Anfon dogfennau neu wybodaeth i CThEF ar gyfer gwiriad cydymffurfio
Defnyddiwch y ffurflen hon i uwchlwytho dogfennau neu anfon gwybodaeth os ydych wedi cael llythyr gan dîm cydymffurfio CThEF yn gofyn am wybodaeth ychwanegol.
Pwy all ddefnyddio’r ffurflen hon
Dylech ddefnyddio’r ffurflen hon dim ond os ydych wedi cael llythyr gan dîm cydymffurfio CThEF yn gofyn am wybodaeth ychwanegol. Gall asiant awdurdodedig hefyd anfon y manylion hyn ar eich rhan.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen cyfeirnod yr achos sydd wedi’i nodi ar y llythyr a anfonom atoch.
Gall eich cyflwyniad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod achos anghywir.
Uwchlwytho’ch dogfennau
Mae’n rhaid i bob ffeil fod yn 15MB neu’n llai, ac ar ffurf un o’r canlynol:
- JPEG
- XLSX
- ODS
- DOCX
- ODT
- PPTX
- ODP
Gallwch uwchlwytho hyd at 10 o ddogfennau ar y tro.
Os oes angen i chi anfon mwy na 10 o ddogfennau, bydd yn rhaid i chi eu rhannu a’u cyflwyno mewn grwpiau o 10 neu lai.
Anfon eich dogfennau neu wybodaeth
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi, bydd modd i chi eu creu.
Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl yn nes ymlaen.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen, byddwch yn cael e-bost cadarnhau gyda chyfeirnod eich cyflwyniad.
Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnom.