Sut i wirio eich manylion Atal Gwyngalchu Arian (AML)
Pa fanylion Atal Gwyngalchu Arian y dylech eu gwirio cyn i chi wneud cais i fod yn Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP).
Dylech wirio manylion eich goruchwyliaeth AML cyn i chi wneud cais i gofrestru fel ACSP. Os nad ydych wedi’ch goruchwylio’n gywir neu os yw’r manylion a roddwch yn anghywir, byddwn yn gwrthod eich cais.
Gwiriwch eich bod wedi’ch goruchwylio’n gywir.
Rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer goruchwyliaeth AML
Rhaid i chi gael eich goruchwylio i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â rheoliadau Atal Gwyngalchu Arian gan gorff goruchwylio perthnasol. Gwiriwch y rhestr o gyrff goruchwylio AML.
Mae rhai cyrff goruchwylio yn cynnig mathau eraill o gofrestriadau ac aelodaethau, na allwn eu derbyn.
Rhaid cadarnhau eich goruchwyliaeth
Mae gan rai cyrff goruchwylio statws arfaethedig ar gyfer aelodau. Ni allwn dderbyn ceisiadau nes bod goruchwyliaeth AML wedi’i gadarnhau ac yn weithredol.
Os ydych ond wedi dod o dan oruchwyliaeth yn ddiweddar
Bydd angen i ni wirio eich manylion gyda’r corff goruchwylio AML. Ni fyddwn yn gallu gwneud hyn nes bod y corff goruchwylio yn eich ychwanegu at ei restr o aelodau dan oruchwyliaeth.
Mae gan rai cyrff goruchwylio restr gyhoeddus o aelodau y gallwch ei gwirio i ddarganfod a ydych wedi cael eich ychwanegu. Os nad oes gan eich corff goruchwylio restr gyhoeddus, cysylltwch ag ef i wirio.
Gwiriwch a ydych yn cael eich goruchwylio fel busnes neu unigolyn
Cysylltwch â’ch corff goruchwylio i wirio a ydych yn cael eich goruchwylio fel busnes (cwmni) neu unigolyn.
Os ydych chi’n unig fasnachwr sy’n cofrestru fel ACSP
Bydd angen i chi gael eich goruchwylio fel unigolyn. Efallai y bydd rhai cyrff goruchwylio AML yn eich goruchwylio fel busnes hyd yn oed os ydych chi’n unig fasnachwr.
Byddwn yn gwirio bod y corff goruchwylio yn dal yr un enw ag a roddwch yn eich cais.
Os ydych chi’n cofrestru cwmni cyfyngedig neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC)
Rhaid i’r corff goruchwylio oruchwylio’r busnes (neu’r cwmni). Rhaid iddo ddal yr un enw cwmni ag sy’n ymddangos ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.
Os oes gwahaniaeth, dylech naill ai ddiweddaru’r enw gyda’r corff goruchwylio, neu wneud cais i newid enw’r cwmni ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.
Os ydych yn cofrestru math arall o fusnes
Bydd angen i chi ddweud wrthym sut rydych yn cael eich goruchwylio er mwyn i ni allu cadarnhau’r manylion cywir.
Byddwn yn gwirio bod y corff goruchwylio yn dal yr un enw ag a roddwch yn eich cais. Os nad yw’r enwau’n cyd-fynd, byddwn yn gwrthod eich cais.
Gwiriwch eich cyfeirnod AML neu rif aelodaeth
Bydd angen y cyfeirnod AML neu’r rhif aelodaeth a roddodd y corff goruchwylio i chi. Byddwn yn cadarnhau bod hyn yn gywir gyda’r corff goruchwylio.
Efallai y bydd gan eich corff goruchwylio enw gwahanol ar gyfer y cyfeirnod. Cysylltwch â’ch corff goruchwylio os nad ydych yn siŵr pa gyfeirnod i roi, neu ble i ddod o hyd iddo.
Mae gan rai cyrff goruchwylio sawl cyfeirnod ar gyfer aelodau. Bydd angen i chi ddarparu’r cyfeirnod cywir fel rhan o’ch cais.
Ystyriwch sut rydych chi am gofrestru eich busnes
Ni allwn gofrestru sawl ACSP sydd â’r un manylion goruchwylio AML.
Os oes angen i chi gofrestru sawl busnes sydd â’r un manylion goruchwylio, gallwch gofrestru un ACSP, yna defnyddio’r cyfrif asiant i ychwanegu defnyddwyr. Bydd pob defnyddiwr rydych chi’n ei ychwanegu at y cyfrif yn gallu defnyddio gwasanaethau ar ran yr ACSP.
I gael rhagor o wybodaeth am ychwanegu defnyddwyr at y cyfrif, darllenwch y canllawiau ar fod yn ACSP.