Canllawiau

Diogelu’ch lwfans oes pensiwn

Sut i wneud cais am ddiogelwch rhag y gostyngiadau yn y lwfans oes a’i wirio.

Y lwfans oes safonol ar hyn o bryd yw £1,073,100. Darllenwch gyfraddau blaenorol y lwfans oes safonol (yn Saesneg).

Mae’n bosibl y gallech ddiogelu’ch cynilion pensiwn rhag gostyngiad 6 Ebrill 2016 o’r lwfans oes safonol, pan gafodd ei leihau i £1 miliwn. Gallwch wneud cais am ddau fath o ddiogelwch.

Diogelwch Yr hyn y mae’n ei wneud A allaf barhau i ychwanegu at fy mhensiynau?
Diogelwch unigol 2016 Yn diogelu eich lwfans oes i’r isaf o’r canlynol:

• gwerth eich cynilion pensiwn ar 5 Ebrill 2016
• £1.25 miliwn
Gallwch. Ond mae’n rhaid i chi dalu tâl treth ar arian a godir o’ch cynilion pensiwn sydd dros eich lwfans oes sydd wedi’i ddiogelu os cymerwch eich pensiwn cyn 6 Ebrill 2023.
Diogelwch penodol 2016 Yn pennu’ch lwfans oes yn £1.25 miliwn. Os cafodd CThEF eich cais ar neu ar ôl 15 Mawrth 2023, ni allwch gario ymlaen i ychwanegu at eich pensiynau o 6 Ebrill 2016, ac eithrio o dan amgylchiadau cyfyngedig.

Os cafodd CThEF eich cais llwyddiannus cyn 15 Mawrth 2023 a bod dal gennych y diogelwch hwn yn ddilys o hyd, gallwch gario ymlaen i ychwanegu at eich pensiynau heb effeithio ar ddilysrwydd eich Diogelwch Penodol 2016 o 6 Ebrill 2023. Mae’r rheolau rhoi’r gorau i ddiogelwch (yn Saesneg) yn berthnasol o hyd o 6 Ebrill 2016 i 5 Ebrill 2023.

Gwirio’ch diogelwch presennol

I wirio’ch diogelwch presennol, mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwirio.

Gwneud cais am ddiogelwch ar ôl unioni’r pensiwn gwasanaeth cyhoeddus (a elwir hefyd yn McCloud)

Os oeddech yn aelod o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, yn dilyn unioni’r pensiynau gwasanaeth cyhoeddus, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am naill ai:

  • diogelwch penodol 2016
  • diogelwch unigol 2016

Os ydych o’r farn eich bod yn gymwys, bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF i wneud cais yn:

Gwasanaethau Cynlluniau Pensiwn
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Mae’n rhaid i chi gynnwys:

  • y math o ddiogelwch rydych yn gwneud cais amdano
  • eich bod yn gwneud cais o ganlyniad i unioni’r pensiynau gwasanaeth cyhoeddus
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich manylion cyswllt

Unwaith y bydd eich llythyr yn dod i law, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am y camau nesaf, neu i ofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnom i brosesu eich cais.

Gwneud cais am ddiogelwch unigol 2016

Gallwch wneud cais os oedd eich cynilion pensiwn gwerth mwy nag £1 miliwn ar 5 Ebrill 2016.

Gallwch wneud cais o hyd os yw’r canlynol gennych eisoes:

  • diogelwch uwch
  • diogelwch penodol
  • diogelwch penodol 2014
  • diogelwch penodol 2016

Bydd diogelwch unigol 2016 yn segur nes eich bod yn colli’ch diogelwch blaenorol neu’ch bod yn rhoi’r gorau iddo. Rhowch wybod i CThEF yn ysgrifenedig os bydd hyn yn digwydd.

Os gwnaethoch gais am ddiogelwch rhag gostyngiad 2016 ac fe gawsoch gyfeirnod dros dro, mae’n rhaid i chi wneud cais ar-lein am gyfeirnod parhaol.

Ni allwch wneud cais os oes gennych naill ai:

  • prif ddiogelwch
  • diogelwch unigol 2014

Cyn i chi ddechrau

Er mwyn gwneud cais am ddiogelwch unigol, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.

Bydd yn rhaid i chi wybod y canlynol hefyd:

Os nad yw’r wybodaeth hon gennych, gallwch ofyn i weinyddwr eich cynllun pensiwn. Os oes gennych fwy nag un cynllun, adiwch y symiau o bob cynllun at ei gilydd.

Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gwasanaeth (yn Saesneg), neu adegau pa na fydd y gwasanaeth ar gael.

Gwneud cais am ddiogelwch penodol 2016

Gallwch wneud cais os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych chi neu’ch cyflogwr wedi ychwanegu at eich cynilion pensiwn ers 5 Ebrill 2016
  • gwnaethoch optio allan o unrhyw gynlluniau’r gweithle erbyn 5 Ebrill 2016

Gallwch wneud cais am ddiogelwch penodol 2016 o hyd os oes diogelwch penodol 2014 gennych eisoes. Bydd diogelwch penodol 2016 yn segur nes eich bod yn colli’ch diogelwch blaenorol. Dylech roi gwybod i CThEF yn ysgrifenedig os byddwch yn colli’ch diogelwch lwfans oes.

Ni allwch wneud cais os oes gennych y canlynol:

  • diogelwch uwch
  • prif ddiogelwch
  • diogelwch penodol
  • diogelwch penodol 2014

Os gwnaethoch gais am ddiogelwch rhag gostyngiad 2016 ac fe gawsoch gyfeirnod dros dro, mae’n rhaid i chi wneud cais ar-lein am gyfeirnod parhaol.

Cyn i chi ddechrau

Er mwyn gwneud cais am ddiogelwch penodol, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.

Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gwasanaeth (yn Saesneg) ar hyn o bryd, neu adegau pa na fydd y gwasanaeth ar gael.

Ar ôl i chi wneud cais

Codi arian o’ch cynllun pensiwn

Unwaith eich bod wedi gwneud cais am ddiogelwch lwfans oes drwy’r gwasanaeth ar-lein, byddwch yn cael 2 gyfeirnod y bydd angen i chi eu cadw. Y rhain yw eich:

  • rhif hysbysu diogelwch
  • cyfeirnod gweinyddwr y cynllun

Bydd angen i chi roi’r cyfeirnodau hyn i weinyddwr eich cynllun pan fyddwch yn penderfynu codi arian o’ch cynlluniau pensiwn, er mwyn dangos bod gennych ddiogelwch lwfans oes.

Dangosir eich rhif hysbysu diogelwch fel a ganlyn:

  • FP16 wedi’i ddilyn gan 10 digid ac 1 llythyren ar gyfer diogelwch penodol 2016, er enghraifft FP161234567890A
  • IP16 wedi’i ddilyn gan 10 digid ac 1 llythyren ar gyfer diogelwch unigol 2016, er enghraifft IP161234567890B

Dangosir cyfeirnod gweinyddwr eich cynllun fel PSA wedi’i ddilyn gan 8 digid ac 1 llythyren.

Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnodau hyn ar-lein, hyd yn oed os na wnaethoch gais am ddiogelwch lwfans oes ar-lein.

Rhoi gwybod am newid i’ch pensiwn

Gall newidiadau i’ch pensiwn effeithio ar eich gallu i gadw’ch diogelwch unigol ar gyfer 2014 a 2016. Dylech roi gwybod i CThEF os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae swm y dadansoddiad o’ch pensiwn yn newid
  • mae angen i chi ychwanegu neu newid debyd pensiwn oherwydd rydych yn cael hysbysiad rhyddhau o ganlyniad i orchymyn rhannu pensiwn — mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 60 diwrnod o’r debyd pensiwn

Os ydych wedi diogelu’ch cynilion pensiwn ar-lein, byddwch yn gallu newid pob diogelwch sydd gennych eich hun. Er enghraifft, os gwnaethoch gamgymeriadau gyda’r gwerthoedd pan wnaethoch y cais, neu os oes gennych ddebydau pensiwn sy’n effeithio ar y swm sy’n eich diogelu.

I ddiwygio’ch diogelwch, dewiswch yr opsiwn pensiynau. Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch a ddefnyddioch wrth wneud cais.

Os na wnaethoch ddiogelu’ch cynilion pensiwn ar-lein, dylech roi gwybod i CThEF yn ysgrifenedig am y newidiadau hyn. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi sut mae’n effeithio arnoch.

Os ydych wedi colli diogelwch

Mae’n rhaid i chi fodloni amodau penodol er mwyn dibynnu ar eich diogelwch os oes gennych y canlynol:

  • diogelwch uwch
  • diogelwch penodol
  • diogelwch penodol 2014
  • diogelwch penodol 2016

Os nad ydych yn bodloni’r amodau hyn, mae’n bosib y gallwch golli’ch diogelwch a bydd angen i chi roi gwybod i CThEF yn ysgrifenedig.

Cyhoeddwyd ar 6 April 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 August 2023 + show all updates
  1. Information about applying for fixed protection 2016 or individual protection 2016 after the public service pensions remedy has been added.

  2. Information about pensions lifetime allowance protection and what to do if you lose your protection has been updated.

  3. The section 'If you’ve lost protection' has been added.

  4. A link has been added to sections 'Apply for individual protection 2016' and 'After you’ve applied' to give guidance on what to do if you lose your lifetime allowance protection. The section 'If you've lost protection' has been removed.

  5. The lifetime allowance stays at £1,073,100 for 2021 to 2022.

  6. The lifetime allowance has increased from £1,055,000 to £1,073,100 from 6 April 2020.

  7. The current standard lifetime allowance has been change from £1,030,000 to £1,055,000.

  8. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2018 to 2019.

  9. This guidance has been updated with information about lifetime allowance protection reference numbers.

  10. References to the individual protection 2014 (IP2014) have been removed as the deadline for applying for this protection closed on 5 April 2017.

  11. The section on how and when to report a change has been amended.

  12. This guidance has been updated to reflect the new online service for members to protect their lifetime allowance from the 2014 and 2016 reduction.

  13. First published.