Canllawiau

Gwneud newidiadau i’ch cofrestriad gwrth-wyngalchu arian, neu ddatgofrestru’ch busnes

Cael gwybod sut i roi gwybod am newidiadau i’ch manylion. Gallwch dynnu’ch cais i gofrestru yn ôl, neu ganslo’ch cofrestriad, ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian.

Newidiadau y dylech roi gwybod i CThEF amdanynt

Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os bydd eich manylion cofrestru ar gyfer gwyngalchu arian yn newid, neu os byddwch yn sylwi eu bod yn anghywir. Er enghraifft, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am newidiadau o ran:

  • cyfeiriad, enw masnachu neu rif ffôn
  • eich strwythur cyfreithiol, er enghraifft, os oeddech yn hunangyflogedig ond rydych bellach yn gwmni cyfyngedig
  • perchnogaeth eich busnes
  • endid cyfreithiol perchnogion y busnes, er enghraifft, os bydd perchnogaeth yn newid o bartneriaeth i gwmni cyfyngedig
  • y swyddog enwebedig
  • y swyddog cydymffurfio
  • partneriaid neu gyfarwyddwyr
  • statws masnachfraint neu asiantaeth
  • personél yn eich busnes sydd â statws gweddus a phriodol
  • statws gweddus a phriodol neu statws cymeradwy unigolyn

Dylech hefyd roi gwybod i ni am unrhyw:

  • euogfarn droseddol sydd heb eu darfod (yn Saesneg), a restrir yn Atodlen 3 o’r Rheoliadau Gwyngalchu Arian 2017, neu sydd â thwyll neu anonestrwydd yn rhan ohoni
  • safleoedd newydd neu ychwanegol
  • safleoedd nad ydych yn eu defnyddio mwyach ar gyfer gweithgareddau busnes sydd wedi’u cwmpasu gan y Rheoliadau Gwyngalchu Arian

Pryd i roi gwybod am newidiadau

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau i’ch swyddogion enwebedig a chydymffurfio cyn pen 14 diwrnod i’r newid.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau neu gamgymeriadau yn eich manylion cofrestru cyn pen 30 diwrnod i’r newid neu’r adeg pan sylwoch ar y camgymeriad.

Sut i roi gwybod am newid i’ch cofrestriad

Bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.

Sut i dynnu’ch cais yn ôl neu ddatgofrestru

Dylech dynnu’ch cais yn ôl, neu ddatgofrestru, os yw un o’r canlynol yn wir:

Er mwyn tynnu’ch cais yn ôl, neu ganslo’ch cofrestriad, mewngofnodwch gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth.

Bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.

Os bydd perchnogaeth eich busnes yn newid

Ni allwch drosglwyddo cofrestriad o un endid cyfreithiol i un arall.

Os bydd y busnes yn newid dwylo:

  • bydd yn rhaid i’r perchennog newydd gofrestru gyda CThEF
  • bydd yn rhaid i’r perchennog blaenorol ganslo ei gofrestriad

Os byddwch yn rhoi gwybod am newidiadau ar ôl yr amser a ganiateir

Dylech gysylltu â CThEF cyn gynted â phosibl os bydd angen rhagor o amser arnoch. Dylech esbonio’r rhesymau pam.

Cyhoeddwyd ar 25 February 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 July 2023 + show all updates
  1. Information about unspent criminal convictions has been updated in the 'Changes you should report to HMRC' section.

  2. The section 'How to report a change or cancel your registration' has been updated.

  3. The section 'If ownership of your business changes' has been updated.

  4. Updated the guidance to explain the different time limits for reporting material changes or inaccuracies and reporting changes to the nominated officer or compliance officer.

  5. Information has been added to the page to describe how to report changes if you're registered online.

  6. First published.