Canllawiau

Talu ffïoedd eich dirprwyaeth

Gwybodaeth am y dulliau sydd ar gael i dalu ffïoedd eich dirprwyaeth.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Fel dirpwy, rhaid i chi dalu ffi bob blwyddyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG). Mae hyn yn cynnwys cost OPG i’ch goruchwylio a’ch cefnogi. Fel arfer, mae’n ddyledus ar 31 Mawrth am waith goruchwylio’r flwyddyn flaenorol.

Er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth brosesu eich taliad, peidiwch â thalu â siec.

Talu ar-lein

Gallwch dalu ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd. Ewch i’r safle Taliadau Goruchwylio a chyflwyno manylion eich cerdyn.

Gofynnir i chi am gyfeirnod wrth dalu. Defnyddiwch eich rhif achos OPG. Bydd hwn i’w weld ar y llythyrau a dderbynioch gennym.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Gallwch dalu trwy drosglwyddo’r ffi i’r cyfrif hwn:

  • Rhif Didoli: 60 70 80
  • Rhif y Cyfrif: 10029052
  • Enw’r Cyfrif: OPG Supervision
  • Cyfeirnod: Eich rhif achos OPG

Talu dros y ffôn

I dalu dros y ffôn gyda cherdyn debyd neu gredyd, ffoniwch 0300 456 0300 (Rhyngwladol: +44 203 518 9639). Dewiswch yr opsiynau ar gyfer dirprwyaethau a benodwyd gan y Llys Gwarchod a gwneud taliad ar gyfer ffi ddirprwyaeth.

Am beth mae’r ffïoedd yn talu?

Caiff ein ffïoedd eu gosod gan y Senedd ac maent yn cynnwys cost ein gwasanaethau, yn cynnwys:

  • gwirio’r adroddiad y byddwch yn ei anfon atom bob blwyddyn
  • cefnogaeth ymwelwyr y Llys Gwarchod a all eich helpu gydag unrhyw anawsterau yr ydych yn eu cael
  • gwasanaethau goruchwylio i sicrhau eich bod yn gweithredu’n unol â’r gorchymyn llys
  • ymchwilio i bryderon yr adroddwyd arnynt
  • cyngor ac arweiniad gan ein rheolwyr achos a’n canolfan cyswllt cwsmeriaid

Cewch ragor o wybodaeth am OPG a’i gwasanaethau ar-lein.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ebrill 2025 show all updates
  1. Customers can no longer use the 0121 600 6118 number to pay for an LPA. The correct number, 0300 456 0300, is now listed.

  2. Information about paying deputyship fees by Direct Debit has been removed

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon