Skip to main content
Canllawiau

Cael help gyda manylion mewngofnodi eich cyfrif ad-dalu cyllid myfyrwyr

Mae sut rydych chi’n mewngofnodi yn dibynnu ar bryd y gwnaethoch chi astudio a pha fath o gyllid myfyrwyr a gawsoch.

Yn berthnasol i Loegr

O fis Medi 2026, dechreuwyd cyflwyno GOV.UK One Login fel ffordd i chi gyrchu eich cyfrif cyllid myfyrwyr. Mae hyn yn golygu, yn dibynnu ar bryd y gwnaethoch astudio, gallech gael manylion mewngofnodi ar gyfer gwasanaeth cyllid myfyrwyr hŷn. Mae angen i chi ddefnyddio’r un ffordd o fewngofnodi a ddefnyddiwyd pan wnaethoch chi gyrchu eich cyfrif cyllid myfyrwyr ddiwethaf.

Mae sut rydych chi’n mewngofnodi yn dibynnu ar bryd y gwnaethoch chi astudio a pha fath o gyllid myfyrwyr a gawsoch.

Os dechreuodd eich cwrs israddedig cyn 1 Ionawr 2027

Byddwch wedi mewngofnodi gan ddefnyddio:

  • Rhif Cyfeirnod Cwsmer neu gyfeiriad e-bost
  • ateb cyfrinachol
  • cyfrinair

Dylech barhau i ddefnyddio’r dull mewngofnodi hwn i reoli balans eich benthyciad myfyriwr.

Os yw eich cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027 a’ch bod yn cael eich ariannu drwy’r Hawl Dysgu Gydol Oes (LLE)

Dim ond GOV.UK One Login y byddwch wedi’i ddefnyddio i gyrchu eich cyfrif. Rhaid i chi barhau i fewngofnodi gan ddefnyddio GOV.UK One Login i reoli balans eich benthyciad myfyriwr.

Os oedd gennych gyllid myfyrwyr israddedig ar gyfer cwrs a ddechreuodd cyn 1 Ionawr 2027 a chyllid drwy’r Hawl i Ddysgu Gydol Oes ar gyfer cwrs a ddechreuodd ar ôl 1 Ionawr 2027

Efallai eich bod wedi defnyddio’r ddau ddull mewngofnodi. Ond dylech barhau fewngofnodi gan ddefnyddio GOV.UK One Login i reoli balans eich benthyciad myfyriwr.

Os oes gennych fenthyciad myfyriwr ôl-raddedig

Byddwch wedi mewngofnodi gan ddefnyddio:

  • Rhif Cyfeirnod Cwsmer neu gyfeiriad e-bost
  • ateb cyfrinachol
  • cyfrinair

Dylech barhau i ddefnyddio’r dull mewngofnodi hwn i reoli balans eich benthyciad myfyriwr.

Os oes gennych Fenthyciad Dysgwr Uwch

Byddwch wedi mewngofnodi gan ddefnyddio:

  • Rhif Cyfeirnod Cwsmer neu gyfeiriad e-bost
  • ateb cyfrinachol
  • cyfrinair

Dylech barhau i ddefnyddio’r dull mewngofnodi hwn i reoli balans eich benthyciad myfyriwr.

Os na allwch ddod o hyd i’ch Rhif Cyfeirnod Cwsmer

Ni allwch ddod o hyd i’ch Rhif Cyfeirnod Cwsmer ar unrhyw lythyr neu e-bost a anfonwyd atoch ynghylch eich cyllid myfyrwyr. Gallwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost i fewngofnodi os nad ydych chi’n gwybod eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer.

Os ydych chi angen ailosod eich cyfrinair neu ateb cyfrinachol cyllid myfyrwyr

Gallwch wneud hyn ar-lein.

Os oes angen help arnoch gyda GOV.UK One Login

Os ydych chi’n defnyddio GOV.UK One Login ac yn methu cofio eich manylion, dylech eu hailosod drwy GOV.UK One Login.

Ewch i GOV.UK One Login am help i fewngofnodi neu ailosod eich manylion.

Os ydych chi dal yn ansicr

Os ydych chi’n ansicr ynghylch pa ddull mewngofnodi i’w ddefnyddio, cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu i’w ddatrys.

Argraffu'r dudalen hon