Canllawiau

Anfon dogfennau i’w gwirio gan y tollau ar gyfer datganiadau a wneir drwy’r system CHIEF

Os ydych yn cyflwyno datganiadau gan ddefnyddio System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF) a gofynnir i chi anfon dogfennau ategol, gallwch eu hanfon i CThEM ar-lein.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i uwchlwytho dogfennau ategol ar gyfer datganiadau a wnaed drwy’r system CHIEF, sydd wedi’u clirio drwy’r tollau. Os ydych eisoes wedi anfon eich dogfennau i’w clirio, gallwch uwchlwytho gwybodaeth ychwanegol.

Cyn i chi ddechrau

Dim ond os yw statws eich datganiad yn dangos bod rhaid anfon dogfennau y mae angen i chi anfon dogfennau i CThEM

Mae llwybrau clirio’r tollau’n cynnwys:

  • Llwybr 1: gwiriad llawn o’r dogfennau
  • Llwybr 1 CAP (Polisi Amaethyddol Cyffredin)
  • Llwybr 2: archwiliad corfforol o’ch nwyddau a’ch dogfennau
  • Llwybr 3: gall eich nwyddau gael eu clirio, ond rhaid i chi gyflwyno’ch dogfennau cyn pen 24 awr
  • Llwybr 6: cliriad ar unwaith lle nad oes angen i chi gyflwyno unrhyw ddogfennau

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Dylech ddefnyddio:

  • y Dynodydd Defnyddiwr (ID) rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes
  • cyfrif sefydliad neu unigolyn

Os nad yw’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) hwn gennych, gallwch greu un ar y dudalen gofrestru. Dewiswch naill ai ‘sefydliad’ neu ‘unigolyn’ fel y math o gyfrif. Peidiwch â dewis ‘asiant’.

Does dim modd i chi gael at y gwasanaeth hwn gyda Dynodydd Defnyddiwr (ID) asiant ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Efallai y gofynnir i chi danysgrifio i Wasanaethau Masnachwyr Tollau – dim ond unwaith y gofynnir i chi wneud hyn. Bydd arnoch angen defnyddiwr Porth y Llywodraeth sy’n weinyddwr i drefnu’r tanysgrifiad ar gyfer sefydliad.

Bydd angen i chi uwchlwytho’r holl waith papur sy’n ategu’ch datganiad, er enghraifft:

  • unrhyw drwyddedau neu dystysgrifau
  • tystiolaeth o werth y nwyddau
  • rhestr bacio o’r eitemau sydd wedi’u cynnwys
  • tystysgrifau ar gyfer tystiolaeth o darddiad

Paratoi’ch dogfennau

Gallwch uwchlwytho hyd at 10 dogfen. Ni ddylai unrhyw ffeil fod yn fwy na 6MB.

Caniateir y mathau hyn o ffeiliau:

  • delwedd (.jpg, .jpeg, .png neu .tiff)
  • PDF (.pdf)
  • e-bost (.txt neu .msg)
  • Microsoft (Word, Excel neu PowerPoint)
  • Fformat Dogfen Agored (ODF)

Ni allwch uwchlwytho ffeiliau zip na dogfennau sydd wedi’u diogelu gan gyfrinair.

Anfon eich dogfennau

Dechrau nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn.

Ar ôl i chi anfon dogfennau ategol i CThEM

Ar ôl i chi anfon eich dogfennau, cewch wybod pryd y dylai’ch nwyddau gael eu clirio. Cewch wybod drwy’r system CHIEF neu drwy’ch meddalwedd datgan pan fyddant wedi’u clirio.

Os ydych eisoes wedi anfon eich dogfennau i’w clirio a bod angen i chi ychwanegu gwybodaeth ychwanegol, mae’n rhaid i chi fod â chyfeirnod yr achos. Byddwch wedi cael y cyfeirnod hwn pan gafodd yr achos ei greu gyntaf.

Ychwanegu aelod o’r tîm

Mae ychwanegu aelod o’r tîm at y Gwasanaethau Masnachwyr Tollau yn golygu y gallwch:

  • gael sawl aelod o’r tîm i ddefnyddio’r gwasanaeth
  • rheoli lefel mynediad pob aelod

Dilynwch y camau hyn i ychwanegu aelod o’r tîm:

  1. Mewngofnodwch i’ch Cyfrif Treth Busnes fel gweinyddwr a dewis ‘Rheoli’r cyfrif’.

  2. Ychwanegwch yr aelod o’r tîm drwy ddewis ‘Gallwch roi caniatâd i eraill gael mynediad at eich cyfrif treth busnes’.

  3. Dewiswch ‘Ychwanegu aelod o’r tîm’, ac yna nodwch fanylion yr aelod.

  4. Ar ôl i chi ychwanegu’r aelod o’r tîm, cewch neges i gadarnhau hyn.

  5. Ewch yn ôl i fewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes a dewiswch ‘Rheoli’r cyfrif’, wedyn dewiswch ‘Rhoi’r gallu i aelod o’r tîm gael mynediad i dreth, toll neu gynllun’.

  6. Dewiswch ‘Rheoli aelodau o’r tîm’ ar gyfer yr opsiwn ‘Gwasanaethau Masnachwyr Tollau’.

  7. Dewiswch yr aelodau o’r tîm yr hoffech iddynt gael mynediad at y ‘Gwasanaethau Masnachwyr Tollau’ wedyn pwyswch ‘Cadw’ i gadw’ch dewisiadau.

Cyhoeddwyd ar 19 August 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 March 2023 + show all updates
  1. The wording in step 2 of adding a team member step 2 has been amended to you can give permission to others to access your business tax account.

  2. We have added guidance on how to add a team member to your account for Customs Trader Services.

  3. Added translation