 yng ngholofn C

  • mae’r cwmni tramor rheoledig wedi’i eithrio gan yr Eithriad Cyfnod Eithriedig neu’r Eithriad Elw Isel — nodwch yr eithriad perthnasol yng ngholofn C

Peidiwch â llenwi colofnau D i J os nad oes tâl cwmni tramor rheoledig yn rhinwedd penodau 3 i 8, neu os oes eithriad yn berthnasol.

D Canran yr elw a’r dreth gymeradwy sy’n cael eu dosrannu’n gymesur

Nodwch y ganran o elw taladwy’r cwmni tramor rheoledig a ddosrannwyd i’r cwmni trethadwy. Diffinnir hyn fel P% yn adran 371BC o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol a Darpariaethau Eraill) 2010.

Fel arfer, hwn fydd y ganran o gyfalaf cyfranddaliadau cyffredin a ddelir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan y cwmni yn y DU (ond nid gan bobl gysylltiol neu gan bobl gysylltiedig). Ym mhob achos arall, dylid cyfrifo’r ganran briodol ar sail gyfiawn a rhesymol. Os yw elw wedi’i eithrio’n rhannol drwy weithredu unrhyw bennod (gan gynnwys pennod 9), ni ddylid cofnodi hyn yng ngholofn D.

E Elw taladwy

Nodwch yr elw sy’n mynd drwy’r porth taliadau cwmnïau tramor rheoledig ym mhenodau 3 i 8, wedi’u cyfrifo yn unol ag adran 371BA o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol a Darpariaethau Eraill) 2010. Gall elw sy’n agored i dâl o dan bennod 5 gael ei eithrio’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan bennod 9 wrth wneud hawliad ar y Ffurflen Dreth. Dylai’r ffigur a nodir yng Ngholofn E fod cyn unrhyw hawliad o’r fath.

F Treth ar yr elw taladwy

Nodwch swm y dreth (y tâl cwmni tramor rheoledig) sy’n ddyledus mewn perthynas â chyfran y cwmni trethadwy o elw trethadwy’r cwmni tramor rheoledig.

G Treth gymeradwy

Nodwch swm y dreth sydd eisoes wedi’i thalu ar yr elw taladwy sy’n ddidynadwy.

H Rhyddhad o ran treth (eithriad wedi’i hawlio o dan Bennod 9)

Nodwch swm y dreth ar unrhyw elw a eithrir drwy wneud hawliad o dan bennod 9, Rhan 9A o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol a Darpariaethau Eraill) 2010.

I Rhagdaliad Treth Gorfforaeth fel un cyfyngedig

Nodwch swm unrhyw Dreth Gorfforaeth Ymlaen Llaw sydd dros ben ac sydd heb ei rhyddhau o dan adran 32 o Ddeddf Cyllid 1998.

J Tâl cwmni tramor rheoledig sy’n ddyledus

Nodwch swm y tâl cwmni tramor rheoledig sy’n ddyledus.

B10 Cyfanswm y dreth ar yr elw taladwy

Nodwch gyfanswm colofn F.

B15 Cyfanswm y dreth gymeradwy

Nodwch gyfanswm colofn G.

B20 Cyfanswm y rhyddhadau o ran treth

Nodwch gyfanswm colofn H.

B25 Cyfanswm y Rhagdaliad Treth Gorfforaeth fel un cyfyngedig

Nodwch gyfanswm colofn I.

B30 Cyfanswm y tâl cwmni tramor rheoledig sy’n ddyledus

Nodwch gyfanswm colofn J.

Nodwch y ffigur o flwch B30 i flwch 490 ar eich ffurflen CT600.

B35 Rhowch ‘X’ yn y blwch os mai’r cyfnod cyntaf yw hwn i ddewis eithriad sefydliad tramor parhaol fod yn berthnasol

Nodwch ‘X’ os mai’r cyfnod cyntaf yw hwn i ddewis eithriad sefydliad tramor parhaol fod yn berthnasol. Darllenwch Lawlyfr Rhyngwladol INTM281010: Sefydliadau tramor parhaol cwmnïau yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Hybrid a chamgymariadau eraill

Dylid llenwi B40 i B85 ar gyfer unrhyw ffurflenni a gyflwynir am y tro cyntaf o fis Ebrill 2022 ymlaen, os yw’n berthnasol. Nid oes gofyn i chi lenwi’r blychau hyn os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth ddiwygiedig.

B40 Mae’r cwmni’n endid hybrid

Nodwch ‘X’ os yw’r cwmni’n endid hybrid. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch:

B45 Roedd unrhyw drafodion gydag endidau hybrid yn yr un grŵp rheoli â’r cwmni hwn

Nodwch ‘X’ os oedd unrhyw drafodion:

  • sy’n cynnwys taliad neu led-daliad i’r cwmni gan endid hybrid yn yr un grŵp rheoli

  • o’r cwmni i endid hybrid yn yr un grŵp rheoli

Darllenwch Lawlyfr Rhyngwladol INTM550610: Hybrid: diffiniad o dermau allweddol: grwpiau rheoli a phersonau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

B50 Roedd unrhyw ddidyniad hybrid neu ddidyniadau nas caniateir/camgymariadau nad ydynt yn gynhwysol mewn cysylltiad ag offeryn ariannol.

Os bodlonir yr amodau eraill yn adran 259CA o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol ac Eraill) 2010 hefyd, nodwch ‘X’ os bu didyniad neu gamgymhariad nad yw’n gynhwysol mewn cysylltiad ag offeryn ariannol. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch:

B55 Roedd didyniad gormodol ar gyfer sefydliad parhaol

Os bodlonir yr amodau eraill yn adran 259FA o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol ac Eraill) 2010 hefyd, nodwch ‘X’ os bu didyniad gormodol ar gyfer sefydliad parhaol. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Lawlyfr Rhyngwladol INTM554000: Hybrid: trosglwyddiadau gan sefydliad parhaol yn y DU o gwmni rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg).

B60 Bu didyniad talai rhyngwladol neu gamgymhariad nad yw’n gynhwysol

Os bodlonir yr amodau eraill yn adran 259HA o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol ac Eraill) 2010 hefyd, nodwch ‘X’ os bu didyniad talai rhyngwladol neu gamgymhariad nad yw’n gynhwysol. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch:

B65 Bu gwrthweithio o dan Ran 6A o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol ac Eraill) 2010 (TIOPA 2010)

Nodwch ‘X’ os bu gwrthweithio sy’n effeithio ar y swm o dreth sy’n daladwy yn y cyfnod o dan unrhyw un o benodau Rhan 6A o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol ac Eraill) 2010.

B70 Cyfanswm gwrthweithio

Nodwch gyfanswm y gwrthweithio os ydych wedi nodi ‘X’ ym mlwch B65. Dylai’r ffigur hwn gael ei nodi yn eich cyfrifiannau.

Peidiwch â chynnwys symiau sydd ond wedi’u didynnu yn y cyfnod presennol oherwydd eu bod yn cyfateb ag Incwm Cynhwysiant Deuol.

B75 Cyfanswm didyniad adran 259LA TIOPA 2010

Nodwch y swm a ddidynnwyd oherwydd swm o incwm arferol yn codi y tu allan i’r cyfnod a ganiateir.

Dylai’r ffigur hwn gael ei nodi yn eich cyfrifiannau. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch:

B80 Cyfanswm yr hawliad am ddyrannu gwarged incwm cynhwysiant deuol (DII) y mae’r cwmni wedi’i wneud

Nodwch swm yr hawliad dyrannol a wnaed gennych i gwmni arall sy’n rhan o’r grŵp. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch:

B85 Cyfanswm yr hawliad o warged incwm cynhwysiant deuol (DII) y mae’r cwmni wedi’i ganiatáu

Nodwch swm yr hawliad dyrannol o gwmni arall sy’n rhan o’r grŵp yr ydych wedi cytuno iddo. Darllenwch adran 259ZMB o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol ac Eraill) 2010 i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd ar 30 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 January 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Information about when to complete boxes B40 to B85 has been added to the 'Hybrid and other mismatches' section.

  3. First published.