Canllawiau

Gofyn i gyflymu cais

Gofyn i Gofrestrfa Tir EF brosesu’ch cais trwy lwybr carlam.

Applies to England and Wales

Mae’r broses gyflymu (llwybr carlam) ar gael ar gyfer ceisiadau, naill ai preswyl neu fasnachol, lle byddai oedi:

  • yn achosi problemau nad ydynt yn gysylltiedig â thrafodiad tir
  • yn peryglu gwerthiant eiddo neu unrhyw fath o drafodiad eiddo, er enghraifft, cytundeb ail-gyllido neu ddatblygiad

Nid yw oedran, graddau cymhlethdod a math o gais yn ffactorau o ran a fyddwn yn cyflymu ai peidio. Os yw oedi cyn cofrestru yn achosi problemau, boed yn gyfreithiol, ariannol neu bersonol, mae ein meini prawf ar gyfer cyflymu yn cael eu bodloni.

Fel rheol, dim ond ceisiadau gan y sefydliad a anfonodd y cais atom neu brynwr neu werthwr yr eiddo rydym yn eu hystyried.

Ni allwch ofyn inni gyflymu cais i chwilio’r gofrestr, gan gynnwys chwiliadau o’r map mynegai neu gais sydd eisoes yn cael ei drin gennym. Darllenwch am faint o amser rydym yn ei gymryd i brosesu ceisiadau.

Tystiolaeth

Bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth sy’n dangos yn glir pam eich bod yn gofyn inni gyflymu’ch cais. Byddwn yn defnyddio’ch tystiolaeth i’w gwneud yn haws inni benderfynu a allwn gymeradwyo’ch cais.

Mae enghreifftiau o dystiolaeth rydym yn ei derbyn yn cynnwys:

  • copi o’r contract gwerthu neu brynu neu lythyr cynnig morgais yn cadarnhau dyddiad dod i ben y cynnig
  • esboniad clir mewn achosion o broblemau neu galedi a ddylai gysylltu â’r angen i’r cofrestriad gael ei gwblhau

Rydym yn derbyn dogfennau golygedig sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n fasnachol sensitif. Rhaid i ddogfennau golygedig ddangos yn glir o hyd pam eich bod yn gofyn inni gyflymu’ch cais.

Gwneud cais i gyflymu gan ddefnyddio’r porthol

Dylai trawsgludwyr a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol sy’n gallu cyrchu porthol Cofrestrfa Tir EF ddefnyddio ‘Application Enquiry’ i wneud cais i gyflymu.

  1. Yn ‘Application Enquiry’, dewiswch ‘Still need to contact us?’
  2. Llenwch y manylion cysylltu priodol a dewiswch ‘Request an expedite’.
  3. Dewiswch reswm am y cyflymu o’r gwymplen er mwyn cwblhau’r cais.

Ni allwch wneud cais gan ddefnyddio ‘Reply to requisition’.

Cysylltu â ni

Os ydych wedi defnyddio trawsgludwr neu gyfreithiwr, gofynnwch iddynt anfon eich cais atom gan ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF.

Os nad ydych wedi defnyddio trawsgludwr neu gyfreithiwr, cysylltwch â ni i ofyn i’ch cais gael ei brosesu ar frys.

Ceisiadau wedi eu cymeradwyo

Os ydym yn cymeradwyo’r cais, ein nod yw prosesu’r cais o fewn 10 diwrnod gwaith, yn amodol ar unrhyw geisiadau sy’n weddill neu geisiadau am wybodaeth (ymholiadau) y mae’n rhaid eu cwblhau yn gyntaf.

Cyhoeddwyd ar 17 February 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 July 2023 + show all updates
  1. We have updated our guidance on applying for an expedite to clarify that, if a delay in registration is causing legal, financial or personal problems, our criteria for expedition are met.

  2. We have made clear we accept redacted documents that contain commercially sensitive information as evidence.

  3. Added a link to our application processing times.

  4. We have updated our guidance to clarify that the expedite (fast-track) process is available for residential and commercial applications, and where any kind of property transaction is at risk.

  5. Added translation