Taliadau i’r awdurdodau lleol o dan gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr dros becynwaith
Gwybodaeth i’r awdurdodau lleol a fydd yn cael taliadau o dan gynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith.
Fel awdurdod lleol byddwch chi’n cael taliadau i dalu’ch costau effeithlon net wrth gasglu, rheoli, ailgylchu a gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi.
Daw’r arian oddi wrth PecynUK, gweinyddwr y cynllun. Mae’r arian yma yn dod o’r ffioedd sy’n cael eu talu gan y gynhyrchwyr sy’n cyflenwi neu’n mewnforio pecynwaith i farchnad y Deyrnas Unedig o dan reoliadau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith.
Faint o arian gewch chi
Bydd eich taliadau’n cael eu seilio ar gostau effeithlon net eich awdurdod wrth reoli gwastraff pecynwaith cartrefi. Mae’r costau yma wedi’u cyfrifo drwy ddefnyddio model cost a pherfformiad pecynwaith yr awdurdodau lleol (LAPCAP) a ddatblygwyd gan PecynUK ar ran pedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Darllenwch ragor o wybodaeth am sut mae’ch taliadau’n cael eu cyfrifo.
Cadarnhau swm eich taliad terfynol
Fe gewch chi hysbysiad asesu y flwyddyn cyn eich blwyddyn asesu. Bydd hwn yn cael ei anfon erbyn 1 Tachwedd. Er enghraifft, os mai 2027 i 2028 yw’ch blwyddyn asesu chi, fe fyddech chi’n cael eich hysbysiad asesu ym mis Tachwedd 2026. Mae’r hysbysiad yma yn nodi cyfanswm eich taliad disgwyliedig am y flwyddyn.
Bydd y cyfanswm yn cael ei dalu fesul chwarter. Fe gewch chi lythyr penderfynu grant cyn pob taliad chwarterol a hwnnw’n cadarnhau swm y taliad a’r dyddiad talu.
Bydd hysbysiad talu yn cael ei anfon ar ôl pob taliad chwarterol i gadarnhau bod y taliad wedi dod i law ac wedi’i gwblhau.
Newidiadau yn swm eich taliad
Fe all y swm yma newid dal rai amgylchiadau cyfyngedig, gan gynnwys:
- os bydd eich costau’n cael eu hailgyfrifo yn sgil cwyn neu apêl lwyddiannus gan gynhyrchwyr neu awdurdodau lleol
- os na fydd PecynUK yn cael digon o arian gan y cynhyrchwyr i dalu costau’r awdurdodau lleol
- os caiff PecynUK dystiolaeth bod y cyllid yma wedi’i ddyrannu at ddibenion eraill
Os bydd cyfanswm eich taliad disgwyliedig yn newid, fe gewch chi hysbysiad ailgyfrifo a fydd yn nodi:
- swm y taliad disgwyliedig diwygiedig
- y gwahaniaeth rhwng y swm diwygiedig a’r swm gwreiddiol
- y dyddiad pan fydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei dalu
Gall hysbysiadau ailgyfrifo gael eu hanfon hyd at bedair blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn asesu. Os bydd y costau gwaredu taladwy yn cael eu hailgyfrifo’n is na’r hyn a gyfrifwyd yn flaenorol, gall hyn arwain at ostyngiad yn y cyllid mewn blwyddyn sydd i ddod.
Pryd cewch chi’ch talu
Fe gewch chi bedwar taliad chwarterol ar wahân y flwyddyn. Mae PecynUK yn bwriadu gwneud taliadau i’r awdurdodau lleol yn ôl yr amserlen ganlynol:
- Gorffennaf (chwarter 1)
- Hydref (chwarter 2)
- Ionawr (chwarter 3)
- Mawrth (chwarter 4)
Yr hyn y dylech chi ddefnyddio’r taliadau ar ei gyfer
Dylai’r taliadau gael eu defnyddio i dalu’r costau effeithlon net y mae’ch awdurdod lleol yn eu hysgwyddo wrth reoli gwastraff pecynwaith cartrefi yn effeithlon.
Mae’r costau hyn yn cynnwys:
- gwaith adfer (gan gynnwys ailgylchu) a gwaith gwaredu
- rheoli gwastraff trwy ganolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi
- darparu gwybodaeth i’r cyhoedd am reoli gwastraff pecynwaith cartrefi, gan gynnwys costau sy’n gysylltiedig ag ymgyrchoedd gwybodaeth
- marchnata gwastraff deunydd pecynwaith cartrefi sydd wedi’i adfer i’w ailgylchu
Defnyddio taliadau at ddibenion eraill
Caiff PecynUK ailgyfrifo costau gwaredu taladwy os cân nhw dystiolaeth bod y cyllid yma wedi’i ddyrannu at ddibenion eraill. Gall hysbysiadau ailgyfrifo gael eu hanfon hyd at bedair blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn asesu, a phan fydd costau gwaredu taladwy yn cael eu hailgyfrifo’n is na’r hyn a gyfrifwyd yn flaenorol, gall hyn arwain at ostyngiad yn y cyllid mewn blwyddyn sydd i ddod.
Cyflwyno data gwastraff pecynwaith
Mae cyfrifiadau taliadau yn dibynnu ar wybodaeth sy’n cael ei rhoi gan yr awdurdodau lleol. Er mwyn sicrhau bod cyfrifiadau taliadau yn gywir, rhaid i bob awdurdod lleol gyflwyno data cyfredol am wastraff pecynwaith.
Efallai eich bod eisoes yn cyflwyno’r data yma trwy wasanaethau fel:
- rhaglen gweithredu gwastraff ac adnoddau (WRAP)
- WasteDataFlow
Bydd PecynUK yn cysylltu â chi’n uniongyrchol, neu’n darparu llythyr cyflwyno trwy law contractwr, os bydd angen ichi gyflwyno rhagor o ddata.
Gofynion data yn y dyfodol
Mae PecynUK a Defra wrthi’n dadansoddi’r data a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol cynrychioliadol er mwyn cadarnhau pa ddata y bydd angen ichi ei gasglu a rhoi gwybod amdano yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Bydd PecynUK yn cyfleu’r amserlen ar gyfer casglu unrhyw ddata ychwanegol a’r dyddiadau cau ar gyfer ei gyflwyno, cyn gynted â phosibl.
Cysylltu â PecynUK
Cysylltwch â PecynUK gyda chwestiynau am daliadau’r EPR dros becynwaith.
Updates to this page
-
Guidance has been updated to reflect set payment dates, include a Welsh translation, and to make the content easier to understand.
-
Timeline information amended to show when local authorities will receive assessment notices and grant determination letters. Link added to PackUK as the scheme administrator.
-
First published.