Canfod a oes gan berson gofnod o droseddau cam-drin plant yn rhywiol
Mae’r Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-Drin Plant yn Rhywiol yn gadael i’r rheini sy’n gofalu am bobl ifanc gael gwybod a oes gan berson gofnod o droseddau cam-drin plant yn rhywiol.
Trosolwg
Dan y Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-Drin Plant yn Rhywiol, gall yr heddlu ddweud wrth rieni, gofalwyr a gwarcheidwad os oes gan rywun gofnod o droseddau cam-drin plant yn rhywiol.
Nod y cynllun yw cadw plant yn ddiogel.
Ffoniwch 999 os ydych chi’n meddwl bod y plentyn mewn perygl uniongyrchol.
Gwybodaeth am y cynllun
Mae’r rhan fwyaf o blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yn adnabod eu troseddwr. Yn aml, maent yn aelod o’r teulu, yn ffrind i’r dioddefwr, neu’n ffrind i deulu’r dioddefwr.
Dechreuodd y Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-Drin Plant yn Rhywiol yn 2008, ac fe’i datblygwyd mewn ymgynghoriad â Sara Payne, sef cyn-hyrwyddwr dioddefwyr, ynghyd â’r heddlu ac elusennau plant.
Cafodd y peilot ei werthuso’n annibynnol, a gallwch ddarllen yr
.Gwneud cais i’r cynllun
Gallwch wneud cais i’r Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-Drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru a Lloegr. Mae cynlluniau tebyg ar gael yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cael rhagor o wybodaeth
Fel rhan o’r ymgyrch i ddiogelu plant rhag niwed, mae’r Lucy Faithful Foundation wedi creu gwefan, Parents Protect!.
Nod y wefan yw codi ymwybyddiaeth o gam-drin plant yn rhywiol, ateb cwestiynau a rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar rieni a gofalwyr i’w atal.
Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gael os ydych chi’n poeni bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael ei gam-drin.
Hefyd, mae rhagor o wybodaeth ar gael am gadw plant yn ddiogel ar-lein, gan gynnwys adnoddau, cyngor a gwybodaeth am ble i fynd i gael cymorth.