Canllawiau

Talu Toll Cwrw

Dysgwch sut i dalu’ch Toll Cwrw.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut a phryd i dalu Toll Cwrw.

Mae yna ganllaw ar wahân ar gyfer talu Toll Gwin neu Doll Seidr (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod toll 8 digid arnoch. Gallwch ddod o hyd i hwn ar eich Ffurflen Dreth.

Talu nawr

Pryd i dalu

Cwblhewch eich Datganiad Toll ar-lein o fewn 15 diwrnod i’r mis y daeth eich cyfnod cyfrifyddu i ben.

Yna, mae’n rhaid i chi dalu’r doll a ddangosir ar eich datganiad erbyn 25ain o’r mis.

Sut i dalu

Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu CThEF erbyn y dyddiad cau neu mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu er mwyn i’ch taliad gyrraedd CThEF yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Dull talu Amser i’w ganiatáu
Debyd Uniongyrchol 45 diwrnod
Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Bancio ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach) Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
CHAPS Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Bacs 3 diwrnod gwaith
Siec drwy’r post 3 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar ddiwrnod dros y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny, oni bai’ch bod yn talu drwy ddefnyddio taliadau cyflymach.

Debyd Uniongyrchol

Os ydych am dalu Toll Cwrw drwy Ddebyd Uniongyrchol bydd angen i chi sefydlu Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol (yn agor tudalen Saesneg) a’i hanfon at. CThEF. Gall gymryd hyd at 45 diwrnod i CThEF sefydlu eich Debyd Uniongyrchol, felly bydd angen i chi ddefnyddio dull arall i dalu os na chaiff ei sefydlu mewn pryd.

Bydd rhif cymeradwyo Debyd Uniongyrchol yn cael ei anfon atoch unwaith y bydd CThEF wedi sefydlu’r Debyd Uniongyrchol. Sicrhewch eich bod yn cynnwys hwn ar eich datganiad. Cyn belled â’ch bod yn anfon eich datganiad mewn pryd, byddwn yn casglu’r swm cywir yn awtomatig ar y 25ain o bob mis.

Ni fydd CThEF yn casglu unrhyw log, cosbau na daliadau asesiad drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’n uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol. 

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Toll Cwrw. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo’ch taliad. 

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif. 

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Manylion banc ar gyfer bancio ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs i gyfrif CThEF.

Toll Cod didoli Rhif y cyfrif Enw’r cyfrif
Cwrw 08 32 00 11963201 Toll Cwrw CThEF

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Taliadau:

  • Fel arfer, mae Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc

  • Fel arfer, mae CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc

  • Fel arfer, mae Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Talu â siec drwy’r post

Anfonwch eich datganiad a gwnewch y siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’ – ysgrifennwch eich cyfeirnod Toll Cwrw 8 digid ar gefn y siec.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Anfonwch eich datganiad a’ch taliad i:

HMRC payments Beer Duty
HM Revenue and Customs
BX9 1XE

Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd na blwch Swyddfa’r Post pan fyddwch yn ysgrifennu i’r cyfeiriad hwn.

Peidiwch â phlygu’r siec na glynu dogfennau wrth ei gilydd.

Dim byd i’w dalu

Os ydych yn cael datganiad ac yn cyfrifo nad oes gennych unrhyw beth i’w dalu, neu os oes ad-daliad yn ddyledus i chi, mae’n rhaid i chi ei hanfon yn ôl at CThEF o hyd.

Cyhoeddwyd ar 3 November 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 February 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. The address to post cheques to has changed.

  3. Information about approving a payment through your online bank account has been added.

  4. Telephone number for customers wanting to check if their payment has been received has been amended.

  5. Temporary measures have been put in place to stop the spread of coronavirus (COVID-19) - you must now pay Beer Duty electronically by Faster Payment, Bacs or CHAPS rather than post.

  6. This notice has been updated to show a new postcode for the Beer Duty address, G70 6AD.

  7. First published.