Canllawiau

Anawsterau ariannol mewn elusennau

Anawsterau ariannol mewn elusennau

Applies to England and Wales

Sut i adnabod problemau ariannol

Fel ymddiriedolwyr, mae dyletswydd gyfreithiol gennych chi i edrych ar ôl arian eich elusen ac asedau eraill. Bydd rhaid i chi ddeall a chadw golwg ar incwm a gwariant eich elusen er mwyn adnabod unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl.

I wneud hyn, bydd angen ymddiriedolwyr arnoch sydd â’r sgiliau a’r profiad priodol i ddeall gwybodaeth ariannol, adnabod a rheoli risgiau. Dylech gynnal cyfarfodydd ymddiriedolwyr rheolaidd i gadw golwg ar incwm a gwariant yn erbyn y gyllideb. Rhowch reolaethau ariannol mewnol yn eu lle i sicrhau bod yr holl wariant wedi’i awdurdodi’n briodol.

Defnyddiwch restr wirio rheolaethau ariannol y Comisiwn Elusennau i sicrhau bod y rheolaethau cywir gan eich elusen dros ei harian.

Beth i’w wneud os oes anawsterau ariannol gan eich elusen

Os yw’ch elusen yn gwmni neu’n sefydliad corfforedig elusennol, gallai fod yn ansolfent a wynebu gweinyddiaeth neu gael ei chau os nad yw’n talu ei dyledion. Os yw’ch elusen yn gymdeithas anghorfforedig neu’n ymddiriedolaeth, gallech chi a’r ymddiriedolwyr eraill fod yn atebol i dalu ei dyledion.

Mae hyn yn golygu os na fydd eich elusen yn gallu talu ei dyledion, naill ai gyda’i hincwm neu gyda’i hasedau, bydd rhaid i chi weithredu’n gyflym. Ceisiwch gyngor proffesiynol cyn gynted â phosibl - bydd hyn yn eich helpu i benderfynu pa gamau i’w cymryd. Er enghraifft:

  • datblygu ffynonellau cyllid eraill neu lansio apêl argyfwng
  • benthyca arian gan fanciau, aelodau neu randdeiliaid
  • lleihau gwariant gwirioneddol neu arfaethedig
  • rhoi’r gorau i rai o weithgareddau’r elusen

Darllenwch ganllawiau manwl y comisiwn i gael rhagor o wybodaeth am reoli anawsterau ariannol.

Os oes rhaid i’ch elusen gau

Dywedwch wrth y comisiwn os yw’ch elusen yn cau er mwyn gallu ei dileu o’r gofrestr elusennau.

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013