Canllawiau

Ymgynghoriadau Gwerthuso Safleoedd - digwyddiadau cyhoeddus

Cyfle i gyfarfod tîm Radioactive Waste Management ac i ofyn cwestiynau am yr Ymgynghoriadau Gwerthuso Safleoedd sy’n digwydd ar hyn o bryd

Mae Radioactive Waste Management (RWM) wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau er mwyn helpu pobl ddeall cyd-destun y cynllun arfaethedig ar gyfer Gwerthuso Safleoedd ar gyfer creu Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF), ac er mwyn ateb unrhyw gwestiynau sydd gan unigolion neu sefydliadau am ein hymgynghoriadau.

Yn Lloegr, cafodd digwyddiadau cyhoeddus eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:

  • Caergrawnt – Dydd Iau 7 Chwefror
  • Llundain – Dydd Mercher 13 Chwefror
  • Birmingham – Dydd Iau 14 Chwefror
  • Manceinion – Dydd Mawrth 19 Chwefror
  • Penrith – Dydd Mercher 20 Chwefror
  • Cheltenham – Dydd Mawrth 26 Chwefror
  • Caerwysg – Dydd Iau 28 Chwefror
  • Darlington – Dydd Iau 7 Mawrth

Cafodd dau ddigwyddiad eu cynnal yng Nghymru hefyd:

  • Abertawe – Dydd Mawrth 12 Mawrth - gweminar ar-lein
  • Llandudno – Dydd Iau 14 Mawrth - gweminar ar-lein

Roedd y digwyddiadau, yn gyffredinol, wedi cael eu hanelu at bobl gyffredin (heb fod yn arbenigwyr) sydd â diddordeb yn y mater, er mwyn rhoi gwybodaeth iddynt. Nid oedd y digwyddiadau hyn yn rhan o’r broses ymgynghori ffurfiol, ac ni fydd unrhyw sylwadau sy’n cael eu rhoi na chwestiynau sy’n cael eu gofyn yn y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnwys yn ffurfiol yn y dadansoddiad ymgynghorol.

Os nad oedd modd i chi ddod i un o’n cyfarfodydd neu’n gweminarau ni, efallai bydd y fideo byr yma’n ddefnyddiol i chi. Cafodd ei recordio ar gyfer y gweminarau a gynhaliwyd yng Nghymru ac mae’n cynnwys llawer o wybodaeth sy’n berthnasol i ymgynghoriadau Cymru a Lloegr. Y prif wahaniaeth yw nad yw’r fideo’n cyfeirio’n benodol at Ddrafft y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Gofynion Seilwaith Gwaredu Daearegol, sy’n berthnasol yn Lloegr yn unig.

Digwyddiadau’r Ymgynghoriad ar Werthuso Safleoedd

Bydd yr ymgynghoriadau ar Werthuso Safleoedd yn dod i ben yn fuan a byddem yn eich annog i rannu eich barn os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 31 Mawrth yn Lloegr, ac ar 14 Ebrill yng Nghymru.  Bydd yn rhaid i unigolion a sefydliadau anfon eu sylwadau a’u syniadau drwy e-bost neu drwy’r post at RWM er mwyn gallu cyfrannu at yr ymgynghoriadau. Mae ffurflen ymateb a manylion am sut mae anfon eich sylwadau ar gael ar dudalennau hafan canlynol yr ymgynghoriad:

Lloegr - tudalen hafan yr ymgynghoriad

Cymru (fersiwn Gymraeg)

Cymru (fersiwn Saesneg)

Bydd RWM yn parhau i wrando ac ymgysylltu wrth fynd ati i ymgymryd â’r rhaglen hon, sydd o arwyddocâd cenedlaethol, er mwyn darparu ateb hirdymor diogel ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am waredu daearegol, ewch i wefan ein hymgyrch

Cyhoeddwyd ar 17 January 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 February 2019 + show all updates
  1. Having listened to the concerns expressed by Swansea Council and members of the public, we have adapted our approach to the Site Evaluation consultation and will now host the Swansea event as a webinar.

  2. Added translation

  3. Addition of details for events in Wales

  4. First published.