Canllawiau

Porth Landlordiaid sector rhentu cymdeithasol

Mae'r Porth Landlordiaid Credyd Cynhwysol yn caniatáu i landlordiaid y sector rhentu cymdeithasol (SRS) wirio rhent, cefnogi tenantiaid a rheoli taliadau ar-lein.

Os ydych yn landlord sector rhentu cymdeithasol (SRS), gallwch ddefnyddio’r Porth Landlordiaid i:

  • ddilysu costau tai tenant fel y gallwn wneud taliadau cyn gynted â phosibl

  • gofyn am daliadau rhent yn uniongyrchol o Gredyd Cynhwysol tenant os yw tenant yn cael anhawster talu eu rhent

  • gofyn am ddidyniadau o Gredyd Cynhwysol tenant i adennill ôl-ddyledion rhent sy’n weddill

  • gofyn am newid yn amlder taliadau tenantiaid (a elwir hefyd yn ‘daliadau amlach’)

Mynediad i’r Porth Landlordiaid

Os oes gan eich sefydliad gyfrif Porth Landlordiaid eisoes:

Mynediad i’r Porth Landlordiaid

Cymhwysedd Porth Landlordiaid

Mae’r Porth Landlordiaid ar gyfer landlordiaid SRS yn unig, nid landlordiaid preifat. Ni allwn dderbyn ceisiadau gan landlordiaid yr SRS sy’n defnyddio asiantaethau rheoli.

I fod yn landlord SRS cymwys, rhaid gosod eich tai drwy gofrestr awdurdod lleol neu broses ddyrannu yn seiliedig ar yr angen mwyaf. Rhaid ei osod hefyd ar rent sy’n is na chyfradd y farchnad.

Sut i sefydlu cyfrif

Os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, cysylltwch â’ch rheolwr partneriaeth lleol a fydd yn eich helpu i ddechrau’r broses o sefydlu cyfrif Porth Landlordiaid. Efallai y gofynnir i chi ddarparu copi o’ch polisi gosod a dyrannu fel rhan o’r broses ymgeisio.

Cyfrifon defnyddwyr

Pan fydd gan eich sefydliad ei gyfrif Porth Landlordiaid, gallwch sefydlu cyfrifon defnyddwyr newydd fel y gall eich cydweithwyr gael mynediad i’r porth.

Lefelau mynediad rôl y defnyddiwr yw:

  • ‘Manage users’ - yn gallu sefydlu, cynnal a rheoli cyfrifon defnyddwyr

  • ‘Provide tenancy details’ - yn gallu newid rhif cyfeirnod a chais tenant: ôl-ddyledion, taliadau amlach, a threfniadau talu amgen (APAs)

  • ‘Add or remove properties’ - yn gallu rheoli eich rhestr eiddo a’i lwytho i’r porth

  • ‘View payments’ - yn gallu chwilio a gweld gwybodaeth am daliadau

  • ‘Export payments’ - yn gallu chwilio a lawrlwytho ffeiliau CSV

Dim ond defnyddwyr sydd â’r rôl ‘Manage users’ all sefydlu a rheoli cyfrifon defnyddwyr unigol a newid caniatâd. Mae’n rhaid bod mwy nag un person â’r lefel caniatâd ‘Manage users’ ar gyfer diogelwch.

Sefydlu cyfrifon defnyddwyr newydd

Gall cyfrifon defnyddwyr newydd gael eu creu gan gyswllt ymrestru penodol eich sefydliad neu’r rôl ‘Manage users’. Byddant yn anfon dolen i ddefnyddwyr newydd i orffen sefydlu eu cyfrif newydd.

Er diogelwch, mae angen dilysu 2-ffactor i gael mynediad i’r porth. Ar gyfer hyn, bydd angen i ddefnyddwyr newydd gael y canlynol unigryw eu hunain:

  • rhif ffôn symudol. Gall hwn fod yn ffôn symudol personol neu waith. Ni ellir defnyddio rhif ffôn ar fwy nag un cyfrif.

  • cyfeiriad e-bost. Rhaid i holl gyfeiriadau e-bost cyfrif defnyddiwr eich sefydliad gael yr un ôl-ddodiad (y rhan ar ôl y @ ar gyfeiriad e-bost).

Ni chaniateir cyfrifon tîm. Mae hyn ar gyfer diogelwch ac archwilio. Gall landlordiaid sy’n defnyddio manylion mewngofnodi a rennir gael eu mynediad i’r porth wedi ei ddileu.

I gadwch eich cyfrif defnyddiwr, mewngofnodwch o leiaf bob 90 diwrnod

Ar gyfer diogelwch, mae cyfrifon defnyddwyr sydd heb fewngofnodi iddynt am 90 diwrnod yn cael eu dileu. Os ydych wedi gofyn am ailosodiad cyfrinair ac nad ydych yn derbyn negeseuon e-bost ailosod cyfrinair, gallai hyn fod y rheswm.

I gael mynediad i’r porth eto, gofynnwch i ddefnyddiwr sydd â’r rôl ‘Manage users’ i ail-greu eich cyfrif.

Problemau derbyn codau mynediad drwy neges destun

Ailgychwyn eich ffôn yn gyntaf gan y bydd hyn yn aml yn caniatáu anfon unrhyw negeseuon nas derbyniwyd at eich ffôn.

Os nad yw hyn yn helpu, gofynnwch i rywun sydd â’r rôl ‘Manage users’ i ailosod eich rhif ffôn symudol. Bydd hyn yn caniatáu i chi roi eich rhif ffôn symudol eto. Mae’n rhaid i chi roi rhif o fewn 20 awr i’r rhif gael ei ailosod.

Cynnal cyfrif defnyddiwr - rôl ‘Manage users’

I reoli cyfrifon defnyddwyr, dewiswch y tab ** Users ** yn y porth. Dyma lle gallwch chi ychwanegu defnyddwyr newydd a rheoli cyfrifon.

Mae’n rhaid i chi adolygu pwy sydd angen mynediad i’r porth yn rheolaidd. Rhaid i chi analluogi unrhyw gyfrifon nad oes eu hangen neu ddiwygio caniatâd y defnyddiwr.

Er diogelwch, ni allwch newid eich caniatâd eich hun, hyd yn oed os oes gennych y rôl ‘Manage users’.

I newid enw neu gyfeiriad e-bost defnyddiwr, bydd angen i chi analluogi eu cyfrif a chreu cyfrif newydd ar eu cyfer.

Gwybodaeth am denantiaid

Bydd y porth ond yn dangos tenantiaid sydd â chais Credyd Cynhwysol gweithredol ac sy’n cael eu dilysu drwy’r porth yn unig. Ni fydd yn dangos tenantiaid sydd wedi symud i landlord arall.

Os na allwch weld tenant ar y porth gallai hyn gael ei achosi gan denant yn cau eu cais Credyd Cynhwysol, yna yn ail hawlio wedyn, neu hysbysu newid cyfeiriad, na gafodd ei ddilysu drwy ddefnyddio’r porth.

Rydym yn edrych ar sut y gallwn wella dilysu er mwyn cynyddu nifer yr achosion sy’n weladwy ar y porth i’r eithaf.

Ni allwch weld rhestr lawn o’ch tenantiaid Credyd Cynhwysol

Ni allwn rannu rhestrau llawn o denantiaid sy’n gysylltiedig â landlord penodol gan na chaniateir hyn o dan y rheoliadau Credyd Cynhwysol.

Mae’r porth dim ond yn caniatáu rhannu data gyda chi at ddibenion penodol a nodir yn y rheoliadau Credyd Cynhwysol, fel gwirio costau tai.

Rhif cyfeirnod tenant

Dylai hyn fod yn rhif cyfeirnod unigryw rydych chi’n ei ddefnyddio i adnabod y tenant ar eich systemau.

Rhaid i’r rhif cyfeirnod fod o leiaf 3 nod ac uchafswm o 16.

Gall rhifau v tenantiaeth ond cynnwys y nodau canlynol:

  • llythrennau

  • rhifau

  • y symbolau ‘.’, ‘&’ a ‘/’

Newid rhif cyfeirnod tenant

Gall defnyddwyr sydd â’r rôl ‘Provide tenancy details’ newid rhif cyfeirnod tenant.

I newid rhif cyfeirnod tenant ar y porth, dewiswch y tab ** Tenant**, dewiswch y tenant a dilynwch y camau.

Dilysu costau tai tenantiaid (rhent)

Gall defnyddwyr sydd â’r rôl ‘Provide tenancy details’ wirio costau tai tenant.

Sut i wirio costau tai

  1. I weld ceisiadau gwirio rhent newydd, ewch i’ch ** To-do list** yn y prif ddewislen.

  2. Dewiswch y ddolen Provide tenancy details.

  3. Dilynwch y peth i’w wneud.

  4. Rhowch eich rhif cyfeirnod tenantiaid, eich rhif cyfeirnod unigryw a ddefnyddiwch i adnabod eich tenant ar eich systemau mewnol.

  5. Dilynwch weddill y peth i’w wneud.

Os yw’r manylion a roddwch yn cyfateb i’r wybodaeth a ddarparwyd gan eich tenant, bydd eu costau tai wedi cael eu gwirio.

Diweddaru costau tai tenantiaid

Cam 1: Cwblhewch holl bethau i’w gwneud y tenant hwn

  1. Ewch i’ch To-do list a chwblhau unrhyw bethau i’w gwneud sy’n weddill ar gyfer y tenant yma. Bydd eich tenant ond yn ymddangos ar ôl i chi gwblhau unrhyw bethau i’w gwneud sy’n weddill.

  2. Cwblhewch y pethau i’w gwneud hŷn yn gyntaf.

  3. Os yw’r manylion tenantiaeth yr un fath, bydd eu cyfrif yn cael ei ddangos yn y tab Tenant yn y brif ddewislen.

Os and yw manylion tenant yn cyd-fynd

Os oes anghysondebau yn y wybodaeth a ddarperir i ni rhyngoch chi a’r tenant, bydd eich tenant yn cael peth i’w wneud. Rhaid i’r tenant gwblhau’r peth i’w wneud, ar gyfartaledd mae hyn yn cymryd tua 3 diwrnod (ond gall fod yn hirach).

Os yw’r tenant yn derbyn y costau tai a ddarparwyd gennych, bydd eu cyfrif yn ymddangos yn eich rhestr o denantiaid. Yna gellir talu costau tai, neu gellir gwneud cais am APA.

Os nad yw’r tenant yn cytuno â’r costau tai rydych wedi’u darparu, dylech drafod hyn gyda nhw. Os yw’r swm yn wahanol i’r hyn a ddatganwyd yn wreiddiol, bydd angen iddynt wneud datganiad arall o gostau tai.

Cam 2: Rhoi gwybod am gostau tai cyfredol tenantiaid

Ni allwch roi gwybod am newidiadau i gostau tai tenant sy’n digwydd yn y dyfodol.

  1. Unwaith y bydd costau tai wedi’u dilysu, ewch i’ch tab Tenant.

  2. Darganfyddwch eich tenant.

  3. Dewiswch Report tenant’s current housing costs.

  4. Dilynwch y peth i’w wneud, gan ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf.

  5. Bydd eich tenant yn cael neges dyddlyfr gyda’r manylion wedi’u diweddaru. Efallai y bydd eich tenant yn cysylltu â chi am hyn gan na fydd yn cael peth i’w wneud dilysu costau tai.

Awtomeiddio costau tai

Gallwch awtomeiddio mynediad i’r porth i gefnogi dilysu costau tai.

Darganfyddwch fwy am defnyddio awtomeiddio i gadarnhau costau tai.

Costau tai nad ydynt yn rhan o newidiadau rhent blynyddol

Yn y peth i’w wneud Provide tenancy details, atebwch Yes i Is this person your tenant and liable for rent at this address?, yna cwblhewch y peth i’w wneud.

Ni fydd yn rhaid i chi e-bostio ffurflen Sector Rhentu Cymdeithasol (SRS). Byddwn yn gwirio’r wybodaeth ac yn cyfrifo’r taliad tai cywir ar gyfer y tenant sy’n aros yn yr eiddo. Bydd y denantiaeth yn aros ar y porth.

Rhoi gwybod am gostau tai yn ystod newid rhent blynyddol ar gyfer eiddo gyda thenantiaid absennol ar y cyd

Defnyddiwch y peth i’w wneud ‘provide tenancy details’ i ddweud wrthym am denantiaethau gyda chyd-denant absennol unwaith y bydd yr hawlydd yn rhoi gwybod am newid amgylchiadau i’w tai. Ni fydd yn rhaid i chi anfon e-bost a ffurflen SRS â llaw.

Atebwch Yes i Is this person your tenant and liable for rent at this address?, yna cwblhewch y peth i’w wneud. Byddwn yn dilysu’r wybodaeth ac yn cyfrifo’r taliad tai cywir ar gyfer y tenant sy’n aros yn yr eiddo. Bydd y denantiaeth yn aros ar y porth.

Dilysu llety

Mae’n rhaid i chi wrthod ceisiadau llety penodedig drwy’r porth. Nid yw llety penodedig yn gymwys i gael costau tai Credyd Cynhwysol gan ei fod yn gymwys i gael Budd-dal Tai.

Taliadau ar y porth

Gall taliadau uniongyrchol (a elwir hefyd yn daliadau a reolir) i’r landlord gael eu gweld gan y rôl ‘View payments’.

I weld gwybodaeth am daliadau, dewiswch y tab Payment yn y porth. Gallwch chwilio yn ôl enw hawlydd neu rif cyfeirnod ac yn ôl ystod dyddiadau.

Gall y rôl ‘Export payments’ lawrlwytho datganiadau fel ffeil taenlen CSV. Mae’r ffeil hon yn cynnwys y cyfeirnod talu, dyddiad mae taliad yn ddyledus, dyddiad cychwyn AP, dyddiad gorffen AP, a’r swm.

Bydd yr holl daliadau uniongyrchol yn cael eu cynnwys yn y manylion taliadau porth ar gyfer eich landlord.

Gwneir taliadau trwy drosglwyddiad BACS o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc, i’r cyfrif banc a ddefnyddwyd i sefydlu eich cyfrif Porth Landlordiaid

Byddwch yn derbyn un taliad i bob tenant ym mhob cyfnod asesu. Bydd pob taliad yn cynnwys cyfeirnod y taliad, dyma’r ID Tenantiaeth a ddarparwyd gennych chi. Lle crëwyd taliadau gan Gredyd Cynhwysol â llaw, gall y cyfeirnod hwn gael ei ddisodli gan Rif Yswiriant Gwladol (NINO).yr hawlwyr

Noder: yn dibynnu ar eich systemau TG a darparwyr banc gall gwybodaeth gael ei harddangos yn wahanol.

Trefniadau Talu Amgen (APAs)

Os yw tenant yn cael trafferth rheoli eu harian, gallai eu costau tai Credyd Cynhwysol gael eu talu’n syth i’w landlord. Gelwir hyn yn Drefniant Talu Amgen (APA).

Ar gyfer tenantiaid newydd, gallwch ond gofyn am APA ar ôl i’ch tenant dderbyn y costau tai rydych yn eu darparu.

Gwneud cais am APA neu ddidyniad

Gallwch ond gofyn am ddidyniad os oes gan eich tenant ôl-ddyledion rhent o leiaf 2 fis.

Unwaith y bydd manylion tai eich tenant wedi’u dilysu, gallwch ofyn am APA neu ddidyniad ôl-ddyledion.

  1. Ewch i’ch tab Tenants.

  2. Darganfyddwch eich tenant.

  3. Dewiswch Request alternative payment arrangement or rent arrears deduction.

  4. Rhaid i chi ddewis rheswm haen 1 neu haen 2 ar gyfer eich cais.

  5. Mae angen i anogwr gwaith y tenant gymeradwyo’r cais APA.

  6. Mae’r tenant yn derbyn hysbysiad a neges dyddlyfr i gadarnhau’r newidiadau.

Ar gyfer ceisiadau gyda’r statws ‘closure of claim pending’, ni fyddwch yn gallu gofyn am ddidyniad ôl-ddyledion APA neu ôl-ddyledion rhent ac ni fyddwch yn gallu rhoi gwybod am unrhyw newidiadau mewn costau tai.

Cysylltwch â’r Canolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol os ydych:

  • heb dderbyn cadarnhad ar ôl gofyn am APA

  • heb gael eich talu APA yn ôl y disgwyl

  • angen canslo APA neu ddidyniadau

Os yw taliad yn weladwy yn y porth ond nad ydych wedi’i dderbyn, e-bostiwch Gwasanaethau Talu’r DWP: tpp.enquiries@dwp.gov.uk.

Diweddaru eich rhestr eiddo

Gallwch chi lwytho rhestrau cyfeiriadau eich eiddo â llaw i’r porth.

Peidiwch â chynnwys y canlynol:

  • llety dros dro

  • llety penodedig

  • tai sy’n cael eu gosod drwy gofrestr dai awdurdod lleol neu broses ddyrannu nad yw’n seiliedig ar yr angen mwyaf

  • tai wedi’u gosod ar rent uwch na chyfradd y farchnad

Dylech ddiweddaru a llwytho eich rhestrau eiddo pan fydd newid i’ch portffolio eiddo, er enghraifft:

  • rydych yn prynu eiddo newydd

  • rydych yn gwerthu eiddo

  • mae eiddo yn newid manyldeb i fod yn lety dros dro

  • mae eiddo yn newid manyldeb i fod yn llety ‘anghenion cyffredinol’

Sut i lwytho eich rhestr eiddo newydd

  1. Allforio eich ffeil i Excel.

  2. Dileu eiddo a ddefnyddir ar gyfer llety dros dro a llety eithriedig â chymorth.

  3. Rhaid i’ch data ond cynnwys 2 golofn: un ar gyfer y llinell gyntaf o gyfeiriad, ac un ar gyfer y cod post.

  4. Dylech gael gwared unrhyw ofodau cyn neu ar ôl unrhyw un o’r data.

  5. Arbedwch fel tab delimited text neu text (tab delimited) a chael gwared ar unrhyw linellau gwag.

  6. Ewch i’r Porth Landlordiaid a dewiswch Properties. Os nad ydych wedi cael mynediad at hyn, siaradwch â’ch cyswllt cofrestru a enwir.

  7. Dewiswch Choose file. Ar ôl i chi ddewis y ffeil eiddo newydd, dewiswch ** Upload**.

Newidiadau rhent blynyddol

Rhaid i denantiaid SRS gwblhau peth i’w wneud ‘Cadarnhau eich costau tai’ yn eu cyfrif Credyd Cynhwysol bob blwyddyn. Mae’r peth i’w wneud yn cael ei ychwanegu at gyfrif ar-lein Credyd Cynhwysol eich tenantiaid yn awtomatig.

Gall tenantiaid y codir rhent arnynt bob mis gwblhau’r peth i’w wneud o 1 Ebrill. Os codir rhent arnynt yn wythnosol neu ar amleddau eraill, byddant yn derbyn peth i’w wneud o’r dydd Llun cyntaf ym mis Ebrill.

Gofynnwn a yw eu costau tai wedi newid. Os ydynt, rhaid iddynt ddarparu eu costau tai wedi’u diweddaru. Gallwch wirio’r rhain drwy’r Porth Landlordiaid.

Cyhoeddir manylion newid rhent blynyddol yn adran ‘Updates’ y Porth Landlordiaid.

Newid manylion ac uno landlordiaid

Enw neu gyfeiriad y landlord

Os yw eich sefydliad yn newid ei enw neu gyfeiriad, cwblhewch y ‘Form to change the name or address of a creditor or supplier’ a chysylltwch â’ch rheolwr partneriaeth lleol. Byddant yn gallu darparu cefnogaeth i wneud newidiadau.

Manylion banc

I newid manylion banc eich sefydliad, cwblhewch y Form to change the bank details of a creditor or supplier.

Cyfeiriad e-bost

Os yw ôl-ddodiad e-bost eich sefydliad yn newid, cysylltwch â’ch rheolwr partneriaeth.

Trosglwyddiadau eiddo

Os ydych yn trosglwyddo eiddo o un landlord i’r llall, mae camau gwahanol yn dibynnu a yw’r landlord newydd ar y porth ai peidio.

Os yw’r landlord newydd ar y porth

Dylai’r camau canlynol gael eu cymryd gennych chi a’r landlord y mae’r eiddo’n cael ei drosglwyddo iddynt:

  1. Dylai’r landlord sy’n trosglwyddo’r eiddo ‘allan’ dynnu’r eiddo o’i ffeil llwytho eiddo a diweddaru ei restr eiddo ar y porth.

  2. Mae angen i’r landlord sy’n trosglwyddo’r eiddo ‘i mewn’ ychwanegu’r eiddo at ei ffeil llwytho eiddo, a diweddaru ei restr eiddo ar y porth.

  3. Dylai’r ddau landlord gynghori’r tenantiaid a drosglwyddwyd i ddatgan newid manylion tai unwaith y bydd camau 1 a 2 wedi’u dilyn.

Os yw tenantiaid a drosglwyddwyd wedi cael eu paru’n llwyddiannus, bydd y porth yn anfon gwiriadau newydd at y landlord newydd ac yn symud y tenantiaid drosodd.

Os nad yw’r landlord newydd ar y porth

Os ydych yn trosglwyddo eiddo i landlord nad yw’n defnyddio’r porth, dilynwch y camau hyn:

  1. Dylai’r landlord sy’n trosglwyddo’r eiddo ‘allan’ dynnu’r eiddo o’i ffeil llwytho eiddo a diweddaru ei restr eiddo.

  2. Dylai’r ddau landlord gynghori’r tenantiaid a drosglwyddwyd i ‘ddatgan newid manylion tai’.

Bydd y landlord newydd nad yw ar y porth yn gwirio costau tai drwy e-bost.

APAs a newid landlord

Pan fydd landlord tenant yn newid, bydd unrhyw APAs yn cael eu canslo. Bydd angen i’r landlord sy’n derbyn ystyried a oes angen APA a gwneud cais os oes angen.

Uno

Os yw’ch sefydliad yn uno, yn meddwl am uno neu eisoes wedi uno, cysylltwch â’ch rheolwr partneriaeth cyn gynted â phosibl. Os nad ydych yn siwr pwy yw eich rheolwr partneriaeth, gallwch gysylltu â nhw drwy e-bostio Timau Partneriaeth DWP.

Nid oes angen i chi wybod union ddyddiadau’r uno. Ond po gynharaf y byddwch yn cysylltu, y cynharaf y gallwn eich cynghori am unrhyw gamau y mae angen i chi eu cymryd a chytuno ar y camau nesaf.

Cymorth

Mynediad Porth Landlordiaid

Os na allwch gael mynediad i’r porth, cysylltwch â’ch rheolwr partneriaeth lleol.

Camgymeriadau

Os ydych wedi dilysu costau tai mewn camgymeriad, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol.

Dyfarniadau taliad

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â swm unrhyw daliad a dderbynnir, neu daliad nad yw’n cael ei gyhoeddi, at eich Llinell Gymorth Canolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol lleol, neu eu cyfeirio at eich rheolwr partneriaeth.

Materion taliad

Ar gyfer materion sy’n ymwneud â derbyn taliadau, e-bostiwch tpp.enquiries@dwp.gov.uk.

Taliadau trydydd parti

Beth i’w wneud os:

  • and yw atodlenni neu daliadau talu trydydd parti ddim yn cael eu dderbyn. E-bostiwch Gwasanaethau Taliad DWP: customerpayments.edi@dwp.gov.uk

  • rhent neu ôl-ddyledion ar gyfer tenant ddim yn cael eu dderbyn, neu daliad ar gyfradd is na’r disgwyl. 

Cysylltwch â’r tenant i drafod eu dyfarniad Credyd Cynhwysol am y cyfnod hwnnw. Ni allwch ofyn am newid cyfradd adfer ôl-ddyledion gan ddefnyddio’r porth.

  • mae eich tenant eisiau trafod newidiadau yng nghyfradd yr ôl-ddyledion. Dylai’r tenant ofyn am hyn gan ddefnyddio eu dyddlyfr ar-lein Credyd Cynhwysol.

  • cais am ddidyniad o ôl-ddyledion heb ei dderbyn.  Cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol

  • ymholiad yn ymwneud â thaliadau ôl-ddyledion neu gywiriadau i dandaliadau, bydd y rhain yn parhau i gael eu gwneud gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Taliadau Trydydd Parti presennol. E-bostiwch tpp.enquiries@dwp.gov.uk.

Darganfyddwch am sut mae’r cynllun didyniadau o fudd-daliadau yn gweithio.

Cyhoeddwyd ar 6 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 March 2024 + show all updates
  1. When you upload your new property list, you need to remove properties used for temporary accommodation and supported exempt accommodation. You do not need to remove shared ownership properties.

  2. First published.