Talu Treth Premiwm Yswiriant
Sut i dalu’r Dreth Premiwm Yswiriant, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Pryd i dalu
Bydd CThEF yn anfon hysbysiad i gyflwyno atoch gyda dyddiad cau i anfon eich Ffurflen Dreth (yn agor tudalen Saesneg) a thalu’r hyn sydd arnoch.
Gallwch ymestyn y dyddiad cau o 7 diwrnod os ydych yn talu drwy un o’r canlynol:
-
Debyd Uniongyrchol
-
Taliadau Cyflymach
-
Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr)
-
CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio)
Os ydych yn yswiriwr tramor ac yn defnyddio asiant, mae’n rhaid iddynt lenwi a chyflwyno’r Ffurflen Dreth a thalu CThEF erbyn y dyddiad cau.
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen eich cyfeirnod arnoch, sy’n 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Gallwch ddod o hyd iddo:
-
y dystysgrif gofrestru
-
yr hysbysiad i gyflwyno
-
gohebiaeth arall y mae CThEF yn ei hanfon atoch
Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.
Talu ar-lein
Gallwch gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein.
Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
I drefnu Debyd Uniongyrchol, gallwch argraffu ffurflen cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol (EEITT15) (yn agor tudalen Saesneg) a’i hanfon drwy’r post.
Dylech ganiatáu 10 diwrnod gwaith i CThEF drefnu’ch Debyd Uniongyrchol. Os na fydd wedi ei drefnu mewn pryd, bydd angen i chi ddefnyddio dull talu arall.
Unwaith i CThEF drefnu’ch Debyd Uniongyrchol, byddwn yn casglu’r swm a ddangosir ar eich ffurflen dreth yn awtomatig.
Mae’n rhaid i chi dalu gan ddefnyddio dull arall os ydych yn gwneud taliad o £20 miliwn neu fwy.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
-
cod didoli — 08 32 00
-
rhif y cyfrif — 11963163
-
enw’r cyfrif — Treth Premiwm Yswiriant CThEF
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
-
rhif y cyfrif (IBAN) — GB51 BARC 2005 1780 4439 99
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
-
enw’r cyfrif — Treth Premiwm Yswiriant CThEF
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank Plc
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Talu â siec
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.
Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.
Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.
Anfonwch eich siec i:
HM Revenue and Customs
Direct
BX5 5BD
Y Deyrnas Unedig
Os oes gennych ddim byd i’w dalu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad i CThEF hyd yn oed os ydych wedi cyfrifo bod gennych ddim byd i’w dalu, neu fod ad-daliad yn ddyledus i chi.
Updates to this page
-
A Welsh translation has been added.
-
Information about the maximum amount you can pay by Direct Debit has been updated.
-
Information about approving a payment through your online bank account has been added.
-
The sections on paying by Euros and other currencies have been removed as all payments must be made in sterling.
-
Change to the Direct Debit instruction form, and the postal payment address.
-
First published.