Canllawiau

Dull cydymffurfio CThEF ar gyfer busnesau mawr

Deall y dull y mae CThEF yn ei ddefnyddio i weithio gyda chwsmeriaid busnes mawr.

Gyda phwy rydym yn gweithio

Mae Cyfarwyddiaeth Busnesau Mawr CThEF yn gweithio gyda thua 2,000 o fusnesau mwyaf y DU i sicrhau eu bod yn talu’r swm cywir o dreth.

Mae’r gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda’r rhan fwyaf o fusnesau yn y DU:

  • â throsiant blynyddol dros £200 miliwn
  • â throsiant blynyddol o dan £200 miliwn gyda materion treth cymhleth
  • sy’n gweithredu o fewn sector busnes sy’n gymhleth

Mae hyn er mwyn sicrhau triniaeth gyson ar draws y sectorau hyn.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Rydym yn defnyddio dull effeithlon sy’n seiliedig ar risg pan fyddwn yn gweithio gyda’n cwsmeriaid, gan gynnwys busnesau mawr.

Gyda busnesau mawr, mae’r swm o arian dan sylw a chymhlethdod y materion treth, yn golygu ein bod yn cymryd dull dwysach o ran adnoddau.

Mae CThEF yn ymchwilio i faterion treth tua hanner busnesau mwyaf y DU ar unrhyw un adeg.

Rydym yn fwy ymarferol gyda busnesau mawr oherwydd eu maint, eu cymhlethdod a’r symiau mawr o dreth sydd yn y fantol.

Pan fydd busnesau mawr yn casglu trethi gan eu cyflogeion a’u cwsmeriaid, fel TAW a TWE, maent yn cyfrif am oddeutu 40% o gyfanswm y refeniw treth a gesglir gan CThEF.

Rydym yn gweithio gyda’r busnesau risg uchaf ar lefel bwrdd drwy ein Rhaglen Corfforaethau Risg Uchel (yn agor tudalen Saesneg).

Mae safonau proffesiynol ar gyfer gwaith cydymffurfio CThEF (yn agor tudalen Saesneg), yn nodi sut y dylem roi Siarter CThEF a gwerthoedd y Gwasanaeth Sifil (yn agor tudalen Saesneg) ar waith yn ein gweithgarwch cydymffurfio â busnesau mawr.

Rheolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid

Mae CThEF yn defnyddio model rheoli cydymffurfiad cwsmeriaid i fagu gwybodaeth fanwl am y busnesau rydym yn gweithio gyda nhw.

Rydym hefyd yn dysgu am yr amgylchedd economaidd a masnachol y mae’r busnesau’n gweithredu ynddo, eu dull o weithredu risg, a’u llywodraethu mewnol.

Rydym yn neilltuo uwch weithiwr proffesiynol o’r enw Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid (CCM) i bob un o fusnesau mwyaf y DU. Prif rôl Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid yw sicrhau bod busnesau’n talu’r swm cywir o dreth, ar yr adeg gywir.

Mae gan CCMau ddealltwriaeth fanwl o risgiau treth pob busnes.

Mae Rheolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid yn cael cymorth:

  • arbenigwyr cyfundrefnau treth
  • dadansoddwr data
  • cyfreithwyr
  • arbenigwyr archwilio
  • arbenigwyr yn y sector fasnachu
  • cyfrifwyr fforensig

Rheoli risg cydymffurfiad â threth

Dyma ddull CThEF o helpu cwsmeriaid yn y Gyfarwyddiaeth Busnesau Mawr i reoli eu cydymffurfiad â threth:

  • magu a chynnal perthnasoedd effeithiol â chwsmeriaid
  • dynodi cwsmeriaid yn ôl lefel y risg fel y gall CThEF dargedu adnoddau yn y ffordd orau
  • helpu cwsmeriaid i ddeall eu sgôr risg, sy’n cael ei chytuno arni fel rhan o Adolygiad Risg y Busnes

Rydym yn penderfynu lefel gyffredinol busnesau o risg cydymffurfiad treth drwy ystyried:

  • y risg gynhenid y mae’r busnes yn ei chynrychioli (er enghraifft, ei faint, ei gymhlethdod a faint o newidiadau sydd yno)
  • a yw’r busnes yn lliniaru’r risg hon yn effeithiol drwy ei ymddygiad (er enghraifft, ei ddull o gydymffurfio â threth a’i natur agored gyda CThEF)

Mae Fframwaith Cydymffurfiad Cydweithredol (yn agor tudalen Saesneg) CThEF yn esbonio’r hyn y mae’n ei ddisgwyl gan fusnesau mawr, a’r hyn y gallant ei ddisgwyl gan CThEF. Mae CThEF yn ystyried cydymffurfiad parhaus â’r fframwaith fel dangosydd o ymddygiad risg is, ac yn ystyried diffyg cydymffurfiad â’r fframwaith fel dangosydd o ymddygiad risg uwch.

Adolygiadau Risg Busnes

Mae Adolygiad Risg Busnes (BRR) yn asesiad risg sy’n digwydd rhwng cwsmer y Gyfarwyddiaeth Busnesau Mawr a CThEF. Mae’r Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid yn cynnal yr Adolygiad Risg Busnes. Nod yr adolygiad yw:

  • cytuno ar sgôr risg gyffredinol a statws risg y busnes
  • penderfynu ar unrhyw gamau sydd eu hangen i leihau’r sgôr risg
  • penderfynu faint o adnoddau a chraffu sydd eu hangen ar y busnes

Os yw sgôr risg busnes yn isel, byddwn yn cynnal Adolygiad Risg Busnes bob 3 blynedd. Os yw’r sgôr risg yn gymedrol i uchel, byddwn yn cynnal adolygiad o leiaf unwaith y flwyddyn.

Gall cwsmeriaid sydd â statws risg isel ddisgwyl cael mwy o sicrwydd na fydd CThEF yn cwestiynu Ffurflenni Treth a datganiadau, ac yn gyffredinol na fydd CThEF yn cychwyn ymyriadau, ar wahân i rai ymyriadau a allai fod yn berthnasol i bob cwsmer.

Os credwn fod cwsmer naill ai ddim yn rheoli risg cydymffurfiad treth yn ddigonol neu’n cymryd safiad sy’n cynrychioli risg sylweddol, byddwn yn defnyddio’r ystod lawn o adnoddau arbenigol ar draws CThEF ac yn gweithio’n ddwys gyda’r cwsmer i allu gostwng ei broffil risg yn gyflym. Beth bynnag yw’r sgôr risg, bydd CThEF yn anelu at ddatblygu perthynas agored a chydweithredol â chwsmeriaid gan ein bod o’r farn mai dyna’r ffordd orau o reoli eu risg cydymffurfiad treth.

Yn 2020, cyflwynodd CThEF Sgwrs Flynyddol gyda’r holl gwsmeriaid nad ydynt yn cael Adolygiad Risg Busnes. Mae’r Sgyrsiau Blynyddol yn rhoi’r cyfle i fusnesau drafod datblygiadau busnes gyda CThEF ac i godi unrhyw broblemau.

Sut rydym yn datrys anghydfodau treth

Ar gyfer busnesau mawr, rydym yn defnyddio’r un dull o ddatrys anghydfodau treth ag yr ydym yn ei ddefnyddio gyda phob trethdalwr, p’un a yw hynny’n digwydd drwy’r busnes yn setlo gyda ni neu drwy ymgyfreitha yn y llysoedd. Caiff y rhan fwyaf o anghydfodau treth eu datrys yn dilyn cydweithio â’r busnes a thrwy gytundeb. Ni fydd CThEF yn setlo am unrhyw swm llai nag y byddem yn disgwyl yn rhesymol ei gael o ganlyniad i fynd gerbron y llys.

Datrysir anghydfodau treth yn unol â’r gyfraith, fel y nodir yn ein Strategaeth Ymgyfreitha a Setlo (LSS) (yn agor tudalen Saesneg). Yr LSS yw’r fframwaith y mae CThEF yn ei ddefnyddio i ddatrys anghydfodau treth drwy brosesau cyfraith sifil. Mae’n berthnasol i bob trethdalwr ac i fusnesau mawr neu fach, p’un a yw anghydfod yn cael ei ddatrys drwy gytundeb neu drwy ymgyfreitha.  

Gwneir penderfyniadau o dan ein Cod Llywodraethu (yn agor tudalen Saesneg) cyhoeddedig, a oruchwylir gan y Comisiynydd Sicrwydd Treth. Nid oes gan y Comisiynydd rôl o ran rhedeg y timau sy’n delio ag anghydfodau treth, ac mae’n cyhoeddi adroddiad tryloywder blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer holl drethdalwyr y DU.    

Mae gwaith CThEF i ddatrys anghydfodau treth yn destun craffu annibynnol gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, gan adrodd i’r Senedd.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i ystadegau am ganlyniad gwaith CThEF o ran cydymffurfiad busnesau mawr (yn agor tudalen Saesneg).

Mae CThEF yn defnyddio amrywiaeth o fesurau i sicrhau bod cwmnïau rhyngwladol yn talu’r swm cywir o dreth ar y gyfran o’u helw sy’n deillio o’u gweithgareddau economaidd yn y DU. Mae rheolau gosod pris trosglwyddo a Threth Ailgyfeirio Elw (yn agor tudalen Saesneg) yn ddwy elfen bwysig.

Cyhoeddwyd ar 12 November 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 April 2024 + show all updates
  1. A Welsh language version of this content has been added.

  2. Updated Introduction text. More information section added.

  3. Updated with the latest information on the role of HMRC Large Business, and how to contact them.

  4. First published.