Cofrestrfa Tir EF: Rheolau adrodd newydd ar gyfer hawliau rheoli contractiol
Yr hyn y mae angen i weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith ei wybod er mwyn paratoi ar gyfer cofnodi hawliau dros dir at ddibenion datblygu.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae Rheoliadau Darparu Gwybodaeth (Rheoli Contractiol) (Tir Cofrestredig) 2026 yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr, hyrwyddwyr ac eraill sydd â hawliau penodol dros dir at ddibenion datblygu ddarparu gwybodaeth i Gofrestrfa Tir EF (CTEF) i’w chyhoeddi mewn set ddata newydd ar reoli contractiol. Mae’r Rheoliadau yn gymwys i dir cofrestredig yng Nghymru a Lloegr ac yn dod i rym ar 6 Ebrill 2027.
Bydd gofynion newydd yn dod i rym yn Ebrill 2027
Er na fydd y gofynion newydd yn dod i rym tan Ebrill 2027, bydd angen rhoi gwybod am rai hawliau a roddir ar neu ar ôl 8 Mehefin 2026 o hyd. Os ydych yn gweithredu ar ran datblygwyr, hyrwyddwyr neu gleientiaid eraill sy’n cael eu heffeithio, mae’n werth paratoi nawr er mwyn ichi allu cydymffurfio â’r gofynion newydd pan fyddant yn dod i rym.
Rydym yn gweithio’n agos gyda thrawsgludwyr wrth inni ddatblygu gwasanaeth digidol newydd ar gyfer darparu gwybodaeth am reoli contractiol. Byddwn yn cyhoeddi cyfarwyddyd ymarfer newydd cyn bo hir, yn esbonio pa hawliau fydd yn cael eu heffeithio, pa wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu a sut y gallwch baratoi. Rydym yn bwriadu diweddaru’r canllawiau’n rheolaidd mewn ymateb i adborth gan gwsmeriaid.
Dyddiadau pwysig i’w nodi
| Dyddiadau i’w nodi | Camau i’w cymryd |
|---|---|
| Hawliau newydd a roddir ar neu ar ôl 8 Mehefin 2026 ond cyn i’r Rheoliadau ddod i rym ar 6 Ebrill 2027 | Nodwch yr hawliau a roddwyd i’ch cleientiaid er 8 Mehefin 2026 sy’n cael eu heffeithio, er mwyn ichi allu cyflwyno’r wybodaeth ofynnol am yr hawliau hynny o Ebrill 2027. (Bydd gennych tan 6 Hydref 2027 i wneud hyn.) |
| Hawliau newydd a roddir ar neu ar ôl i’r Rheoliadau ddod i rym ar 6 Ebrill 2027 | Cyflwynwch y wybodaeth ofynnol i CTEF o fewn 60 niwrnod calendr |
| Hawl bresennol a gaiff ei newid neu ei haseinio ar neu ar ôl i’r Rheoliadau ddod i rym ar 6 Ebrill 2027 | Cyflwynwch y wybodaeth ofynnol i CTEF o fewn 60 niwrnod calendr |
Sut mae’r gofynion hyn yn wahanol i geisiadau cofrestru tir
Er y bydd gwybodaeth am reoli contractiol yn cael ei darparu trwy sianeli digidol CTEF, mae’r broses yn wahanol i gais cofrestru tir mewn sawl ffordd bwysig.
Rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu gan drawsgludwr a reoleiddir
Rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu’n bersonol gan unigolyn sydd wedi ei reoleiddio i gyflawni gweithgareddau trawsgludo perthnasol, ac nid gan baragyfreithiwr neu gyflogai arall heb ei reoleiddio mewn cwmni trawsgludo.
Efallai y bydd angen ichi gasglu gwybodaeth ychwanegol
Pan fo’r tirfeddiannwr yn unigolyn, bydd angen ei ddyddiad geni a’i fan geni arnoch. Mae’r wybodaeth hon ar gael yn aml i drawsgludwr y tirfeddiannwr ond efallai na chaiff ei rhannu fel mater o drefn â’r trawsgludwr sy’n gweithredu ar ran deiliad yr hawl rheoli gontractiol. Dylech ystyried cael y manylion hyn yn gynnar er mwyn osgoi oedi yn nes ymlaen.
Bydd angen ichi nodi’r tir sy’n cael ei effeithio mewn fformat y gall peiriant ei ddarllen
Pan fo hawl rheoli contractiol yn effeithio ar ran yn unig o deitl cofrestredig, bydd angen data lleoliad y gall peiriant ei ddarllen ar CTEF sy’n dangos yr ardal sy’n cael ei heffiethio.
Os yw’r hawl yn effeithio ar deitlau cofrestredig cyfan, gallwn adnabod y stent fel rheol o’r wybodaeth bresennol am y teitl. Fodd bynnag, pan effeithir ar ran yn unig o deitl, mae angen gwybodaeth leoliad ychwanegol arnom i gefnogi gwasanaeth cwbl awtomataidd ac i alluogi defnyddwyr yn y dyfodol i chwilio’r set ddata yn ddaearyddol. Mae angen yr wybodaeth er mwyn adnabod y tir sy’n cael ei effeithio, nid er mwyn diffinio terfynau cyfreithiol manwl.
Ni fyddwn yn gallu derbyn cynlluniau PDF wedi eu sganio at y diben hwn. Mewn llawer o achosion, yr ateb hawsaf fydd cael ffeil data gofodol ddigidol gan yr arolygwr tir neu’r drafftiwr proffesiynol sy’n paratoi cynllun y contract. Bydd fformatau cyffredin yn y diwydiant, megis Shapefile a GeoJSON, sy’n seiliedig ar gyfesurynnau Grid Cenedlaethol y DU, yn cael eu cefnogi.
Byddwn yn darparu offer mapio ar-lein hefyd sy’n galluogi trawsgludwyr i adnabod y tir sy’n cael ei effeithio heb uwchlwytho ffeil data gofodol. Mae adborth gan ddefnyddwyr sydd wedi profi’r offer hyn yn awgrymu eu bod yn syml ac yn gyflym i’w defnyddio.
Beth ddylech chi ei wneud nawr?
Os ydych wrthi’n negodi neu’n cwblhau cytundebau a all gynnwys hawliau rheoli contractiol:
-
cadwch lygad am y cyfarwyddyd ymarfer newydd, a gaiff ei gyhoeddi’n fuan
-
cofiwch y bydd yn rhaid rhoi gwybod am rai hawliau a roddir ar neu ar ôl 8 Mehefin 2026 ar ôl i’r rheoliadau ddod i rym
-
pan fo hawl yn effeithio ar ran yn unig o deitl cofrestredig, ystyriwch ofyn i’ch arolygwr tir neu ddrafftiwr cynlluniau ddarparu ffeil data gofodol ddigidol addas ochr yn ochr â chynllun y contract
-
pan fo’r tirfeddiannwr yn unigolyn, ystyriwch gael ei ddyddiad geni a’i fan geni ar ddechrau’r trafodiad
I gyflwyno cwestiynau, anfonwch ebost at: contractualcontrolsteam@landregistry.gov.uk