Canllawiau

Adfer diogelwch lwfans oes eich pensiwn

Os ydych wedi colli’ch diogelwch lwfans oes o ganlyniad i unioni’r pensiwn gwasanaeth cyhoeddus (a elwir hefyd yn McCloud), efallai y byddwch yn gallu ei adfer.

Mae’r dudalen hon ar gyfer pobl sydd â naill ai:

  • wedi colli eu diogelwch lwfans oes o ganlyniad i unioni’r pensiynau gwasanaeth cyhoeddus ac am ei adfer
  • dyddiad colled wedi’i ddiweddaru yn dilyn yr unioni

Darganfyddwch sut i wneud cais am ddiogelwch lwfans oes os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys o ganlyniad i’r unioni.

Pwy all wneud cais

I fod yn gymwys i adfer eich diogelwch lwfans oes, mae’n rhaid eich bod wedi:

  • bod yn aelod o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022
  • cael gwasanaeth pensiynadwy ar 31 Mawrth 2012
  • colli eich diogelwch lwfans oes o ganlyniad i unioni’r pensiynau gwasanaeth cyhoeddus
  • cael naill ai:
    • Diogelwch Uwch
    • Diogelwch Penodol
    • Diogelwch Penodol 2014
    • Diogelwch Penodol 2016

Cyn i chi ddechrau

I wneud cais i adfer eich diogelwch lwfans oes, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeirnod y diogelwch a gollwyd (dim ond un diogelwch a gollwyd y gallwch wneud cais i’w adfer)
  • manylion y cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yr ydych yn aelod ohono, gan gynnwys enw’r cynllun a chyfeirnod treth y cynllun pensiwn (PSTR)
  • y dyddiad colled wedi’i ddiweddaru, os nad yw’r dyddiad a roesoch yn flaenorol i CThEF yn gywir mwyach
  • eich rhif Yswiriant Gwladol

Gwneud cais i adfer eich lwfans oes

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwch y ffurflen i adfer eich lwfans oes.

  3. Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post i CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar ddiwedd y ffurflen.

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi pan fydd eich lwfans oes wedi’i adfer. Gallai’r llythyr gynnwys cyfeirnod newydd pe bai un wedi’i greu.

Os byddwn yn anfon cyfeirnod newydd atoch, mae’n rhaid i chi ei roi i weinyddwr eich cynllun pensiwn.

Os gwnaethoch ddweud wrthym am ddyddiad colled newydd, byddwn yn anfon llythyr atoch i roi gwybod i chi a yw hwn wedi’i ddiweddaru.

Colli eich diogelwch

Os byddwn yn adfer eich diogelwch lwfans oes, bydd angen i chi fodloni’r amodau o’r dyddiad y dechreuodd y diogelwch yn wreiddiol.

Bydd angen i chi wirio’r amodau ar gyfer colli diogelwch lwfans oes (yn Saesneg), yn dibynnu ar ba ddiogelwch sydd gennych.

Cyhoeddwyd ar 22 August 2023