Canllawiau

Amserlenni cwblhau amcangyfrifedig Cofrestrfa Tir EF

Amserlenni cwblhau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF.

Applies to England and Wales

Ein hamcangyfrif cyfredol ar gyfer pryd caiff 90% o geisiadau o’r math hwn eu cwblhau yw’r dyddiad cwblhau a gynghorir a ddarperir trwy’r porthol . Daw o ganlyniad i geisiadau penodol gan gwsmeriaid i wybod pryd caiff bron pob cais ei gwblhau. Fodd bynnag, gall profiad cwsmeriaid amrywio, fel yr adlewyrchir gan yr amserlenni isod. Am resymau gweithredol, efallai caiff y cais ei brosesu’n gynt.

Amserlenni

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Hydref 2023

Perchnogaeth arferol, morgais a newidiadau eraill i deitlau cofrestredig sy’n bodoli

Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:

Y cynharaf 1 diwrnod
Ar gyfartaledd 2 i 25 diwrnod
Bron pob un 6 i 12 wythnos

Newidiadau mwy cymhleth i deitlau cofrestredig sy’n bodoli

Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:

Y cynharaf 1 diwrnod
Ar gyfartaledd 4 i 5 mis
Bron pob un 12 i 14 mis

Sylwer: nid yw’r amseroedd prosesu hyn yn cynnwys diweddariadau awtomataidd i gofrestri sy’n bodoli, a chaiff y rhan fwyaf ohonynt eu cwblhau ar unwaith. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys rhyddhau morgeisi yn electronig a cheisiadau i gofrestru cyfyngiadau electronig

Cofrestru pryniannau lleiniau ar ddatblygiadau newydd

Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:

Y cynharaf 9 i 10 mis
Ar gyfartaledd 11 i 14 mis
Bron pob un 19 i 21 mis

Cofrestri pryniannau o ran o eiddo cofrestredig nad yw’n ddatblygiad newydd

Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:

Y cynharaf 10 i 14 mis
Ar gyfartaledd 15 i 17 mis
Bron pob un 20 i 22 mis

Cofrestru eiddo am y tro cyntaf

Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:

Y cynharaf 8 i 12 mis
Ar gyfartaledd 13 i 15 mis
Bron pob un 15 i 17 mis

Os oes angen inni brosesu’r cais yn gynt ar eich cyfer chi neu eich cleient, gofynnwch inni gyflymu eich cais. Os nad oes unrhyw frys, a bod y dyddiad cwblhau amcangyfrifedig wedi mynd heibio, gallwch fod yn sicr bod eich cais wedi cael ei warchod a’i fod yn bwysig iawn i ni. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.

Cyhoeddwyd ar 16 November 2022