Adrodd ynghylch achosion difrifol o arbed treth neu osgoi treth
Dysgwch ynghylch y Cynllun Gwobrwyo Cryfach ar gyfer adrodd ynghylch achosion difrifol o arbed treth neu osgoi treth a sut i anfon adroddiad.
Mae’r Cynllun Gwobrwyo Cryfach ar gyfer unigolion sy’n adrodd ynghylch achosion difrifol o arbed treth neu osgoi treth. Os byddwch yn rhoi gwybodaeth i CThEF sy’n helpu i gasglu swm mawr o dreth sydd heb ei thalu, gallech gael gwobr ariannol.
Fel arfer, mae achosion o arbed treth neu osgoi treth ar y raddfa hon yn ymwneud â’r canlynol:
-
cwmnïau mawr
-
unigolion cyfoethog
-
cynlluniau alltraeth neu gynlluniau arbed treth
Pwy allai gael gwobr
Gallech gael gwobr os bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i CThEF yn arwain at gasglu o leiaf £1.5 miliwn mewn treth. Gallech gael rhwng 15% a 30% o’r dreth a gesglir (ac eithrio cosbau a llog).
Mae gwobrau yn cael eu rhoi yn ôl disgresiwn CThEF ac nid oes sicrwydd o wobr.
Rhesymau dros beidio â’ch gwobrwyo
Ni allwch gael gwobr os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn was sifil (neu rydych wedi’ch contractio i weithio yn y llywodraeth), neu roeddech yn was sifil neu wedi’ch contractio, a chawsoch yr wybodaeth yn ystod eich cyflogaeth
-
chi yw’r trethdalwr sy’n ymwneud â’r achos o osgoi treth neu arbed treth, neu chi oedd wedi cynllunio a dechrau’r camau a wnaeth arwain at yr achos o arbed treth neu osgoi treth
-
mae’r wybodaeth a rowch eisoes yn hysbys i CThEF neu gallai CThEF fod wedi nodi’r wybodaeth honno drwy brosesau arferol
-
gallai’r wobr arwain, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, at ariannu gweithgareddau anghyfreithlon
-
mae’n ofynnol i chi ddatgelu’r wybodaeth, neu beidio â’i datgelu, yn unol â’r gyfraith
-
rydych yn gweithredu ar ran rhywun arall
-
cawsoch yr wybodaeth gan rywun na fyddai’n gymwys ei hun i gael gwobr
-
rydych yn rhoi’r wybodaeth yn ddienw (bydd adroddiadau di-enw yn cael eu derbyn ond ni chaiff taliad ei wneud)
Hyd yn oed os na fyddwch yn gymwys i gael gwobr, dylech hysbysu CThEF am achosion o arbed treth neu osgoi treth o hyd.
Cyn i chi anfon adroddiad
Mae’n rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
-
ceisio dod o hyd i ragor o wybodaeth am y gweithgaredd
-
rhoi gwybod i unrhyw un eich bod yn gwneud adroddiad
-
annog unrhyw un i gyflawni trosedd er mwyn cael rhagor o wybodaeth
Anfon adroddiad
Os ydych o’r farn nad yw person neu fusnes yn talu digon o dreth yn fwriadol, gallwch hysbysu CThEF am hyn. Bydd unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn breifat ac yn gyfrinachol a gallwch ei hadrodd yn ddienw.
Bydd yr adroddiad yn gofyn i chi gynnwys y canlynol:
-
pa fath o weithgaredd rydych yn adrodd yn ei gylch (dim mwy na 1,200 o gymeriadau)
-
sut rydych yn gwybod amdano
-
beth yw’ch perthynas â’r unigolyn neu’r busnes
-
ers pryd mae’r gweithgaredd hwn wedi bod yn digwydd
-
cyfanswm gwerth y gweithgaredd, neu amcangyfrif ohono
-
disgrifiad o unrhyw wybodaeth ategol sydd gennych neu sy’n hysbys i chi (dim mwy na 500 o gymeriadau)
Dylech roi gwybodaeth fanwl sy’n hawdd ei deall. Ni allwch ychwanegu atodiadau at y ffurflen, ond gallwch roi gwybod i CThEF os oes gennych wybodaeth ategol pan fyddwch yn gwneud eich adroddiad.
Ar ôl i chi anfon adroddiad
Cewch hysbysiad bod eich adroddiad wedi dod i law. Peidiwch â gwneud adroddiadau pellach am yr un gweithgaredd na cheisio cysylltu â CThEF i drafod yr adroddiad — ni allwn roi adborth.
Bydd CThEF yn cysylltu â chi:
-
os bydd angen rhagor o wybodaeth
-
os ydych yn gymwys i gael gwobr
Gall ymchwiliadau treth gymryd cryn dipyn o amser i’w cyflawni. Gall blynyddoedd fynd heibio rhwng anfon yr adroddiad a chael unrhyw wobr ariannol.