Skip to main content
Stori newyddion

Cytundebau Rheoli Contractiol

Bydd rheoliadau newydd a ddaw i rym yn Ebrill 2027 yn ei gwneud yn ofynnol i rai cytundebau rheoli contractiol sy’n effeithio ar dir cofrestredig yng Nghymru a Lloegr gael eu cyflwyno’n ddigidol i Gofrestrfa Tir EF.

Yn dilyn cyhoeddiad y llywodraeth ar 9 Mawrth, mae deddfwriaeth Rheoliadau Darparu Gwybodaeth (Rheoli Contractiol) (Tir Cofrestredig) 2026 (‘y Rheoliadau’) wedi ei gwneud, a daw i rym ar 6 Ebrill 2027..

Bydd gwybodaeth am rai cytundebau tir, megis dewisiadau, contractau amodol a hawliau rhagbrynu, lle mae’r cytundebau hynny’n rhoi’r pŵer i berson reoli sut y caiff tir ei ddefnyddio neu ei ddatblygu, i’w chyflwyno’n ddigidol i Gofrestrfa Tir EF trwy drawsgludwr a reoleiddir.

Mae’r Rheoliadau’n ymwneud â thir cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.

Dyddiadau i’w nodi Camau i’w cymryd
Hawliau newydd a roddir ar neu ar ôl 8 Mehefin 2026 ond cyn i’r Rheoliadau ddod i rym ar 6 Ebrill 2027 Cyflwyno’r wybodaeth ofynnol i CTEF erbyn 6 Hydref 2027 (unwaith y bydd y gwasanaeth newydd ar gael)
Hawliau newydd a roddir ar neu ar ôl i’r Rheoliadau ddod i rym ar 6 Ebrill 2027 Cyflwyno’r wybodaeth ofynnol i CTEF o fewn 60 diwrnod calendr
Hawl bresennol sy’n cael ei newid neu ei haseinio ar neu ar ôl i’r Rheoliadau ddod i rym ar 6 Ebrill 2027 Cyflwyno’r wybodaeth ofynnol i CTEF o fewn 60 diwrnod calendr

Mae’r wybodaeth ganlynol i’w chyflwyno:

  • dyddiad, partïon a theitl neu ddisgrifiad o’r cytundeb sylfaenol:  nodi pryd yr ymrwymwyd i’r cytundeb a roddodd yr hawl, ei enw, a phwy yw’r partïon o dan sylw.  
  • y trawsgludwr sy’n rhoi’r wybodaeth i Gofrestrfa Tir EF: rhaid i’r trawsgludwr a reoleiddir sy’n rhoi gwybod am yr hawl rheoli gontractiol ddarparu ei rif cofrestru proffesiynol unigol ac enw’r awdurdod a’i rhoddodd. Ni fyddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth hon.
  • manylion y derbynnydd a’r rhoddwr:

    • enw
    • dynodiad yr endid (os yw’n gymwys): os yw’r naill barti neu’r llall yn gwmni neu’n sefydliad arall, dylid cynnwys rhif cofrestru cyhoeddus (er enghraifft, Tŷ’r Cwmnïau neu’r Comisiwn Elusennau) a’r wlad gorffori
    • dyddiad a man geni’r rhoddwr (os yw’n unigolyn): er mwyn sicrhau dynodiad cywir. Ni fyddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth hon.
  • math o hawl rheoli gontractiol: fel y’i diffinnir yn y Rheoliadau: dewis, amodol (hawl i gaffael tir o dan gontract amodol), rhagbrynu, neu hyrwyddo (hawl i gyfarwyddo neu ofyn am drosglwyddiad)

  • dyddiad y gellir arfer yr hawl ohono: neu, os yw hynny’n dibynnu ar fodloni amodau penodol, disgrifiad byr o’r amodau hynny 

  • cyfnod rheoli cychwynnol: y cyfnod o ddechrau’r cytundeb hyd at y pwynt y mae’n rhaid arfer yr hawl neu y gall ddod i ben, gan anwybyddu unrhyw ddarpariaethau i’w hymestyn

  • cyfanswm y cyfnod rheoli: y cyfnod o ddechrau’r cytundeb hyd at y pwynt y gellir arfer yr hawl neu y gall ddod i ben, ar ôl ystyried unrhyw ddarpariaethau neu hawliau i’w hymestyn

  • unrhyw hawl i’r naill barti neu’r llall derfynu’r hawl 

  • lleoliad y tir yr effeithir arno gan yr hawl: 

    • rhifau teitl: yr ystadau cofrestredig yr effeithir arnynt
    • data geo-ofodol: i ddangos lleoliad yr hawl yn ddigonol, pan fo’n effeithio ar ran yn unig o deitl cofrestredig
  • cyfeiriad y tir disgrifiad o leoliad diriaethol y safle a gwmpesir gan yr hawl, gan gynnwys cod post (os yw ar gael) a Rhif Cyfeirnod Eiddo Unigryw (os yw ar gael)

  • tir islaw’r wyneb ac awyrle: a yw’r tir sy’n ddarostyngedig i’r hawl yn cynnwys tir a ddelir ar wahân i’r wyneb

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o ymrwymiad ehangach y llywodraeth i gynyddu tryloywder yn y farchnad tir.

Mae platfformau digidol CTEF ar gyfer cyflwyno a rheoli’r wybodaeth hon wrthi’n cael eu datblygu. Trwy weithio’n agos â chwsmeriaid a rhanddeiliaid, byddwn yn sicrhau eu bod yn hawdd i bawb eu cyrchu a’u defnyddio. Rydym yn annog defnyddwyr i gymryd rhan mewn profi prototeipiau a rhannu eu hadborth a’u syniadau – cofrestrwch i gymryd rhan yn ymchwil defnyddwyr CTEF ar reoli contractiol.

Caiff Cyfarwyddyd ymarfer a diweddariadau rheolaidd ar sut i gyflwyno’r wybodaeth ofynnol a’r fformatio angenrheidiol eu darparu dros y misoedd nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Cytundebau rheoli contractiol – GOV.UK.

I holi cwestiynau neu i ddarparu adborth, anfonwch adborth at: contractualcontrolsteam@landregistry.gov.uk

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Gorffennaf 2026 Show all updates
  1. Updated with a bulleted list of requirements for application.

  2. Updated with a list of information (the bullet pointed list) required when submitting an application.

  3. First published.