Canllawiau

Cynllun Lleihau Cynhyrchu Llaeth: sut i wneud cais

Mae’r Cynllun Gostwng Cynhyrchu Llaeth yn rhoi arian i gynhyrchwyr llaeth sy’n gwirfoddoli i ostwng cyflenwadau llaeth eu gwartheg.

This guidance was withdrawn on

The Milk Production Reduction Scheme closed on 17 March 2017.

Newyddion Diweddaraf

Mae pob cyfnod gwneud cais ar gyfer y cynllun hwn bellach wedi dod i ben.

Gallwch wneud cais am daliadau os derbyniodd RPA eich cais i ymuno â’r cynllun.

Mae’n rhaid i chi anfon prawf gyda’ch cais am daliadau.

Am ragor o wybodaeth darllenwch yr adrannau perthnasol isod.

Cyfanswm y nifer o geisiadau a gyflwynwyd i’r RPA, yng nghyfran gyntaf y cynllun lleihau llaeth gwirfoddol oedd 1460. 452 o’r rhain oddiwrth gwsmeriaid yng Ngogledd Iwerddon.

Mae gwerth cyfredol yr hawliadau o Ogledd Iwerddon yn £ 1,765,067.76. Sylwch - mae hyn yn amodol ar gasgliad boddhaol o unrhyw arolygiadau sydd heb gymryd lle.

Beth yw’r Cynllun Lleihau Cynhyrchu Llaeth?

Mae’r cynllun – sy’n wirfoddol – yn rhoi arian i gynhyrchwyr llaeth sy’n lleihau’r swm o laeth gwartheg y maent yn ei ddarparu i brynwyr cyntaf yn ystod cyfnod o 3 mis, y cyfeirir ato fel y ‘cyfnod lleihau’. Caiff hyn ei gymharu â’r un cyfnod o 3 mis yn y flwyddyn galendr flaenorol, y cyfeirir ato fel y ‘cyfnod cyfeirio’.

Roedd 2 gyfnod lleihau:

  1. 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2016
  2. 1 Tachwedd 2016 i 31 Ionawr 2017

Cewch eich talu €14.00/£11.87 fesul 100 kg (€14.42/£12.23 fesul 100 litr) ar gyfer y swm o laeth gwartheg sy’n gymwys ar gyfer taliad. Y gyfradd gyfnewid yw’r hwnnw a osodwyd gan Fanc Canolog Ewrop ar 31 Awst 2016.

Nid yw gwerthiannau uniongyrchol na llaeth gan rywogaethau nad ydynt yn wartheg yn rhan o’r cynllun.

Taliadau

Y lleihad uchaf y gallwch wneud cais am daliad amdano yw’r cyfanswm a gadarnhawyd i chi gan RPA.

O fewn y terfyn hwn, bydd RPA yn eich talu am y lleihad gwirioneddol yn eich darpariaeth o laeth gwartheg.

Os na fyddwch yn lleihau eich darpariaeth llaeth yn ddigonol, byddwn yn lleihau eich taliad. Byddwch yn derbyn:

  • y taliad llawn os bydd y lleihad gwirioneddol yn 80% neu’n fwy o’r cyfanswm y gwnaethom ei gadarnhau
  • 80% o’r taliad os bydd y lleihad gwirioneddol yn 50% neu’n fwy, ond yn llai na 80% o’r cyfanswm y gwnaethom ei gadarnhau
  • 50% o’r taliad os bydd y lleihad gwirioneddol yn 20% neu’n fwy, ond yn llai na 50% o’r cyfanswm y gwnaethom ei gadarnhau
  • dim taliad os bydd y lleihad gwirioneddol yn llai na 20% o’r cyfanswm y gwnaethom ei gadarnhau

Caiff taliad ei wneud yn uniongyrchol i’r manylion cyfrif banc sydd gan RPA, fel arfer o fewn 90 diwrnod i ddiwedd y cyfnod lleihau. Os yw eich manylion cyfrif banc wedi newid yn ddiweddar, cysylltwch â’r llinell gymorth Taliadau Gwledig ar 03000 200 301.

Sut i wneud cais am daliadau

I wneud cais am daliad ar gyfer y cyfnod lleihau cyntaf (1 Hydref i 31 Rhagfyr 2016), llenwch ffurflen MPRS2 a gwnewch yn siŵr fod RPA yn ei dderbyn ar ôl 31 Rhagfyr 2016 a chyn hanner nos ar 14 Chwefror 2017.

I wneud cais am daliad ar gyfer yr ail gyfnod lleihau (1 Tachwedd 2016 i 31 Ionawr 2017), llenwch ffurflen MPRS2 a gwnewch yn siŵr fod RPA yn ei dderbyn ar ôl 31 Ionawr a chyn hanner nos ar 17 Mawrth 2017.

Rhaid eich bod wedi cofrestru ar gyfer taliadau gwledig cyn y gall RPA wneud taliad i chi.

Anfon prawf gyda’ch cais

Mae’n rhaid i chi hefyd anfon prawf yn dangos cyfanswm y lleihad mewn darpariaethau a wnaed yn ystod y cyfnod lleihau perthnasol. Gan fod hyn yn rhan o’ch cais, mae’n rhaid i chi ei anfon gyda’ch ffurflen hawlio. Heb y prawf hwn, bydd eich cais yn anghyflawn a chaiff ei wrthod.

Gall prawf fod yn gopi o siec llaeth neu gyfriflen prynwr ar gyfer pob un o’r misoedd perthnasol. Gallwch anfon llungopïau.

Os nad ydych yn cynhyrchu llaeth gwartheg mwyach ac felly nad oes gennych sieciau llaeth na chyfriflenni prynwr, bydd RPA yn derbyn llythyr gan eich prynwr yn cadarnhau na ddarparwyd llaeth gwartheg yn ystod un neu fwy o’r cyfnodau lleihau.

Ble i anfon ffurflenni a phrawf

Anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau a’ch prawf i:

Milk Production Reduction Scheme
Rural Payments Agency
Room 151
Lancaster House
Hampshire Court
Newcastle upon Tyne
NE4 7YH

milkprscheme@rpa.gsi.gov.uk

Cysylltu â ni

Ffôn: 03000 200 301

Apeliadau

Gellir dod ag unrhyw apeliadau ynghylch penderfyniadau a wnaed gan RPA o dan y cynllun hwn gan ddefnyddio’r un weithdrefn â’r un ar gyfer Apeliadau masnachwr. Ni fydd unrhyw ffi i’w thalu ar gyfer apeliadau o dan y cynllun hwn, felly peidiwch â chynnwys siec gyda’ch ffurflen.

Cyhoeddwyd ar 16 August 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 June 2020 + show all updates
  1. Removed forms as The Milk Production Reduction Scheme closed on 17 March 2017.

  2. Added translation

  3. Added translation

  4. Scheme update.

  5. Announced that there will be no further applications to the scheme.

  6. Added translation

  7. Added links to the application and claim forms.

  8. Added the application guidance - forms will follow on Saturday 10 September.

  9. Added the scheme start date, 11 September 2016.

  10. First published.