Canllawiau

Profi eich hunaniaeth gyda’r ap GOV.UK One Login

Sut i ddefnyddio'r ap GOV.UK One Login i brofi eich hunaniaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap a sut i sganio'ch wyneb a'ch ID gyda llun.

Gallwch ddefnyddio’r ap GOV.UK One Login i brofi eich hunaniaeth pan fyddwch yn mewngofnodi i wasanaeth y llywodraeth gyda GOV.UK One Login.

I ddefnyddio’r ap, rhaid i chi ddechrau ar y gwasanaeth llywodraeth rydych yn ceisio ei gyrchu. Byddwch yn cael eich tywys i’r ap pan fydd yn amser ei ddefnyddio. 

Bydd yr ap yn gwirio bod:

  • eich ID gyda llun yn un go iawn

  • rydych yn berson go iawn

  • rydych yr un person ag yn eich ID gyda llun

Os yw’n well gennych beidio â defnyddio’r ap, gallwch brofi eich hunaniaeth mewn ffordd arall

Beth fyddwch ei angen

Byddwch angen un o’r mathau canlynol o ID gyda llun:

  • pasbort y DU

  • pasbort o’r tu allan i’r DU gyda sglodyn biometrig

  • trwydded yrru cerdyn llun y DU

  • trwydded breswylio biometreg y DU (BRP)

  • cerdyn preswylio biometreg y DU (BRC)

  • trwydded Gweithwyr Ffiniol y DU (FWP)

Gallwch ddefnyddio BRP, BRC or FWP sydd wedi dod i ben hyd at 18 mis ar ôl ei ddyddiad dod i ben.

Byddwch hefyd angen ffôn clyfar gyda chamera sy’n gweithio.

Os ydych yn defnyddio iPhone, rhaid iddo fod yn rhedeg iOS 15 neu uwch a bod naill ai yn:

  • iPhone 6s neu fwy newydd os yw’ch ID gyda llun yn drwydded yrru y DU

  • iPhone 7 neu fwy newydd os ydych yn defnyddio unrhyw fath arall o ID gyda llun

Ar gyfer ffôn Android (er enghraifft, Samsung neu Google Pixel), rhaid iddo fod yn rhedeg Android 10 neu uwch.

Lawrlwytho’r ap

Dywedir wrthych pryd i lawrlwytho’r ap.

Os ydych angen help i lawrlwytho’r ap ar eich ffôn, mae cyngor ar y canlynol:

Mewngofnodi i’r ap

Ar ôl lawrlwytho’r ap, bydd angen i chi fewngofnodi gyda’ch manylion GOV.UK One Login. Bydd hyn yn cysylltu gwefan GOV.UK â’ch ap fel y gallwch barhau i brofi eich hunaniaeth.

Os ydych yn cael trafferth mewngofnodi i’r ap, darllenwch ganllawiau ar sut i newid eich manylion mewngofnodi GOV.UK One Login.

Dewis eich ID gyda llun

Bydd angen i chi ddewis pa ID gyda llun y byddwch yn ei ddefnyddio i brofi eich hunaniaeth. Gwnewch yn siŵr bod gennych eich ID gyda llun gwreiddiol gyda chi. Ni allwch ddefnyddio llungopï na chopi digidol.

Ar ôl i chi gadarnhau’r ID gyda llun y byddwch yn ei ddefnyddio, ni allwch fynd yn ôl a defnyddio un gwahanol.

Os oes angen i chi newid i fath gwahanol o ID gyda llun, bydd angen i chi fynd yn ôl i’r gwasanaeth roeddech yn ceisio ei ddefnyddio a dechrau profi eich hunaniaeth eto. 

Sganio eich ID gyda llun

Os ydych yn defnyddio pasbort neu BRP, BRC neu FWP

Os ydych yn defnyddio pasbort, gwneud yn siwr bod ganddo sglodyn biometrig. I wirio a oes gan eich pasbort sglodyn biometrig, edrychwch am y symbol sglodyn biometrig petryal ar y clawr blaen.

Gofynnir i chi:

  1. Dynnu llun o’ch ID gyda llun.

  2. Sganio y sglodyn biometrig yn eich ID gyda llun gan ddefnyddio’ch ffôn.

  3. Sganio eich wyneb gan ddefnyddio’ch ffôn.

Os nad yw’r sgan biometrig yn gweithio, gall fod oherwydd:

  • nid oedd eich ffôn yn cyffwrdd â’ch ID gyda llun

  • mae gan eich ffôn gas neu ategolyn arno – ceisiwch dynnu’r rhain a sganio’ch ID gyda llun eto

  • mae cysylltiad rhyngrwyd wedi ei gollu am gyfnod byr

  • cafodd y ffôn ei symud tra bod y sgan yn digwydd

  • rydych wedi sganio dogfen arall, ac eithrio eich pasbort neu drwydded breswylio

Gallech roi cynnig arall a dylech weld animeiddiad cymorth. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin a, pan fyddwch yn barod, dewiswch ‘Dechrau sganio’ neu rhowch eich ffôn ar ben eich pasbort i ddechrau’r sgan yn awtomatig.

Os ydych yn defnyddio trwydded yrru y DU

Gofynnir i chi dynnu llun o’ch trwydded yrru. Bydd y llun yn cael ei dynnu’n awtomatig, felly peidiwch â chyffwrdd â’ch sgrin tra bod hyn yn digwydd.

Gwnewch yn siwr eich bod yn:

  • dal eich trwydded yrru yng nghledr un llaw a bod eich ffôn yn y llaw arall - os ydych yn cael trafferth tynnu llun o’r drwydded tra mae yn eich llaw, rhowch hi ar gefndir ‘matte’ tywyll

  • symud y drwydded i ffwrdd o ffynonellau golau llachar er mwyn lleihau disgleirdeb

  • cael eich trwydded gyfan y tu mewn i’r ffrâm wen

Sganio eich wyneb

Byddwch yn defnyddio eich camera sy’n wynebu’r blaen (hunlun) i wneud hyn.

Pan fyddwch yn sganio’ch wyneb gyda’r ap GOV.UK One Login, gwnewch yn siwr:

  • bod eich wyneb wedi’i alinio’n llwyr â’r hirgrwn ar eich sgrin

  • eich bod yn edrych yn syth ymlaen

  • yn cadw mor llonydd ag y gallwch tra bo’r sgan yn digwydd

Sut i orffen profi eich hunaniaeth

Ar ôl i chi sganio’ch wyneb gyda’r ap a bod eich gwybodaeth wedi’i chyflwyno, bydd angen i chi ddychwelyd i’r dudalen GOV.UK y gwnaethoch ei adael ar agor ar eich porwr gwe. Yna byddwch yn gallu gorffen profi eich hunaniaeth a pharhau i’r gwasanaeth roeddech yn ceisio ei gyrchu.

Beth i’w wneud os nad yw’r gwiriad hunaniaeth ar yr ap yn gweithio

Os nad oeddech yn gallu profi ar eich hunaniaeth gyda’r ID gyda llun cyntaf rydych wedi’i ddewis, gallwch geisio eto gan ddefnyddio ID gyda llun arall.

Ewch yn ôl i’r gwasanaeth roeddech yn ceisio ei ddefnyddio i ddechrau profi eich hunaniaeth eto.

Gallwch hefyd geisio profi eich hunaniaeth mewn ffordd arall gyda GOV.UK One Login.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Mehefin 2025

Argraffu'r dudalen hon