Symud nwyddau drwy’r tollau yn ystod y coronafeirws (COVID-19)
Cael gwybod mwy am newidiadau i brosesau tollau wrth y ffiniau, symud nwyddau a chlirio tollau yn ystod coronafeirws (COVID-19).
Swyddogaethau ffiniau a chadw pellter cymdeithasol
I helpu i atal ymlediad coronafeirws (COVID-19), rydym wedi newid prosesau tollau wrth y ffiniau, dros dro. Mae hyn yn cynnwys gweithdrefnau cludo ac allforio.
Bydd y canllaw hwn yn cael ei ddiweddaru pan ddaw’r newid hwn i ben.
Cyfnewid dogfennau cludo ac allforio
Dylai masnachwyr, eu hasiantau a staff Llu’r Ffiniau gyfnewid dogfennau drwy ddull electronig. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- e-bost
- ffacs
- ffotograff digidol
Rhaid i’r wybodaeth fod yn ddarllenadwy. Does dim angen i chi argraffu dogfennau a ddaw i law mewn fformat electronig.
Rhaid i ddogfennau sy’n ofynnol gan swyddogion tollau yn aelod-wladwriaethau’r UE deithio gyda’r nwyddau fel copi caled. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Dogfennau Ategol ar gyfer Cludo
- prawf o statws Undeb
- Dogfennau trwydded
Dylech gael dogfennau sydd angen stamp gwlyb yn y ffordd arferol, oni bai eich bod wedi cytuno ar weithdrefnau eraill.
Rhaid i chi roi copïau caled o drwyddedau a dogfennau eraill i’r mewnforiwr neu’r allforiwr priodol, drwy’r post os oes angen. Dylid cadw’r rhain yn y ffordd arferol.
Cymeradwyaethau Allforio
Gall masnachwyr wneud cais am ganiatâd i ymestyn yr awdurdodiad hwnnw i leoliadau ychwanegol, os ydynt wedi’u hawdurdodi i ddefnyddio’r canlynol:
- Lleoedd Allforio Dynodedig
- Allforion Dan Oruchwyliaeth Tollau
- Gweithdrefnau Clirio Lleol
Bydd hyn yn caniatáu i chi ofyn am ‘ganiatâd i symud ymlaen’ heb fod yn gyntaf angen i’r nwyddau gael eu lleoli yn y safle a nodir yn eich cymeradwyaeth.
I wneud cais, e-bostiwch nesauthorisations@hmrc.gov.uk. Dylech egluro sut y bydd yr estyniad yn eich galluogi i leihau lefelau cyswllt corfforol. Dylai busnesau mawr hefyd roi enw eu Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid.
Os yw CThEM yn derbyn eich cais, cewch wybod beth yw’r broses gywir i’w dilyn.
Symudiadau cludo sy’n dechrau mewn swyddfa pen y daith
Bydd gweithdrefnau e-bost neu ffôn sydd eisoes ar waith mewn swyddfeydd ymadael yn parhau heb eu newid.
Pan fydd masnachwyr fel arfer yn nodi nwyddau ar y weithdrefn cludo drwy gyflwyno dogfennau dros gownter mewn swyddfa ymadael, gall masnachwyr nawr ofyn am ryddhau’r nwyddau drwy gysylltu â’r swyddfa berthnasol.
Rhaid i nwyddau’r Undeb fod yn y swyddfa ymadael cyn gofyn am gael eu rhyddhau i’r weithdrefn cludo. Gall nwyddau di-Undeb barhau i gael eu rhyddhau o leoedd cymeradwy, fel warysau tollau.
Rhaid i chi roi’r manylion canlynol i Lu’r Ffiniau:
- enw a rhif EORI y sawl sy’n datgan
- cyfeirnod lleol y datganiad cludo
- swyddfa ymadael y cyfeirir ati yn y datganiad cludo a chadarnhad bod y nwyddau ar y safle
- prif gyfeirnod y datganiad allforio, os oes ei angen
- cyfeiriad e-bost y dylid anfon y Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo electronig a’r prif gyfeirnod ato
Mae
ar gael.Rhaid i chi beidio â chychwyn ar y siwrnai tuag allan nes eich bod wedi cael e-bost gan Lu’r Ffiniau gyda’r Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo a’r prif gyfeirnod.
Cyn y rhoddir caniatâd i symud ymlaen, efallai y bydd angen i chi:
- rhoi gwybodaeth bellach er mwyn cwblhau gwiriadau dogfennol
- cyflwyno’r nwyddau i swyddfa dollau
Symudiadau cludo sy’n dechrau gydag anfonwr awdurdodedig
Gall anfonwyr awdurdodedig wneud cais am ganiatâd i ymestyn yr awdurdodiad hwnnw i leoliadau ychwanegol.
I wneud cais, e-bostiwch national-simplifications.ccto@hmrc.gov.uk neu’r swyddfa Llu’r Ffiniau priodol. Dylech egluro sut y bydd yr estyniad yn eich galluogi i leihau lefelau cyswllt corfforol. Dylai busnesau mawr hefyd roi enw eu Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid.
Os oes angen caniatâd arnoch i symud ymlaen ar gyfer datganiadau allforio, gallwch ofyn am hyn ar yr un pryd . Os yw CThEM yn derbyn eich cais, cewch wybod beth yw’r broses gywir i’w dilyn.
Symudiadau cludo sy’n dod i ben mewn swyddfa ymadael
Bydd gweithdrefnau e-bost neu ffôn sydd eisoes ar waith mewn swyddfeydd pen y daith yn parhau heb eu newid.
Gall masnachwyr nawr ofyn am ryddhau nwyddau o’r weithdrefn cludo drwy gysylltu â’r swyddfa briodol ar ôl i’r nwyddau gyrraedd.
Rhaid i chi roi’r manylion canlynol i Lu’r Ffiniau:
- Enw a rhif EORI y sawl sy’n datgan
- prif gyfeirnod y datganiad cludo
- cyfeirnod stocrestr o’r cyfleuster storio dros dro
- rhif mynediad neu brif gyfeirnod y weithdrefn tollau ddilynol, os yw’n berthnasol
- cadarnhad bod unrhyw selnodau a restrir ar y datganiad cludo yn gyfan
Mae
ar gael.Ni ddylid dadlwytho nwyddau nes bod Llu’r Ffiniau wedi rhoi caniatâd. Rhaid i fasnachwyr roi gwybod am unrhyw anghysondebau rhwng y nwyddau a’r datganiad cludo i’r un cyfeiriad e-bost Llu’r Ffiniau ar unwaith.
Symudiadau cludo sy’n dod i ben gyda derbyniwr awdurdodedig
Rhaid i dderbynwyr awdurdodedig barhau i ddilyn eu prosesau arferol, ond gallant gyfathrebu a chyfnewid dogfennau gyda Llu’r Ffiniau dros y ffôn, ffacs neu e-bost. Rhaid i nwyddau fod yn eu safle cymeradwy cyn iddynt ofyn am ganiatâd i ddadlwytho.
Rhestr o swyddfeydd Lu’r Ffiniau
GB000011, Maes Awyr Birmingham/Birmingham Airport
Ffôn: 0121 781 7850
E-bost: bhxfreightteam.detcentral@hmrc.gsi.gov.uk
GB000029, UKBF, Maes Awyr Rhyngwladol Bryste/Bristol International Airport
Ffôn: 01275 473 123
Ffôn Symudol: 07920 568 613
E-bost: BristolAirportinternationalTrade2@homeoffice.gov.uk
GB000047, Ramsgate
Ffôn: 03000 515 831
E-bost: doverinternationaltrade@homeoffice.gov.uk
GB000051, Felixstowe
Ffôn: 01394 303 023, 01394 303 024, 01394 303 026
E-bost: FelixstoweITTransit@homeoffice.gov.uk
GB000060, Dover
Ffôn: 03000 515 831
E-bost: doverinternationaltrade@homeoffice.gov.uk
GB000067, Scotland Frontier, Paisley
Ffôn: 0141 847 4855
E-bost: GLAFreightTeam@homeoffice.gsi.gov.uk
GB000072, Hull
Ffôn: 01482 785 861
E-bost: hull.int.trade@homeoffice.gov.uk
GB000074, Immingham
Ffôn: 01469 553 732
E-bost: BFIMM-IntTrade@homeoffice.gsi.gov.uk
GB000080, Lerpwl/Liverpool, Seaforth S2 Berth
Ffôn: 0151 934 1212, 0151 934 1219, 0151 934 1226, 0151 934 1229
E-bost: seaforth.liverpool@homeofficei.gov.uk, seaforths2customs@hmrc.gov.uk
GB000084, Nwyddau London Heathrow/London Heathrow Cargo
Ffôn: 0203 3014 5601
E-bost: FPT@homeoffice.gov.uk
GB000085, Dosbarthiad Nwyddau Maes Awyr London Gatwick/London Gatwick Airport Cargo Dist.
Ffôn: 01293 501 032
Ffôn Symudol: 07795 391 574
E-bost: borderforcesouthcargogatwick@homeoffice.gov.uk
GB000087, Leeds Bradford
Ffôn: 01469 553 732
E-bost: bfimm-inttrade@homeoffice.gsi.gov.uk
GB000093, Tilbury
Ffôn: 01375 853 228
E-bost: thames.gateway@homeoffice.gsi.gov.uk
GB000102, Maes Awyr Luton FCT/Luton Airport FCT
Ffôn: 01582 817 900, 07802 637 192
GB000120, Bagiau, Maes Awyr London Heathrow/London Heathrow Airport, baggage
Ffôn: 0203 3014 5601
E-bost: FPT@homeoffice.gov.uk
GB000121, Maes Awyr Stansted FCT/Stansted Airport FCT
Ffôn: 01279 665 825
GB000122, Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd/Cardiff International Airport
Ffôn: 01446 712 920
E-bost: leit.cardiff@homeoffice.gov.uk
GB000124, Caergybi/Holyhead
E-bost: National-Simplifications@hmrc.gsi.gov.uk
GB000126, Doc Penfro/Pembroke Dock
Ffôn: 01646 623 023
E-bost: leit.pembroke@homeoffice.gov.uk
GB000142, Dociau Belfast, Uned 2 Bloc C/Belfast Docks, Unit 2 Block C
Ffôn: 02896 931 537
E-bost: bfportteam@homeoffice.gov.uk
GB000155, Reading
Ffôn: 03000 544 419
GB000170, Porth Mynedfa Llundain/London Gateway Port
Ffôn: 01375 654 835
E-bost: london.gateway@homeoffice.gov.uk
GB000191, Manceinion/Manchester
Ffôn: 0161 261 5720, 0161 261 5721
Ffôn Symudol: 07802 270 827, 07802 600 442
GB0000219, Teesport
Ffôn: 01642 446 209
E-bost: BFTeesportfreight@homeoffice.gov.uk
Newidiadau i’r ffordd rydych yn gweithredu
Allforion sy’n werth llai na €3000
Os oes gennych lwyth sy’n werth llai na €3000 ac nad yw’n destun gwaharddiadau neu gyfyngiadau, gellir datgan hwn i’w allforio yn y DU hyd yn oed os yw’r allforiwr wedi’i sefydlu mewn aelod-wladwriaeth arall o’r UE. Mae’n rhaid i chi lenwi datganiad tollau ar gyfer y nwyddau hyn.
Os yw’r allforio i gael ei gynnal o dan weithdrefnau symlach, rhaid i chi gysylltu â’ch swyddfa oruchwylio.
Oedi yn ystod cludiant eich nwyddau
Os ydych chi’n cludo nwyddau, gall yr amser teithio disgwyliedig a gofnodir ar ddatganiad cludo adlewyrchu’r oedi a ragwelir. Bydd y System Cludo Cyfrifiadurol Newydd yn derbyn amseroedd teithio hyd at 14 diwrnod.
Llenwi datganiadau atodol
Os na allwch gyfrifo’ch datganiad atodol yn gywir erbyn eich dyddiad dyledus o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19), gallwch gyflwyno ffigur wedi’i amcangyfrif. Os yw’ch datganiad yn cynnwys swm o doll Ecséis, rhaid i chi gyflwyno datganiad atodol, fel arfer.
Sut i gyflwyno ffigur wedi’i amcangyfrif
I gyflwyno ffigur wedi’i amcangyfrif, rhaid i chi e-bostio Cfsp_cope@hmrc.gov.uk a chyflwyno’r manylion canlynol:
- enw’r cwmni
- rhif EORI
- rhif y cyfrif gohirio
- amcangyfrif o swm y doll dramor sy’n ddyledus
- amcangyfrif o’r TAW sy’n ddyledus
- nifer y datganiadau atodol heb eu cyflwyno
Rhaid i chi roi amcangyfrif rhesymol o’r symiau sy’n ddyledus a chadw cofnodion sy’n egluro’ch cyfrifiad.
Dylech ddefnyddio ffigurau datganiadau atodol blaenorol, ond gallwch ystyried amrywiadau tymhorol hysbys ac unrhyw effeithiau’r coronafeirws (COVID-19) megis cwymp mewn archebion a gostyngiad o ran nifer y llwythi.
Bydd CThEM yn mabwysiadu agwedd resymol tuag at gamau cydymffurfio, ond gallant roi cosbau sifil os yw’r ffigurau wedi’u hamcangyfrif yn sylweddol is na’r symiau gwirioneddol ac nad yw’ch cofnodion yn cyfiawnhau’r ffigurau wedi’u hamcangyfrif.
Rhaid i chi gyflwyno datganiad atodol cywir cyn gynted ag y gallwch.
Rhaid i chi hysbysu’r tîm gweithdrefnau tollau symlach pan fyddwch wedi cyflwyno’ch datganiad. Yna, byddant yn credydu’r swm wedi’i amcangyfrif yn ôl i’ch cyfrif gohirio.