Talu toll ar fiodanwydd neu nwy tanwydd ffordd
Sut i dalu’r doll ar fiodanwydd neu nwy tanwydd ffordd, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Pryd i dalu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn y 15fed diwrnod o’r mis sy’n dilyn diwedd cyfnod y datganiad.
Er enghraifft, os yw cyfnod eich datganiad yn dod i ben ar 30 Mehefin, mae’n rhaid i CThEF gael eich datganiad a’ch taliad erbyn 15 Gorffennaf. Pan fydd y 15fed diwrnod ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Yr hyn sydd ei angen arnoch
Mae angen eich cyfeirnod talu arnoch, enw arall arno yw ‘rhif cofrestru’. Mae’n 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Gallwch ddod o hyd i hwn ar eich nodyn atgoffa i gyflwyno.
Mae angen rhifau cofrestru ar gyfer y canlynol:
-
biodanwyddau ac amnewidion tanwydd eraill, sy’n dechrau gydag ‘XMBF’ wedi’i ddilyn gan 11 digid
-
nwy i’w ddefnyddio fel tanwydd ar gyfer cerbydau ffordd, sy’n dechrau gydag ‘XMGR’ wedi’i ddilyn gan 11 digid
Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.
Talu ar-lein
Gallwch gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein.
Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
I drefnu Debyd Uniongyrchol, gallwch argraffu ffurflen cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol (EEITT15) (yn agor tudalen Saesneg) a’i hanfon drwy’r post.
Dylech ganiatáu 10 diwrnod gwaith i CThEF drefnu Debyd Uniongyrchol. Os na fydd wedi ei drefnu mewn pryd, bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o dalu.
Unwaith y bydd y Debyd Uniongyrchol wedi’i drefnu, bydd CThEF yn casglu’r swm a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth yn awtomatig.
Mae’n rhaid i chi dalu gan ddefnyddio dull arall os ydych yn gwneud taliad o £20 miliwn neu fwy.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
-
cod didoli — 08 32 10
-
rhif y cyfrif — 12529599
-
enw’r cyfrif — HMRC General Business Tax Receipts
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
-
rhif y cyfrif (IBAN) — GB86 BARC 2005 1740 2043 74
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
-
enw’r cyfrif — HMRC General Business Tax Receipts
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
Talu â siec
Sicrhewch y bydd eich taliad yn cyrraedd CThEF cyn y dyddiad cau.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.
Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.
Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.
Anfonwch eich siec i:
HM Revenue and Customs
Direct
BX5 5BD
United Kingdom
Os oes gennych ddim byd i’w dalu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth i CThEF hyd yn oed os ydych wedi cyfrifo bod gennych ddim byd i’w dalu, neu fod ad-daliad yn ddyledus i chi.
Updates to this page
-
A Welsh translation has been added
-
Information about the maximum amount you can pay by Direct Debit has been updated.
-
The payment details used to pay by bank transfer have been updated.
-
Information about approving a payment through your online bank account has been added.
-
Cheque payment details updated.
-
The bank identifier code for overseas payments has been updated.
-
First published.