Canllawiau

Amgryptio negeseuon ebost Cofrestrfa Tir EF

Sut i agor ac ateb ebost wedi ei amgryptio gan Gofrestrfa Tir EF.

Applies to England and Wales

Ffordd o gynyddu amddiffyniad ebost sensitif yw amgryptio ebost. Mae amgryptio yn ein helpu i warchod preifatrwydd ein cwsmeriaid, gweithwyr a phartneriaid. Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i amgryptio negeseuon ebost sy’n cynnwys gwybodaeth sensitif a anfonir i gyfeiriadau ebost y tu allan i Gofrestrfa Tir EF.

Oherwydd gwahaniaethau rhwng systemau gweithredu a chleientiaid post, efallai na fydd delweddau yn y canllaw hwn yn cyfateb yn union i’r hyn a welir gennych chi.

Cael ebost wedi ei amgryptio

Pan anfonir ebost wedi ei amgryptio atoch gan Gofrestrfa Tir EF, bydd yn ymddangos yn eich mewnflwch fel ebost arferol. Pan gliciwch ar yr ebost i’w agor, ni fydd y neges yn cael ei datgelu. Bydd yn rhaid ichi ddilysu eich hunan i weld ei gynnwys.

Pan gewch yr ebost wedi ei amgryptio, bydd yn edrych yn debyg i hyn yn eich mewnflwch.

1

Arbedwch yr atodiad ‘message.html’ i’ch cyfrifiadur.

Ewch i’r lleoliad lle arbedwyd ‘message.html’ a chliciwch ddwywaith arno i’w agor.

Gofynnir ichi ddilysu’ch hunan ar ôl hynny.

Gallwch wneud hyn naill ai trwy ddefnyddio cyfrif Microsoft neu gyfrinair un-tro.

2

Dewiswch ‘Sign-in’ os oes gennych gyfrif Microsoft sy’n gysylltiedig â’ch cyfeiriad ebost, fel y gwelir.

Os nad oes gennych gyfrif Microsoft cysylltiedig, neu os ydych yn ansicr, dewiswch ‘Use a one-time passcode’.

Mewngofnodi gyda chyfrif Microsoft

Os oes gennych gyfrif Microsoft neu os ydych yn ddefnyddiwr Office 365, dewiswch ‘Sign In’ a gofynnir ichi fewngofnodi gan ddefnyddio manylion eich cyfrif Microsoft (eich cyfeiriad ebost a chyfrinair Microsoft).

3

Mewngofnodwch i’ch cyfrif Microsoft gan ddefnyddio naill ai eich manylion Microsoft eich hunan neu gyfrif gwaith neu ysgol Office 365.

Os ydych yn ansicr, dewiswch ‘Don’t want to sign in? Use a one-time passcode to view the message.’

Mewngofnodi gyda chyfrinair un-tro

Ar ôl dewis ‘Use a one-time passcode’, anfonir ebost atoch a fydd yn cynnwys cyfrinair unigryw.

5

Copïwch a gludwch y cyfrinair a anfonwyd atoch i’r blwch cyfrinair ar y dudalen we ‘Encrypted Message’ i weld eich neges. Dim ond am 15 munud y mae’r cyfrinair hwn yn ddilys.

4

Darllen yr ebost

Unwaith ichi gael eich dilysu, cyflwynir cynnwys llawn yr ebost ichi.

6

Ateb yr ebost

I amgryptio eich ateb, dewiswch y saeth i lawr wrth ymyl y botwm ‘Reply’. Gallwch ddewis ‘Reply All’, ‘Reply’ neu ‘Forward’.

Cyhoeddwyd ar 21 January 2015