Sgoriau hylendid bwyd
Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i ddod o hyd i sgôr hylendid busnes bwyd.
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn eich helpu i ddewis ble i fwyta neu ble i brynu bwyd drwy roi gwybodaeth glir i chi am safonau hylendid y busnesau. Rydym yn cynnal y Cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Nid yw’r sgôr hylendid bwyd yn ganllaw i ansawdd bwyd. Cedwir gwybodaeth am fusnesau ar ran awdurdodau lleol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am fusnesau unigol at yr [awdurdod lleol] priodol(/dod-o-hyd-ich-tim-diogelwch-bwyd).
Sgoriau
Mae safonau hylendid yn cael eu sgorio’n unol â graddfa benodol rhwng 0–5.
- 5 – mae’r safonau hylendid yn dda iawn
- 4 – mae’r safonau hylendid yn dda
- 3 – mae’r safonau hylendid yn foddhaol ar y cyfan
- 2 – mae angen gwella
- 1 – mae angen gwella yn sylweddol
- 0 – mae angen gwella ar frys
Gallwch chwilio am sgoriau hylendid bwyd gan ddefnyddio ein Gwasanaeth Sgoriau Hylendid Bwyd.