Skip to main content
Canllawiau

Carchar Prescoed: Strategaeth teuluoedd a phartneriaid

Mae strategaeth teuluoedd Prescoed yn amlinellu sut rydym yn cynorthwyo carcharorion sydd yn ein gofal i ddatblygu perthnasoedd ystyrlon ac adeiladol gyda theulu neu bartner.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ymweliadau ac archebu ymweliad ar Prescoed brif dudalen y carchar.

Ein hymrwymiad i chi

Yng Ngharchar Prescoed, rydym yn deall bod helpu carcharorion i newid eu bywydau a pheidio ag aildroseddu yn gallu bod yn anodd, yn gymhleth ac weithiau’n gallu mynd yn drech na rhywun. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant carchar sy’n rhoi pwyslais creiddiol ar leihau aildroseddu.

Mae’r dull gweithredu hwn yn cael ei adlewyrchu ym mhob rhan o’n hamgylchedd ac yn y gwasanaethau rydym yn eu darparu.  

Rydym yn cydnabod nad yw’n realistig i bob carcharor roi sylw i bob agwedd ar ei fywyd ar unwaith. Fodd bynnag, drwy ystyried pob llwybr yn unigol, gallwn gynnig cefnogaeth ystyrlon i garcharorion drwy gydol eu cyfnod yn y carchar.  

Ein nodau: 

  • cynorthwyo carcharorion a theuluoedd i gynnal perthnasoedd da
  • helpu i wella sgiliau magu plant carcharorion a’u harwain drwy brofiadau addysgol eu plant 
  • darparu cyngor a chanllawiau i deuluoedd a charcharorion, gan gadw’r pwyslais ar gefnogi teuluoedd 
  • cynnig cymorth â pherthnasoedd sy’n mynd drwy gyfnod anodd 
  • lleihau / chwalu rhwystrau er mwyn galluogi aelodau o’r teulu i ymweld â’r carchar a gallu profi ymweliadau o ansawdd da mewn amgylchedd croesawus 
  • cynnwys teuluoedd mewn prosesau adsefydlu, yn ystod y broses o gynllunio dedfryd ac yn ystod adegau argyfwng, lle bo’n briodol 
  • sefydlu cysylltiadau ag awdurdodau lleol i gefnogi teuluoedd a phlant 
  • hysbysu a hyfforddi staff yn well ynglŷn â materion sy’n ymwneud â phlant a theuluoedd

Cefnogaeth a gwasanaethau a gynigir

Mae manylion am y canlynol i’w gweld ar brif dudalen Carchar Prescoed GOV.UK

  • bwcio ymweliadau 
  • oriau ymweld  
  • ffyrdd eraill o gadw mewn cysylltiad 

Waliau Anweledig 

Ein partner ar gyfer ymweliadau a gwasanaethau i deuluoedd yw Waliau Anweledig.

Mae Waliau Anweledig yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac eiriolaeth i ddynion sydd yn y carchar, er mwyn trefnu cyswllt â theulu. Maen nhw’n fwy na pharod i ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â theulu, gan gynnwys: 

  • gwybodaeth i deuluoedd a phartneriaid 
  • cynnal diwrnodau i’r teulu er mwyn i rieni a phlant allu treulio amser gyda’i gilydd
  • cefnogi teuluoedd sy’n cael eu heffeithio oherwydd bod rhywun yn y carchar
  • darparu gweithgareddau chwarae/cefnogaeth i blant yn ystod ymweliadau 
  • cynnal clybiau gwaith cartref lle gall rhieni gefnogi eu plant
  • darparu cyrsiau cymwysterau mentora er mwyn helpu carcharorion i wella eu cefnogaeth i addysg eu plant tra byddant yn y carchar
  • cynnig cefnogaeth adsefydlu a mentora 
  • gwefan lle gall teuluoedd ddod o hyd i wybodaeth
  • clinigau cyfreithiol i garcharorion, sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu  

Canolfan ymweliadau

I’r ganolfan ymweliadau y byddwch yn dod ar gyfer eich ymweliad. Mae’r ardal hon yn addas i blant ac mae’n cynnwys teganau a lluniaeth i helpu i gadw plant yn gyfforddus tra byddant yn aros i gael eu hebrwng i’r neuadd ymweliadau.

Neuadd ymweliadau

Mae gan y neuadd ymweliadau ardal chwarae meddal i blant, a nifer o lyfrau a gemau sy’n addas i bob oedran. Mae tabledi ar gael hefyd i blant gael chwarae gemau arnynt yn ystod yr ymweliad.

Ystafell niwroamrywiaeth

Mae gennym ystafell niwroamrywiaeth benodol sydd ar gael i blant a allai fod ei hangen. Mae hwn yn amgylchedd heb lawer o ysgogiadau, sydd wedi’i leoli ar wahân i ymwelwyr eraill, er mwyn darparu man tawelach â llai o gynnwrf yn ystod ymweliadau.

Gwaith ymgysylltu â theuluoedd  

Mae Waliau Anweledig yn gweithio yn y carchar er mwyn cefnogi carcharorion a theuluoedd. Mae gennym reolwr ymgysylltu â theuluoedd rhan-amser sy’n treulio ei amser yn helpu carcharorion i gadw cysylltiad da â’u teulu tra byddant yn y carchar.

Mae hefyd yn helpu i ailadeiladu’r perthnasoedd hynny a allai fod wedi torri dros gyfnod, ac yn cefnogi carcharorion nad ydynt yn cael ymweliadau gan eu teuluoedd.

Diwrnodau i’r teulu

Mewn partneriaeth â’r carchar, mae Waliau Anweledig yn trefnu 7 diwrnod i’r teulu bob blwyddyn. Mae rhai wedi’u hanelu at deuluoedd sydd â phlant, ac mae eraill ar gyfer teuluoedd y mae eu haelodau’n oedolion.

Cynhelir yr ymweliadau hyn fel arfer rhwng 10am a 2pm ac maent yn para am 4 awr lawn. Anogir pob carcharor sy’n gymwys i wneud cais.

Fel arfer mae thema i’r ymweliadau hyn, er enghraifft y Nadolig a’r Pasg, ac maent yn llawn hwyl â gweithgareddau y gall pawb ymuno ynddyn nhw gyda’i gilydd fel uned deuluol.

Gall ein staff dynnu lluniau mewn diwrnodau i’r teulu os rhoddwyd caniatâd.

Rydym yn deall bod lluniau’n gallu bod yn werthfawr iawn ac weithiau’n brin i rai sydd ag aelod o’r teulu yn y carchar.

Nid yw bob amser yn bosibl caniatáu lle i bob ymgeisydd ym mhob diwrnod ymweliadau teulu gan fod y niferoedd yn gyfyngedig, ond rydym yn gwneud popeth sydd yn ein gallu i sicrhau bod lleoedd yn cael eu rhannu’n deg.

Rydym yn cynnal y diwrnodau hyn yn ystod gwyliau’r ysgol rhag amharu ar addysg a phatrwm bywyd arferol.

Rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL)

Mae rhyddhau ar drwydded dros dro yn galluogi cyswllt teuluol ystyrlon ac wedi’i normaleiddio drwy ganiatáu i unigolion dreulio amser gyda’u teuluoedd mewn lleoliadau yn y byd go iawn, yn hytrach na chael eu cyfyngu i amgylchedd artiffisial a chyfyngol ymweliadau carchar.

Drwy gyfleoedd megis rhyddhau am ddiwrnod ar sail adsefydlu (RDR) ar gyfer diwrnodau teulu ac ymweliadau â’r dref, rhyddhau ar sail cynnal cysylltiadau teuluol (MFT), a rhyddhau dros nos ar sail adsefydlu (ROR) yn y cyfeiriad rhyddhau, gall unigolion gymryd rhan mewn bywyd teulu bob dydd.

Mae adegau fel rhannu prydau bwyd, gofalu am blant, a chymryd rhan mewn trefniadau arferol o gwmpas y tŷ yn bwysig. Gallant helpu i gynnal a chryfhau perthnasoedd teuluol mewn ffyrdd na all ymweliadau carchar eu hefelychu, gan gefnogi cysylltiadau emosiynol, sefydlogrwydd, ac adsefydlu llwyddiannus.

Unigolion sydd wedi bod mewn gofal 

Mae staff Carchar Prescoed yn awyddus i gefnogi’r rhai sydd wedi bod drwy’r system ofal. Rydym yn sylweddoli y bydd rhai wedi bod drwy adegau trawmatig iawn yn ystod eu bywydau ac y bydd arnynt angen cymorth ychwanegol o bosibl.

Mae gennym ‘hyrwyddwyr gofal’ a all gynnig cymorth arbenigol ac atgyfeirio at wasanaethau sydd wedi’u dylunio i helpu’r rhai sydd â phrofiad yn y sector gofal. Mae ein harweinydd gadawyr gofal hefyd yn bennaeth diogelwch.

Mesurau diogelu

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01291 675 000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Llinell gymorth dalfa fwy diogel 

Os oes gennych bryderon ynglŷn â diogelwch neu lesiant carcharor yng ngharchar Prescoed nad ydynt yn bryderon uniongyrchol, galwch y llinell gymorth cadw’n ddiogel ar 0808 808 2003.

Gwybodaeth am gost galwadau

Polisi diogelu

Yng Ngharchar Prescoed mae gennym bolisi diogelu sy’n sicrhau bod mesurau diogelu yn eu lle ar gyfer pobl sydd yn ein gofal, oedolion agored i niwed a phlant.

Mae gan bob oedolyn sydd angen ei ddiogelu hawl i fyw ei fywyd heb gael ei gam-drin mewn unrhyw ffordd. Mae gan bob asiantaeth ac unigolyn sy’n dod i gysylltiad ag oedolion sydd angen eu diogelu ddyletswydd i’w diogelu rhag camdriniaeth. Os rhoddir gwybod am gamdriniaeth neu os bydd unrhyw unigolyn yn amau bod camdriniaeth yn digwydd bydd yr ymateb yn gyflym ac yn unol â pholisïau’r gwasanaeth carchardai. 

Mae’r carchar yn gweithio fel tîm amlasiantaethol er mwyn diwallu anghenion carcharorion a sicrhau eu bod yn ddiogel o hyd. 

Os oes gennych bryder yn ymwneud â diogelu, mae’r manylion cysylltu i’w gweld ar brif dudalen Carchar Prescoed GOV.UK

I gael rhagor o wybodaeth am fesurau diogelu, edrychwch ar Fframwaith Polisi Diogelu Plant Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi

Beth rydym wedi ei gyflawni?

  • Mae cyfarfodydd adborth ffrindiau/teuluoedd yn dal i ddigwydd drwy gydol y flwyddyn.
  • Mae’r Pennaeth Lleihau Aildroseddu a’r Hyrwyddwr teuluoedd a phartneriaid a’r arweinydd llwybr yn parhau i gwrdd â theuluoedd yn y ganolfan ymweliadau ac yn ystod diwrnodau teulu er mwyn trafod unrhyw bryderon sydd ganddynt ynglŷn ag ymweld. Caiff unrhyw adborth o’r cyfarfodydd ei drafod yn ein cyfarfodydd misol gyda Waliau Anweledig.
  • Rydym yn parhau i helpu i gefnogi carcharorion a’u teuluoedd i gynnal eu cysylltiadau teuluol drwy hwyluso ymweliadau, a diwrnodau teulu, gan gynnwys ar gyfer y rhai sy’n cael anhawster i fynychu ymweliadau cymdeithasol rheolaidd.
  • Rydym yn bwriadu cynnig 7 diwrnod teulu cynhwysol.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r targedau sydd wedi’u gosod. Mae arnom eisiau cynnwys ffrindiau, teuluoedd a phartneriaid, gymaint ag y gallwn, er mwyn cefnogi eu hanwyliaid ar eu siwrnai gyda ni.

Mae Waliau Anweledig hefyd yn trefnu parth ysgol, sy’n noson rieni lle mae athrawon yn dod i’r carchar ac yn cyfarfod y tadau.

Chi’n dweud, ni’n gwneud

Mae eich adborth yn bwysig i ni er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r profiad ymweliad gorau; dyma sut rydym yn defnyddio eich adborth er mwyn dal i wella:

  • rydym bellach yn cynnig mwy o ddewis o fyrbrydau a diodydd
  • mae gennym fwy o deganau a gemau i blant
  • mae amrywiaeth ehangach o gemau wedi’u harchebu erbyn hyn ar gyfer ystod oedran ehangach
  • bydd opsiynau bwyd poeth ar gael cyn bo hir

Sut fyddwn ni’n mesur ein llwyddiant?

  • Holiadur anghenion teulu carcharor. 
  • Cyfarfodydd lleihau aildroseddu. 
  • Arolygiadau Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi. 
  • Arolygon carcharorion. 
  • Cyfarfodydd diwylliant adsefydlu. 
  • Fforymau ymwelwyr. 
  • Cyflawni ein dangosyddion perfformiad allweddol.

Strwythur staffio

Prif Lywodraethwr.
Pennaeth Lleihau Aildroseddu.
Pennaeth y Gaplaniaeth.
Arweinydd Teulu a Phartneriaid.
Rheolwr Ymgysylltu â Theuluoedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Awst 2026

Argraffu'r dudalen hon