Cofrestru partneriaeth fel isgontractwr gyda thaliad o dan ddidyniad drwy’r post
Defnyddiwch ffurflen bost CIS304 i gofrestru fel isgontractwr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) gyda thaliad dan ddidyniad.
Cyn i chi ddechrau
Y ffordd gyflymaf i gofrestru fel isgontractwr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) (yn agor tudalen Saesneg) yw ar-lein. Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am statws taliad gros (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych am i ddidyniadau gael eu gwneud ymlaen llaw gan gontractwyr.
Cofrestru partneriaeth
Mae gwybodaeth am lenwi’r ffurflen bost CIS304 ar gael yn y
.-
Casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
-
Llenwch ffurflen CIS304.
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon at CThEF drwy’r post (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni y fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).