Canllawiau

Llythyr o gywiriad i'ch Yswiriant Gwladol gan CThEF

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud ar ôl cael llythyr gan CThEF yn dilyn cywiriad i’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar ôl 6 Tachwedd 2022.

Os defnyddiwch eich Cyfrif Treth Busnes i gywiro’ch taliadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar ôl 6 Tachwedd 2022, byddwch yn cael llythyr gan CThEF.

Os na ellir dod o hyd i’ch cyflogai

Os nad ydym wedi gallu dod o hyd i fanylion ar gyfer eich cyflogai, bydd angen i chi anfon unrhyw wybodaeth sydd gennych atom, gan gynnwys ei ddyddiad geni a chyfeiriadau blaenorol.

Anfonwch eich llythyr i’r cyfeiriad canlynol, gan ddefnyddio’r cyfeirnod ‘NILEVY0611222’:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Os ydych chi neu cyflogai wedi gordalu oherwydd y newid i’r gyfradd ar 6 Tachwedd

Os ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd i gyflogwyr, neu nodwyd gordaliad ar ôl i un o’ch cyflogeion gyflwyno cais am ad-daliad:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif TWE Ar-lein i Gyflogwyr.

  2. Gwiriwch a oes unrhyw gredyd wedi’i gymhwyso am gyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd yn eich datganiad misol diweddaraf (o dan ‘Credydau’ a ddangosir yng nghanol y datganiad).

Os nad oes gennych rwymedigaeth, bydd y credyd yn dangos o dan ‘Taliadau sydd i ddod’ (i’r dde o’r sgrin). Bydd yn cael ei ddangos fel ‘credyd heb ei ddyrannu’. Ni fydd angen i chi wneud dim byd arall.

Os cewch wybod nad ydych wedi gordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Os yw’r llythyr yn eich cynghori nad ydych wedi gordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i’r cyflogwr, ond eich bod yn anghytuno, bydd angen i chi anfon tystiolaeth atom o unrhyw ddidyniadau sy’n berthnasol.

Anfonwch eich tystiolaeth i’r cyfeiriad canlynol, gan ddefnyddio’r cyfeirnod ‘NILEVY061122’:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Cyhoeddwyd ar 10 July 2023