Canllawiau

Cofrestr Endidau Tramor: cyflwyno ceisiadau yr effeithir arnynt

Canllawiau ar gyflwyno cais yr effeithir arno.

Applies to England and Wales

Os ydych yn cyflwyno cais sy’n ymwneud ag endid tramor ac sy’n cynnwys gwarediad sy’n cael ei ddal gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022, bydd angen ichi ddarparu naill ai:

  • rhif adnabod yr endid tramor a ddarperir gan Dŷ’r Cwmnïau
  • tystiolaeth o eithriad neu esemptiad gan ddefnyddio ffurflen OE1 neu OE2

Dylech sicrhau eich bod yn defnyddio fersiwn ddiweddaraf unrhyw ffurflen gais neu warediad, a fydd yn eich caniatáu i ddarparu rif adnabod yr endid tramor yn y ffurflen ei hunan.

Cwsmeriaid y Gwasanaeth Cofrestru Digidol (DRS)

Os nad ydych yn cyflwyno ffurflen warediad a bod angen ichi ddarparu rhif adnabod yr endid tramor, dylech ei gyflwyno mewn llythyr eglurhaol ochr yn ochr â’ch cais.

Ychwanegu rhif adnabod yr endid tramor at y gofrestr fel cais annibynnol

I ychwanegu rhif adnabod yr endid tramor at y gofrestr fel cais annibynnol trwy’r Gwasanaeth Cofrestru Digidol, bydd angen ichi ddewis cais ‘change of name’. Bydd angen ichi gyflwyno cadarnhad o’r diweddariad sydd ei angen fel ‘correspondence’ a chopi o’r ffurflen OE01 a ddarperir gan Dŷ’r Cwmnïau fel ‘evidence’. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Cofrestru Digidol ar gyfer hyd at 25 o deitlau.

Parhewch i ddefnyddio’r Gwasanaeth Cofrestru Dogfennau electronig etifeddol ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys 26 i 50 o deitlau.

Ar gyfer dros 50 o deitlau, bydd angen ichi gysylltu â’r Tîm Ceisiadau Lluosog yn uniongyrchol. Bydd y tîm yn trefnu i rywun eich ffonio i egluro’r gweithdrefnau perthnasol a’r ffordd orau o baratoi a chyflwyno’ch cais.

Cwsmeriaid Business Gateway

Os nad ydych yn cyflwyno ffurflen warediad a bod angen ichi ddarparu rhif adnabod yr endid tramor, neu i ychwanegu rhif adnabod yr endid tramor at y gofrestr fel cais annibynnol, dylech naill ai ei gyflwyno mewn llythyr eglurhaol gyda’ch cais neu ddefnyddio’r maes ‘additional information’ presennol yn y sgema cyflwyno.

Cyhoeddwyd ar 21 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 April 2023 + show all updates
  1. Guidance has been added to provide guidance on how OE IDs can be added to the register as standalone applications.

  2. First published.