Canllawiau

Talu cosb am beidio â chofrestru neu gynnal ymddiriedolaeth

Sut i dalu cosb os ydych wedi methu â chofrestru neu gynnal ymddiriedolaeth, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Pryd i dalu

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod y taliad yn ein cyrraedd cyn pen 30 diwrnod o’r dyddiad y gwnaethom anfon y gosb. Mae’r dyddiad hwn i’w weld ar y llythyr gwnaethom anfon atoch.

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag X.

Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod â’r swm sydd angen i chi ei dalu ar y llythyr gwnaethom anfon atoch ynghylch y gosb.

Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:

  • bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir

  • byddwch yn cael nodyn i’ch atgoffa i wneud taliad

Talu ar-lein

Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

  • Debyd Uniongyrchol

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talwch nawr

Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i ‘dalu drwy gyfrif banc’.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Talu ar-lein drwy Ddebyd Uniongyrchol

Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein CThEF.

Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth y gwnaethoch eu defnyddio wrth gofrestru am y cyfrif.

Mae’n rhaid i chi dalu gan ddefnyddio dull arall os ydych yn gwneud taliad o £20 miliwn neu fwy.

Gwneud taliad unigol

Bydd angen i chi drefnu taliad bob tro y byddwch yn talu CThEF.

Dylech drefnu’r taliad o leiaf:

  • 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad cau eich Ffurflen Dreth (y tro cyntaf y byddwch yn ei wneud)

  • 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad dyledus eich Ffurflen Dreth os ydych yn defnyddio’r un manylion banc ag ar gyfer taliad unigol blaenorol

Bydd y taliadau yn ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC NDDS’.

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn gennym ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion rydych wedi’u nodi’n cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10

  • rhif y cyfrif — 12529599

  • enw’r cyfrif — HMRC General Business Tax Receipts

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB86 BARC 2005 1740 2043 74

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC General Business Tax Receipts

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Talu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch wneud taliad yn eich cangen eich hun ag arian parod neu siec.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y canlynol:

  • defnyddio’r slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF

  • gwneud eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac yn ysgrifennu’ch cyfeirnod ar y cefn

Os ydych yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener, bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, ac nid y dyddiad pan fydd yn cyrraedd cyfrif banc CThEF.

Os nad oes gennych slip talu

Bydd angen i chi wneud taliad gan ddefnyddio dull arall.

Talu â siec

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.

Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.

Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.

Anfonwch eich siec i:

HMRC
Direct
BX5 5BD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mai 2026 show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. Information about the maximum amount you can pay by Direct Debit has been updated.

  3. The payment details used to pay by bank transfer have been updated.

  4. You can no longer set up a Direct Debit by print and post.

  5. First published.

Argraffu'r dudalen hon