Skip to main content
Canllawiau

Rhoi gwybod am droseddau bwyd

Sut i roi gwybod am droseddau bwyd i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd, a ble i roi gwybod am fathau eraill o broblemau sy’n gysylltiedig â bwyd

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn gweithio i atal, canfod ac ymchwilio i droseddau bwyd. Mae troseddau bwyd yn dwyll difrifol sy’n effeithio ar ddiogelwch neu ddilysrwydd bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid.

Nid yw arferion hylendid gwael mewn busnes bwyd yn cael eu hystyried yn drosedd bwyd. Dylech roi gwybod i’ch awdurdod lleol am arferion diogelwch neu hylendid bwyd gwael.

Nid yw materion sy’n ymwneud â gwerthu bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, fel archebion coll neu anghyflawn, yn cael eu hystyried yn droseddau bwyd. Dylid trafod y digwyddiadau hyn yn uniongyrchol â’r busnes bwyd.

Mae adroddiadau am droseddau bwyd yn gyfrinachol, a gellir eu cyflwyno’n ddienw. Ni fydd eich manylion yn cael eu datgelu heb eich caniatâd neu orchymyn llys cymwys.

Dyma’r prif fathau o droseddau bwyd:

  • dwyn – cael gafael ar gynhyrchion bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid mewn ffordd anonest er mwyn gwneud elw trwy eu defnyddio neu eu gwerthu

  • prosesu anghyfreithlon – lladd neu baratoi cig a chynhyrchion cysylltiedig mewn safleoedd heb eu cymeradwyo neu drwy ddefnyddio technegau heb eu hawdurdodi

  • dargyfeirio gwastraff – rhoi bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid sy’n wastraff yn ôl i mewn i’r gadwyn fwyd yn anghyfreithlon

  • difwyno – cynnwys sylwedd estron nad yw wedi’i restru ar label y cynnyrch i ostwng costau neu ffugio ansawdd uwch

  • amnewid – defnyddio sylwedd sy’n debyg ond yn israddol yn lle’r bwyd neu’r cynhwysyn dan sylw

  • camgyfleu – marchnata neu labelu cynnyrch yn anonest o ran ei safon, ei ddiogelwch, ei darddiad neu ei ffresni

  • twyll dogfennol – gwneud, defnyddio neu feddu ar ddogfennau ffug gyda’r bwriad o werthu neu farchnata cynnyrch twyllodrus neu is-safonol

Os yw eich adroddiad yn ymwneud ag unrhyw un o’r problemau a restrir yn y tabl canlynol, gofynnwn i chi gyfeirio at yr asiantaethau a restrir yn y tabl i gael cyngor.

Math o broblem Ble i geisio cyngor
Dosbarthu bwyd Perchennog y busnes bwyd a gwasanaeth Cyngor ar Bopeth
Sgoriau hylendid bwyd Y tîm diogelwch bwyd yn awdurdod lleol y busnes bwyd
Problemau o ran hylendid (gan gynnwys hylendid y gegin a’r prosesau a ddilynir gan y staff) Y tîm diogelwch bwyd yn awdurdod lleol y busnes bwyd
Problemau o ran labelu Safonau Masnach
Canfod gwrthrychau mewn bwyd Y tîm diogelwch bwyd yn awdurdod lleol y busnes bwyd
Cynhyrchion bwyd sydd wedi mynd heibio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (gan gynnwys bwyd sydd wedi llwydo) Y tîm diogelwch bwyd yn awdurdod lleol y busnes bwyd
Gwasanaeth gwael Perchennog y busnes bwyd

Chwythwyr chwiban 

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r personau penodedig y dylid rhoi gwybod iddynt am unrhyw achosion o gamymddwyn yn y diwydiant bwyd. 

Caiff chwythwyr chwiban eu diogelu gan y gyfraith wrth roi gwybod am y canlynol:

  • trosedd, er enghraifft twyll

  • perygl i iechyd a diogelwch rhywun

  • risg neu ddifrod gwirioneddol i’r amgylchedd

  • camweinyddiad cyfiawnder

  • cwmni’n torri’r gyfraith

  • unigolyn sydd, yn eich barn chi, yn cuddio achos o gamymddwyn

Rhoi gwybod am droseddau bwyd 

Os ydych chi’n chwythwr chwiban neu’n dymuno rhoi gwybod am droseddau bwyd, cliciwch ar y botwm ‘Dechrau’ ar y dudalen hon a chwblhewch y ffurflen we. Fel arall, cysylltwch â llinell gymorth gyfrinachol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd ar 0800 028 1180. Ar gyfer ffonau symudol nad ydynt wedi’u cofrestru yn y DU neu alwadau o dramor, defnyddiwch 0207 276 8787.

Bydd eich manylion yn cael eu cadw’n gyfrinachol ac ni fyddant yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti.

Bydd staff yn ateb y llinell gymorth gyfrinachol rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu allan i’r oriau hyn, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein ar y dudalen hon i gyflwyno’ch adroddiad. 

Dylid rhoi gwybod i Safonau Bwyd yr Alban am unrhyw droseddau bwyd drwgdybiedig yn yr Alban.

Dechrau

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Awst 2017

Argraffu'r dudalen hon