Skip to main content
Canllawiau

Gwneud atgyfeiriadau gwahardd i DBS

Mae'r dudalen hon yn cynnwys canllawiau ar wneud atgyfeiriadau. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth am droseddau perthnasol, a dolen i gychwyn neu ailddechrau eich atgyfeiriad ar-lein.

Cyflwyniad

Mae’r dudalen hon yn cynnwys cyngor ynghylch pryd y gall cyflogwyr a rheolwyr gwirfoddolwyr wneud atgyfeiriad gwahardd i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Nid yw’r canllaw hwn yn gyngor cyfreithiol ac nid yw’n cwmpasu pob agwedd neu enghreifftiau o niwed, atgyfeiriadau a gwahardd. Os oes angen cymorth cyfreithiol arnoch, dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol.

Sut i wneud atgyfeiriad

Dylid gwneud atgyfeiriadau gwahardd ar-lein i DBS gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Atgyfeiriadau Gwahardd.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar-lein, gallwch anfon e-bost at contactus@dbs.gov.uk i ofyn am ffurflen atgyfeirio papur. Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu â ni ar y dudalen hon.

Gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth ragnodedig – dyma wybodaeth y mae’n rhaid i chi ei darparu’n gyfreithiol os ydych o dan ddyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio, neu os ydych chi’n dod o fewn y personau/cyrff hynny sy’n ofynnol yn gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth ar gais. Byddwch yn ymwybodol y gall y ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth ragnodedig fod yn berthnasol p’un a ydych wedi cyflwyno atgyfeiriad i DBS ai peidio.

Mae’n bwysig eich bod chi’n darparu cymaint o wybodaeth ag y gallwch. Mae DBS yn dibynnu ar ansawdd y wybodaeth a ddarperir i ni. Ni ddisgwylir i chi ddarparu gwybodaeth nad oes gennych fynediad ati. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn i’w gynnwys fel rhan o’ch atgyfeiriad yn y fideo a/neu drawsgrifiad DBS ‘Sut i wneud atgyfeiriad gwahardd o ansawdd da’.

Fel rhan o’r broses i benderfynu a ddylid rhoi unigolyn ar un neu’r ddwy Restr Waharddedig, gall unrhyw wybodaeth yn eich atgyfeiriad gael ei defnyddio gan DBS a gellid ei datgelu i’r unigolyn a atgyfeiriwyd neu bartïon eraill.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn a wnawn gyda’ch gwybodaeth yn ein canllaw diogelu data a diogelwch.

Dechrau neu ailddechrau atgyfeiriad gwahardd ar-lein i DBS

Mae cyflwyno atgyfeiriad gwahardd ar-lein yn cymryd tuag awr.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael o ddydd Llun i ddydd Sul, 8am i 11:30pm.

I gyflwyno atgyfeiriad gwahardd ar-lein i DBS, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich manylion cyswllt

  • manylion y person sy’n cael ei atgyfeirio

  • manylion cyswllt ar gyfer unrhyw asiantaethau eraill sy’n ymwneud ag ymchwilio i’r ymddygiad perthnasol

  • manylion y risg o niwed, neu niwed a ddioddefwyd

  • dogfennau i gefnogi eich atgyfeiriad, megis datganiadau, adroddiadau, cofnodion cyfarfodydd, neu dystiolaeth arall o’ch ymchwiliad disgyblu

Cadw atgyfeiriad gwahardd

Bydd angen One Login GOV.UK arnoch os ydych chi am gadw eich atgyfeiriad a dychwelyd ato yn nes ymlaen. Gallwch greu One Login GOV.UK os nad oes gennych un eisoes. 

Os ydych chi’n cyflwyno atgyfeiriad ar ran sefydliad, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio cyfeiriad e-bost gwaith wrth greu GOV.UK One Login, yn hytrach na chyfeiriad e-bost personol.

Parhau

Beth yw atgyfeiriad?

Mae atgyfeiriad yn wybodaeth am berson. Mae’n dweud wrthym am bryderon y gallai unigolyn fod wedi niweidio plentyn neu oedolyn agored i niwed, neu roi plentyn neu oedolyn agored i niwed mewn perygl o niwed.

Nid yw’r ddyletswydd atgyfeirio yn berthnasol i drefniadau teuluol neu bersonol, rhieni nac aelodau o’r cyhoedd. Os oes gan riant neu aelod o’r cyhoedd bryder diogelu, dylent gysylltu â’r heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol neu gyflogwr y person.

Gall yr asiantaethau hyn wedyn ymchwilio i’r honiad ac os yw’n briodol wneud atgyfeiriad i’r DBS.

Pan fydd person wedi’i atgyfeirio, mae DBS yn ystyried a oes angen eu hychwanegu at restr(au) gwaharddedig.

Gallwch edrych ar y siart llif atgyfeirio i’ch helpu i benderfynu a oes angen i chi wneud atgyfeiriad.

Pwy all wneud atgyfeiriad?

O dan ddeddfwriaeth, gall y canlynol wneud atgyfeiriadau i’r DBS:

  • awdurdodau lleol

  • awdurdod addysg yng Ngogledd Iwerddon

  • cyrff iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon

  • ceidwaid cofrestr yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon

  • awdurdodau goruchwylio yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon

Fodd bynnag, gall unrhyw un wneud atgyfeiriad os ydych chi’n ystyried bod rhywun:

  • Wedi’i niweidio neu’n peri risg o niwed i blentyn neu oedolyn ac yn bodloni’r prawf niwed (gweler yr adran ddiweddarach)

  • Wedi derbyn rhybuddiad neu euogfarn am drosedd berthnasol.

Mae gan rai sefydliadau ddyletswydd gyfreithiol i wneud atgyfeiriad atom.

Pwy sydd â dyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio?

Mae gan ddarparwyr gweithgareddau a reoleiddir (cyflogwyr neu reolwyr gwirfoddol pobl sy’n gweithio mewn gweithgareddau a reoleiddir yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) a chyflenwyr personél ddyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio at DBS lle bodlonir amodau. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed pan fo atgyfeiriad hefyd wedi’i wneud at dîm diogelu awdurdod lleol neu reoleiddiwr proffesiynol.

Gall cyflenwr personél fod yn asiantaeth gyflogaeth, busnes cyflogaeth neu sefydliad addysgol ac fe’u disgrifir fel:

  • asiantaeth gyflogaeth sy’n gwneud trefniadau i naill ai ddod o hyd i gyflogaeth ceisiwr gwaith gydag un sy’n llogi neu i’w gyflenwi i un sy’n llogi i’w gyflogi

  • busnes cyflogaeth sy’n cyflogi ceisiwr gwaith ac yn ei gyflenwi i un sy’n llogi i weithio o dan reolaeth yr un sy’n llogi

  • sefydliad addysgol os yw’n gwneud trefniadau i gyflenwi myfyriwr sy’n dilyn cwrs yn y sefydliad i ddarparwr gweithgaredd a reoleiddir fel ysgol.

Dyletswydd cyfreithiol i atgyfeirio: y ddau amod y mae’n rhaid eu bodloni

Os ydych chi’n ddarparwr gweithgareddau a reoleiddir neu’n dod o fewn y categori o gyflenwr personél, rhaid i chi wneud atgyfeiriad pan fodlonir y ddau amod canlynol:

Amod 1

  • Rydych chi’n tynnu’n ôl caniatâd i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed. Neu rydych chi’n symud y person i faes arall o waith nad yw’n weithgaredd a reoleiddir.

Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd pan fyddech wedi cymryd y camau uchod, ond roedd y person wedi’i ail-leoli, wedi ymddiswyddo, wedi ymddeol, neu wedi gadael. Er enghraifft, mae athro yn ymddiswyddo pan fydd honiad o niwed i fyfyriwr yn cael ei wneud am y tro cyntaf.

Amod 2

Rydych chi’n meddwl bod y person wedi cyflawni 1 o’r canlynol:

  • cymryd rhan mewn ymddygiad perthnasol mewn perthynas â phlant a/neu oedolion. Mae gweithred neu ddiffyg gweithredu wedi niweidio plentyn neu oedolyn agored i niwed neu wedi eu rhoi mewn perygl o niwed

  • bodloni’r prawf niwed mewn perthynas â phlant a / neu oedolion agored i niwed. e.e. ni fu unrhyw ymddygiad perthnasol ond mae risg o niwed i blentyn neu rywun agored i niwed yn dal i fodoli

  • wedi cael rhybuddiad neu wedi’u dyfarnu’n euog o drosedd berthnasol (gwahardd awtomatig naill ai gyda’r hawl i wneud sylwadau neu hebddo)

Ymddygiad perthnasol mewn perthynas â phlant

Mae plentyn yn berson o dan 18 oed.

Ymddygiad perthnasol yw:

  • yn peryglu plentyn neu’n debygol o beryglu plentyn

  • pe bai’n cael ei ailadrodd yn erbyn neu mewn perthynas â phlentyn byddai’n peryglu’r plentyn neu’n debygol o beryglu’r plentyn

  • yn cynnwys deunydd rhywiol sy’n ymwneud â phlant (gan gynnwys meddu ar ddeunydd o’r fath)

  • yn cynnwys delweddau rhywiol sy’n darlunio trais yn erbyn bodau dynol (gan gynnwys meddu ar ddelweddau o’r fath)

  • o natur rywiol sy’n ymwneud â phlentyn

Mae ymddygiad person yn peryglu plentyn os ydynt yn:

  • niweidio plentyn

  • achosi i blentyn gael ei niweidio

  • rhoi plentyn mewn perygl o niwed

  • ceisio niweidio plentyn

  • annog rhywun arall i niweidio plentyn

Edrychwch ar restr o examples of harm to children (PDF, 57.6 KB, 2 o dudalennau).

Ymddygiad perthnasol mewn perthynas ag oedolion:

Mae oedolyn agored i niwed yn berson 18 oed neu’n hŷn sy’n cael gwasanaeth neu gymorth sy’n cael ei ddosbarthu fel gweithgaredd a reoleiddir i oedolion.

Mae ymddygiad perthnasol:

  • yn peryglu oedolyn agored i niwed neu’n debygol o beryglu oedolyn agored i niwed

  • os ailadroddir yn erbyn neu mewn perthynas ag oedolyn agored i niwed byddai’n peryglu’r oedolyn agored i niwed neu’n debygol o beryglu’r oedolyn agored i niwed

  • yn cynnwys deunydd rhywiol sy’n ymwneud â phlant (gan gynnwys meddu ar ddeunydd o’r fath)

  • yn cynnwys delweddau rhywiol sy’n darlunio trais yn erbyn bodau dynol (gan gynnwys meddu ar ddelweddau o’r fath)

  • o natur rywiol sy’n ymwneud ag oedolyn sy’n agored i niwed 

Mae ymddygiad person yn peryglu oedolyn agored i niwed os ydynt yn:

  • niweidio oedolyn sy’n agored i niwed

  • achosi i oedolyn agored i niwed gael ei niweidio

  • rhoi oedolyn agored i niwed mewn perygl o niwed

  • ceisio niweidio oedolyn sy’n agored i niwed

  • annog rhywun arall i niweidio oedolyn agored i niwed

Mae person yn bodloni’r prawf niwed os gallant:

  • niweidio oedolyn sy’n agored i niwed

  • achosi i oedolyn agored i niwed gael ei niweidio

  • rhoi oedolyn agored i niwed mewn perygl o niwed

  • ceisio niweidio oedolyn sy’n agored i niwed

  • annog rhywun arall i niweidio oedolyn agored i niwed

Edrychwch ar restr o examples of harm to vulnerable adults (PDF, 56.3 KB, 1 dudalen).

Y pŵer i atgyfeirio

Mae’r pŵer i atgyfeirio yn digwydd pan nad yw sefydliad yn gweithredu fel darparwr gweithgareddau a reoleiddir. Bydd hyn fel arfer pan fydd y sefydliad yn ymgymryd â’i rôl diogelu.

Gellir defnyddio’r pŵer i atgyfeirio pan fydd sefydliad yn credu bod person naill ai wedi:

  • niweidio neu wedi peri risg o niwed i blentyn neu oedolyn agored i niwed

  • bodloni’r prawf niwed; neu

  • derbyn rhybuddiad neu gollfarn am drosedd berthnasol ac;

  • mae’r person maen nhw’n ei atgyfeirio yn, mae wedi neu a allai fod yn gweithio mewn gweithgaredd a reoleiddir yn y dyfodol ac;

  • efallai y bydd y DBS o’r farn ei bod yn briodol i’r person gael ei ychwanegu at restr wahardd

IGwybodaeth am weithgaredd a reoleiddir

Mae canllawiau ynghylch gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant a gweithgaredd a rheoleiddir gydag oedolion ar gael gan yr Adran Addysg a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae DBS hefyd wedi cynhyrchu rhai taflenni sy’n esbonio gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant ac oedolion.

Gweithgaredd a reoleiddir yng Ngogledd Iwerddon

Mae’r diffiniad o weithgaredd a reoleiddir ar gyfer Gogledd Iwerddon yr un fath i raddau helaeth ag yn Lloegr, ond mae rhai rolau ychwanegol nad ydynt wedi’u cynnwys yn y diffiniad Seisnig. I gael gwybodaeth am y rolau ychwanegol, cyfeiriwch at ein canllawiau Gweithgaredd a reoleiddir yng Ngogledd Iwerddon.

Beth yw niwed?

Nid yw hyn wedi’i ddiffinio mewn deddfwriaeth. Mae DBS yn gweld niwed fel ei ddealltwriaeth gyffredin neu’r diffiniad y gallech ddod o hyd iddo mewn geiriadur.

Mae niwed yn cael ei ystyried yn ei gyd-destun ehangaf a gall gynnwys:

  • niwed rhywiol

  • niwed corfforol

  • niwed ariannol

  • esgeulustod

  • niwed emosiynol

  • niwed seicolegol

  • niwed geiriol

Nid yw hon yn rhestr gwbl gynhwysfawr, gall niwed gymryd llawer o wahanol ffurfiau.

Beth yw’r prawf niwed?

Mae person yn bodloni’r prawf niwed os gallent niweidio plentyn neu oedolyn agored i niwed neu eu rhoi mewn perygl o niwed. Mae’n rhywbeth y gall person ei wneud i achosi niwed neu beri risg o niwed i blentyn neu oedolyn agored i niwed.

Oes raid i mi wneud atgyfeiriad?

Os gwnaethoch gyflogi person i weithio mewn gweithgaredd a reoleiddir, mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i atgyfeirio lle bodlonir yr amodau perthnasol.

Mae’r ddyletswydd i atgyfeirio yn berthnasol hyd yn oed pan fo adroddiad wedi’i wneud i gorff arall fel tîm diogelu awdurdod lleol.

Mae’r ddyletswydd iatgyfeirio yn berthnasol waeth beth a yw corff arall wedi atgyfeirio at y DBS mewn perthynas â’r un person.

Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gan y DBS yr holl wybodaeth berthnasol i ystyried achos. Gall DBS wedyn wneud penderfyniad teg, cyson a thrwyadl ynghylch a ddylid gwahardd person rhag gweithio gyda grwpiau agored i niwed.

Mae person sydd o dan ddyletswydd i atgyfeirio ac sy’n methu ag atgyfeirio atom heb gyfiawnhad rhesymol yn cyflawni trosedd. Os cânt eu cael yn euog gallant gael dirwy o hyd at £5,000.

Gaf fi wneud atgyfeiriad i’r DBS os nad yw’r amodau cyfreithiol yn cael eu bodloni?

Gallai fod adegau pan fyddwch yn ystyried y dylech wneud atgyfeiriad er budd diogelu plant neu oedolion agored i niwed hyd yn oed os nad ydych wedi tynnu’r person o weithio mewn gweithgaredd a reoleiddir.

Gallai hyn gynnwys gweithredu ar gyngor yr heddlu neu weithiwr proffesiynol diogelu, neu mewn sefyllfaoedd lle nad oes gennych ddigon o dystiolaeth i ddiswyddo neu dynnu person o weithio gyda grwpiau agored i niwed.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i DBS ystyried unrhyw wybodaeth a anfonir atom o unrhyw ffynhonnell. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a anfonir atom lle nad yw’r amodau atgyfeirio cyfreithiol yn cael eu bodloni.

Bydd DBS yn defnyddio pwerau cyfreithiol a phrosesau gwahardd i benderfynu a ddylid gwahardd y person rhag gweithio mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant a / neu oedolion agored i niwed.

Os ydych chi am wneud atgyfeiriad atom lle nad yw’r amodau atgyfeirio yn cael eu bodloni, dylech wneud hynny o ystyried deddfau cyflogaeth a diogelu data perthnasol.

Efallai yr hoffech ofyn am eich cyngor cyfreithiol eich hun mewn perthynas â’r achosion hyn.

Atgyfeiriadau ar gyfer troseddau gwahardd awtomatig

Bydd unrhyw un a gafwyd yn euog neu a gafodd rybuddiad am droseddau difrifol penodol, yn amodol ar ystyried sylwadau lle y caniateir, yn cael ei wahardd rhag gweithio mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed.

A ddylwn i wneud atgyfeiriad pan fydd honiad yn cael ei wneud gyntaf, neu pan fyddaf yn atal rhywun dros dro?

Pan fydd honiad yn cael ei wneud, dylech ymchwilio a chasglu digon o dystiolaeth i sefydlu a oes sylfaen iddo.

Bydd hyn yn llywio’ch prosesau ar gyfer unrhyw benderfyniad i ddiswyddo neu dynnu’r person o weithio mewn gweithgaredd a reoleiddir.

Dylech wneud atgyfeiriad hyd yn oed os yw cyfnod sylweddol o amser wedi mynd heibio rhwng yr honiad a chasglu tystiolaeth i gefnogi penderfyniad i wneud atgyfeiriad.

Dylech gwblhau eich ymchwiliadau a’ch prosesau disgyblu (hyd yn oed os yw’r person wedi gadael eich cyflogaeth).

Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod DBS yn dibynnu ar dystiolaeth atgyfeirio ac unrhyw dystiolaeth berthnasol arall a gasglwyd.

Efallai na fydd y ddyletswydd i wneud atgyfeiriad yn cael ei sbarduno gan atal dros dro; mae’n dibynnu a oes gennych ddigon o wybodaeth i fodloni meini prawf dyletswydd atgyfeirio. Gallwch atal person dros dro hyd nes y bydd ymchwiliad lle bu honiadau o niwed neu risg o niwed.

Ar ôl ymchwiliad, os penderfynwch adael i’r person ddychwelyd i swydd sy’n golygu gweithio mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant neu oedolion agored i niwed, yna efallai na fydd dyletswydd gyfreithiol i wneud atgyfeiriad.

Ond, os penderfynwch ddiswyddo’r person neu ei dynnu o weithio mewn gweithgaredd a reoleiddir, yna byddai angen i chi wneud atgyfeiriad.

A gaf fi wybod am ganlyniad fy atgyfeiriad?

Dim ond os gallwch brofi buddiant cyfreithlon yn y person rydych chi wedi’i atgyfeirio.

Os nad ydych bellach yn cyflogi’r person a atgyfeiriwyd neu’n gadael iddo gymryd rhan mewn gweithgaredd a reoleiddir, yna efallai na fyddwch yn gallu dangos buddiant cyfreithlon ac ni fyddwch yn cael eich hysbysu o’r canlyniad.

Cael help gyda’ch atgyfeiriad

Llinell gymorth DBS: 03000 200 190 (dewiswch opsiwn 2 ac yna pwyswch 1) 

Cymraeg: 03000 200 191 

Rhyngwladol: +44 (0)151 676 9390 

[Relay DU] (https://www.relayuk.bt.com/) (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 03000 200 192 

Iaith Arwyddion Prydain (BSL): lawrlwythwch neu fewngofnodwch i Convo 

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus) 

Darganfyddwch fanylion ffioedd galwadau 

Cael help trwy we-sgwrs DBS

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Medi 2026 Show all updates
  1. Welsh translation of page added.

  2. Email address to request a paper barring referral form has been updated to contactus@dbs.gov.uk

  3. Page has been updated to highlight the online barring referral route, and to provide instructions on what to do if you cannot use the online route.

  4. Page reverted to previous format

  5. Page has been updated to remove reference to the Paper Referral form.

  6. Information has been restructured to bring the link to the Barring Referral Service to the top, to make it more easy for customers to access this information.

  7. Contact details updated

  8. Information about the new 'save and return' feature of the Barring Referral Service has been added.

  9. Information to clarify who can make a referral has been added in, and sections have been reordered as per the Policy team's clarification

  10. The hours have been updated and more contact information has been provided.

  11. Page has been reverted temporarily to its previous edition, as the information had been updated too soon and reflected changes that have not yet happened.

  12. -The information around the amount of time it takes to make a barring referral has been updated. -The days that the service is open have been amended. -The contact information has been updated in the 'help with referrals' section, and a link to information about call charges has also been added.

  13. Update to how users can submit a barring referral.

  14. Link added to the following guidance: Regulated activity in Northern Ireland.

  15. One of the headings has been changed to highlight which section of the guidance users need to view in order to register for a DBS online services account.

  16. Updated the link for regulated activity with children.

  17. First published.

Argraffu'r dudalen hon