Canllawiau

Rhoi gwybod am grantiau a thaliadau cymorth yn sgil COVID-19

Os ydych yn gweithredu fel busnes, dysgwch a oes angen i chi gynnwys grant neu daliad cymorth yn sgil COVID-19 ar eich Ffurflen Dreth.

Mae grantiau a thaliadau a gafwyd drwy gynlluniau er mwyn cefnogi busnesau ac unigolion hunangyflogedig yn ystod y COVID-19 yn drethadwy.

Pwy ddylai rhoi gwybod am grant neu daliad cymorth

Os cawsoch daliad i’ch cefnogi yn ystod COVID-19 efallai y bydd angen i chi roi gwybod am hyn ar eich Ffurflen Dreth os ydych:

  • yn hunangyflogedig
  • mewn partneriaeth
  • yn fusnes

Pa daliadau sydd angen i chi roi gwybod amdanynt

Mae angen i chi roi gwybod am grantiau a thaliadau o gynlluniau cymorth yn sgil COVID-19. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (SEISS)
  • taliadau profi ac olrhain neu hunanynysu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
  • y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws (CJRS)
  • y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
  • Ad-dalu Tâl Salwch Statudol yn sgil Coronafeirws
  • Grantiau Cymorth Busnes yn sgil Coronafeirws

Grantiau Cymorth Busnes yn sgil Coronafeirws

Mae’r rhain yn grantiau neu daliadau a wnaed gan un o’r canlynol:

  • awdurdodau lleol
  • gweinyddiaethau datganoledig
  • unrhyw awdurdod cyhoeddus arall

Fe’u gelwir hefyd yn grantiau awdurdodau lleol neu’n grantiau trethi busnes.

Mae enghreifftiau o’r grantiau hyn yn Lloegr yn cynnwys:

  • Cronfa Grantiau i Fusnesau Bach
  • Cronfa Grantiau Manwerthu, Lletygarwch a Hamdden
  • Cronfa Grant Disgresiwn Awdurdod Lleol
  • Cronfa Ymateb Pysgodfeydd

Mae enghreifftiau o’r grantiau hyn yng Nghymru yn cynnwys:

  • Grantiau Busnes Llywodraeth Cymru (Grantiau 1 a 2)
  • Cronfa Cadernid Economaidd

Mae enghreifftiau o’r grantiau hyn yn yr Alban yn cynnwys:

  • Cronfa Cymorth Busnes
  • Cronfa Caledi Newydd Hunangyflogedig
  • Cronfa Caledi Mentrau Creadigol, Twristiaeth a Lletygarwch
  • Cronfa Gwydnwch Menter Canolog
  • Cronfa Caledi Dyframaeth
  • Cronfa Caledi Pysgodfeydd Môr

Mae enghreifftiau o’r grantiau hyn yng Ngogledd Iwerddon yn cynnwys:

  • Cynllun Grant Cymorth i Fusnesau Bach
  • Grant Manwerthu, Lletygarwch, Twristiaeth a Hamdden
  • cronfeydd argyfwng a chaledi eraill yn sgil COVID-19 sy’n gysylltiedig â busnes

Os ydych wedi cael Grant Cymorth Busnes yn sgil Coronafeirws, mae angen talu treth arnynt.

Mae rhai eithriadau, er enghraifft, os cafodd y grant ei wneud i sefydliad masnachu ar y cyd.

Sut i roi gwybod am grant neu daliad

Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Dylai taliadau SEISS gael eu rhoi yn y blwch Grantiau’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Dylech gofnodi bob taliad COVID-19 trethadwy arall yn y blwch ar gyfer unrhyw incwm busnes arall.

Os ydych yn hunangyflogedig, dysgwch sut i roi gwybod am eich grant neu daliad drwy ddefnyddio:

Os ydych mewn partneriaeth, dysgwch sut i roi gwybod am eich grant neu daliad drwy ddefnyddio:

Ffurflen Dreth y Cwmni

Os cawsoch grant Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws neu daliad cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, bydd angen i chi wneud y ddau beth canlynol:

  • ei drin fel incwm wrth gyfrifo’ch elw trethadwy yn unol â’r safonau cyfrifyddu perthnasol
  • rhoi gwybod amdano ar wahân ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni gan ddefnyddio’r blychau ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Dylech gofnodi bob taliad COVID-19 trethadwy arall fel incwm pan ydych yn cyfrifo’ch elw trethadwy.

Dysgwch sut i roi gwybod am grant neu daliad ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni (CT600) (yn Saesneg).

Pa daliadau sydd ddim angen i chi roi gwybod amdanynt

Nid oes angen i chi roi gwybod am daliad cymorth yn sgil COVID-19 ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os yw hwn yn daliad lles a wnaed gan gyngor i unigolyn, er enghraifft i helpu â’r canlynol:

  • taliadau treth gyngor
  • budd-dal tai

Nid yw benthyciadau Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil Coronafeirws a Benthyciadau Adfer yn daliadau cymorth nac yn grantiau yn sgil COVID-19. Does dim angen i chi roi gwybod am y rhain ar eich Ffurflen Dreth.

Help a chymorth

Os nad ydych yn siŵr a yw’r taliad cymorth yn sgil COVID-19 a gawsoch yn drethadwy neu os hoffech gael rhagor o help, dylech ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM.

Cyhoeddwyd ar 6 August 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 September 2023 + show all updates
  1. The guidance has been updated, as the COVID-19 helpline for businesses and the self-employed is now closed.

  2. New section 'Company Tax Return' added. This explains that grants and payments to support businesses during coronavirus (COVID-19) are taxable and need to be declared on Company Tax Returns.

  3. First published.