Canllawiau

Cyflwyno ymholiadau a thrafodion masnachol cymhleth neu ddatblygiad seilwaith i Gofrestrfa Tir EF

Sut i ddefnyddio Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno a Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau Cofrestrfa Tir EF.

Applies to England and Wales

Gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno a’r Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau os ydych yn drawsgludwr sy’n gweithredu ar ran cleientiaid sy’n ymwneud â thrafodiad masnachol cymhleth neu ddatblygiad seilwaith. Rhaid i’r trafodion fodloni’r meini prawf gwasanaeth.

Gellir defnyddio’r gwasanaethau gyda’i gilydd neu’n unigol. Mae gwybodaeth am ein holl wasanaethau cyn-gyflwyno, gan gynnwys y Gwasanaeth Gofyn am Arweiniad, y Gwasanaeth Datblygu Ystadau, ceisiadau cofrestriad cyntaf ar raddfa fawr a cheisiadau cofrestriad cyntaf gwirfoddol ar raddfa fawr, ar gael ar ein hyb gwasanaethau cymorth arbenigol.

Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno

Fel trawsgludwr, mae’r Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno yn rhoi cyfarwyddyd cychwynnol pan fyddwch yn cyflwyno cais masnachol cymhleth neu ddatblygiad seilwaith i’w gofrestru.

Bydd technegwyr arbenigol Cofrestrfa Tir EF yn rhoi cyfarwyddyd ar gyfer ymholiadau technegol neu weithdrefnol yn ymwneud â thrafodiad masnachol cymhleth neu ddatblygiad seilwaith. Bydd y lefel briodol o gymorth ymholi ar gael ichi.

Darpariaethau’r gwasanaeth

Mae’r Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno yn darparu:

  • cymorth pan fo gennych gwestiynau ar ôl ystyried cynnwys ein cyfarwyddiadau ymarfer ar gyfer trafodiad masnachol cymhleth neu ddatblygiad seilwaith
  • cyfarwyddyd cyffredinol ar gyflwyno neu gofrestru cyn cyflwyno cais sydd ag elfennau cymhleth
  • cyfarwyddyd cyffredinol ynghylch a yw cynlluniau neu ddogfennau yn debygol o fodloni gofynion cofrestru

Cewch ymateb ysgrifenedig ym mhanel 5 ffurflen PSS1 neu ar ddalen barhau, gan gynnwys unrhyw bwyntiau ceisiadau am wybodaeth (ymholiadau) amlwg.

Defnyddio’r Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno

Defnyddiwch ffurflen ar-lein y Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno neu lawrlwythwch ffurflen PSS1 i gyflwyno eich ymholiad.

Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau

Gellir defnyddio’r Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau i gofrestru trafodiad masnachol cymhleth neu ddatblygiad seilwaith sy’n gofyn am reolaeth agos gan Gofrestrfa Tir EF. Fel trawsgludwr, cewch gysylltiad uniongyrchol ag arbenigwyr cofrestru a fydd yn rheoli’r trafodiad trwy ei gylch oes.

Darpariaethau’r gwasanaeth

Mae’r Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau yn:

  • darparu gwasanaeth o ddechrau’r broses i’w diwedd, o drafodaeth gychwynnol cyn-gyflwyno i ôl-gwblhau
  • darparu pwyntiau cyswllt gyda staff profiadol Cofrestrfa Tir EF i reoli’r cais(ceisiadau), gan gynnwys trafodaeth gychwynnol cyn-gyflwyno
  • rhoi cyfle ichi drafod trafodiad â gweithiwr cais Cofrestrfa Tir EF cyn cyflwyno
  • helpu i osgoi ceisiadau amlwg am bwyntiau gwybodaeth (ymholiadau)
  • cynnal cysylltiad fel y cytunwyd yn y drafodaeth cyn-gyflwyno
  • rheoli llif gwaith ceisiadau lluosog a’u cydlynu mewn un lleoliad
  • cynnwys cysylltiad ôl-gwblhau â gweithwyr cais rheoli ceisiadau Cofrestrfa Tir EF (os oes angen)
  • darparu cadarnhad ysgrifenedig o’r cyfarwyddyd cyflwyno cychwynnol
  • darparu cysondeb gwasanaeth wrth brosesu trafodion lluosog

Defnyddio’r Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau

Defnyddiwch ffurflen ar-lein y Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau neu lawrlwythwch ffurflen AMS1 i gyflwyno eich cais.

Cyfyngiadau’r gwasanaeth

Nid yw’r cyfarwyddyd a roddir gan y Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno a’r Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau yn gyngor neu’n orchymyn cyfreithiol ar wneud ceisiadau.

Mae defnyddio’r gwasanaethau hyn yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch sut i ymdrin â thrafodiad ond nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gwarantu bydd cais yn llwyddiannus.

Ni all Cofrestrfa Tir EF:

  • ddarparu cyngor cyfreithiol neu roi sylwadau ar bwynt cyfreithiol
  • gwarantu y caiff cofrestriad ei dderbyn hyd nes bod y cais i gofrestru yn cael ei wneud ac rydym wedi gweld yr holl ddogfennau

Meini prawf gwasanaeth

Pryd y gellir defnyddio’r gwasanaethau

Gellir defnyddio’r Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno a’r Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau ar gyfer trafodion masnachol cymhleth neu ddatblygiadau seilwaith yn unig.

Diffinnir trafodiad masnachol fel y canlynol ond nid yw wedi ei gyfyngu i hyn:

  • prosiect neu bortffolio cymhleth, er enghraifft nifer fawr o geisiadau tebyg mewn perthynas â gwaith neu gaffaeliadau safle cymhleth
  • un trafodiad mawr a gyflwynir fel ceisiadau lluosog sy’n gofyn am reolaeth agos, er enghraifft safle datblygu sy’n cynnwys parseli lluosog o dir gan bartïon gwahanol. Gall y tir gynnwys deiliadaeth gymysg, dosbarthiadau gwahanol o deitl, a bod yn gofrestredig neu’n ddigofrestredig
  • ceisiadau lluosog cymhleth mae angen eu prosesu mewn trefn benodol, er enghraifft cadwyni o is-brydlesi, neu newidiadau perchnogaeth lluosog
  • ceisiadau lluosog sydd â mwy nag un trawsgludwr yn cyflwyno rhannau o’r trafodiad sy’n gofyn am reolaeth agos
  • ceisiadau anaml sy’n gofyn am lefel uchel o wybodaeth neu brofiad technegol, er enghraifft ad medium filum cymhleth neu ddatganiad breinio cyffredinol cymhleth
  • ceisiadau cyfuno cymhleth, er enghraifft teitlau lluosog ar gyfer safle datblygu
  • ceisiadau sydd â pherchnogaeth a threfniadau ariannu cymhleth
  • ceisiadau sydd â stentiau cymhleth, er enghraifft rhaniadau datblygiad masnachol a stentiau lefelau llawr cymhleth
  • tir amaethyddol sy’n cynnwys gwasanaeth rheoli prosiect ar gyfer achosion oherwydd y cymhlethdod o ddelio â thirfeddianwyr lluosog, er enghraifft trafodion prydles cymhleth sy’n cynnwys landlordiaid lluosog yn gosod tir i’r un tenant
  • rhaglenni seilwaith a llywodraethu strategol, er enghraifft High Speed 2 a Crossrail neu drefi marchnad a phentrefi
  • caffael tir strategol ar gyfer prosiect neu raglen

Pryd na ellir defnyddio’r gwasanaethau

Ni ellir defnyddio’r Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno a’r Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau:

  • ar gyfer ymholiadau cyffredinol y gall Gwasanaeth Cymorth i Gwsmeriaid Cofrestrfa Tir EF ymdrin â nhw
  • ar gyfer ymholiadau y gellir eu hateb trwy ddilyn cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF
  • ar gyfer ceisiadau sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno
  • i gyflymu prosesu ceisiadau
  • ar gyfer ceisiadau syml neu waith technegol o natur arferol, a all gynnwys trosglwyddiadau, prydlesi a morgeisi ar gyfer siopau, unedau masnachol, is-orsafoedd neu weithredoedd grant safonol. Dylid cyflwyno’r rhain trwy ein sianeli arferol
  • ar gyfer ceisiadau deliadau swmpus, er enghraifft rhai yn seiliedig ar weithred gyffredin, gan gynnwys trosglwyddiad neu arwystl swmpus
  • ar gyfer gwerthiannau llain datblygwr
  • ar gyfer trafodion eiddo preswyl

Os nad yw’ch trafodiad neu’ch cais yn addas ar gyfer y Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno neu’r Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau, bydd Cofrestrfa Tir EF yn rhoi esboniad ysgrifenedig ichi o fewn 48 awr.

Amser ymateb

Ein nod yw ymateb i geisiadau ar ffurflen PSS1 ac AMS1 o fewn 5 niwrnod gwaith. Os na allwn wneud hyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam a dweud wrthych pryd y gallwch ddisgwyl ymateb.

Ffi

Ni chodir tâl i ddefnyddio’r Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno a’r Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau.

Cyflwyno cais safonol

Ar ôl ichi ddefnyddio’r naill wasanaeth neu’r llall, rhaid ichi gynnwys ffurflen PSS1 wedi ei llenwi (gydag ymateb Cofrestrfa Tir EF wedi ei ddogfennu ym mhanel 5) neu ffurflen AMS1 pan fyddwch yn cyflwyno eich cais safonol inni.

Cysylltu

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno a’r Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau.

Cyhoeddwyd ar 3 November 2019