Cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr dros becynwaith: hysbysiadau atebolrwydd
Mae'r canllawiau yma yn esbonio’r hyn sydd wedi'i gynnwys yn eich hysbysiad atebolrwydd oddi wrth weinyddwr y cynllun, PecynUK.
Mae’n rhaid i gynhyrchwyr atebol y mae cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith yn effeithio arnyn nhw dalu ffioedd gwaredu gwastraff fel y nodir yn eu hysbysiad atebolrwydd.
O ran ffioedd cofrestru sy’n cael eu talu i’ch rheoleiddiwr amgylcheddol, gweler cofrestru a thalu’r ffi.
Beth yw hysbysiad o atebolrwydd
Bydd PecynUK yn anfon hysbysiad atebolrwydd atoch ar gyfer pob blwyddyn asesu, ar sail y pecynwaith a ddarparwyd gennych ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol. Dylech chi drin hyn fel eich anfoneb, er bod ei statws yn wahanol i anfoneb fasnachol gan mai hysbysiad o rwymedigaeth statudol yw hwn.
Pwy sy’n gorfod talu hysbysiad atebolrwydd
Mae’n rhaid ichi dalu’ch hysbysiad atebolrwydd os ydych chi’n gynhyrchydd yn ystod y flwyddyn asesu gyfredol (1 Ebrill i 31 Mawrth), a’ch bod chi wedi cyflenwi pecynwaith cartref fel cynhyrchydd mawr yn y flwyddyn galendr flaenorol.
Os ydych chi wedi cofrestru fel rhan o grŵp, y cwmni daliannol sy’n gyfrifol am dalu. Mae’r hysbysiad atebolrwydd yn cael ei anfon at y cwmni daliannol ac mae’n dangos dadansoddiad ar gyfer pob is-gwmni.
Chaiff cynllun cydymffurfio ddim talu’r hysbysiad atebolrwydd ar eich rhan.
Sut i ddod o hyd i’ch hysbysiad atebolrwydd
Mae’ch hysbysiad atebolrwydd yn cael ei anfon trwy’r porth rhoi gwybod am ddata pecynwaith (RPD).
Bydd y prif gyswllt (y person a enwebwyd gennych fel y prif bwynt cysylltu) ar eich cyfrif RPD yn cael hysbysiad ebost pan fydd yr hysbysiad ar gael. Yr unig ffordd y gallwch chi ddiweddaru’ch prif gyswllt yw trwy fewngofnodi i’ch cyfrif RPD ac ailgyflwyno’ch data cofrestru.
Beth sydd wedi’i gynnwys yn eich hysbysiad atebolrwydd
Mae eich hysbysiad atebolrwydd yn cynnwys:
- eich ffi waredu yn seiliedig ar pwysau a math y pecynwaith cartref rydych chi wedi rhoi gwybod amdano a sut y cafodd ei gyfrifo, gan gynnwys unrhyw wrthbwysiad am wastraff pecynwaith, ac unrhyw newid yn ffi’r cynhyrchwyr fesul tunnell, ar sail effaith amgylcheddol y pecynwaith (sy’n cael ei alw’n fodiwleiddio)
- costau gwybodaeth gyhoeddus – costau ymgyrchoedd gan PecynUK i hybu ailddefnyddio pecynwaith, sut mae gwastraff pecynwaith yn cael ei reoli a sut i atal sbwriel. Lle bo’n briodol, gall y costau yma gael eu dadansoddi i adlewyrchu pa faes maen nhw’n ymwneud ag ef
- costau gweinyddu’r cynllun – gan rannu’r cyfanswm ar gyfer y flwyddyn asesu ar draws yr holl gynhyrchwyr atebol
- ffioedd amharu – ffioedd y mae PecynUK yn methu eu casglu oddi wrth gynhyrchwyr eraill, oherwydd ansolfedd neu am unrhyw reswm arall
- y dyddiadau y mae’ch rhandaliadau’n ddyledus a swm pob rhandaliad
- a oes yna log ar daliadau hwyr a chyfradd y llog
- datganiad y gall eich ffi newid yn dilyn ailgyfrifo
- sut i wneud cwyn
- eich hawl i apelio
- eich rhif cyfrif banc rhithwir (VBAN) unigryw y dylai’ch ffioedd gael eu talu iddo
Mae yna ragor o wybodaeth am sut mae’ch ffioedd yn cael eu cyfrifo yng nghynllun gweithredol PecynUK.
Pryd i dalu’ch hysbysiad atebolrwydd
Rhaid ichi dalu erbyn y dyddiadau a ddangosir ar eich hysbysiad atebolrwydd. Mae’r taliad fel arfer mewn rhandaliadau chwarterol, ond mae’ch manylion talu llawn a’r ffyrdd y gallwch dalu yn cael eu hamlinellu yn eich hysbysiad.
Os na fyddwch chi’n talu rhandaliad o fewn 50 diwrnod ar ôl y dyddiad dyledus, mae PecynUK yn cael gwneud y canlynol:
- codi llog ar y swm sydd heb ei dalu
- cymryd camau gorfodi, gan gynnwys dyroddi cosb ariannol newidiol
Sut i dalu’ch hysbysiad atebolrwydd
Dylai’ch tîm cyllid drin yr hysbysiad atebolrwydd fel anfoneb. Gallwch dalu’ch hysbysiad atebolrwydd:
- trwy ddebyd uniongyrchol (gan dalu bob chwarter) a all gael ei sefydlu trwy ddolen Stripe ar eich hysbysiad
- trwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio’r VBAN a welir ar dudalen wybodaeth eich hysbysiad
- â cherdyn credyd neu ddebyd
- drwy archeb sefydlog
Os nad ydych chi’n talu trwy ddebyd uniongyrchol, bydd angen ichi gysylltu â’r ddesg cymorth cwsmeriaid i sefydlu cynllun talu. Os na wnewch chi hynny, efallai y cewch chi nodiadau awtomataidd i’ch atgoffa am dalu.
Allwch chi ddim gwneud taliad trwy SWIFT. Gan nad anfoneb fasnachol yw eich hysbysiad atebolrwydd, fydd PecynUK ddim yn darparu archeb brynu, rhif TAW, na chofrestriad porth cyflenwyr ar gyfer gwneud y taliad.
Amddiffyn eich hun rhag sgamiau
Fydd PecynUK byth yn anfon dolen dalu atoch drwy’r ebost. Os cewch chi neges ebost â dolen yn gofyn ichi dalu’ch hysbysiad atebolrwydd, peidiwch â chlicio ar y ddolen. Rhowch wybod am unrhyw negeseuon ebost amheus i PecynUK ar 0300 060 0002.
Os bydd eich ffi’n newid
Gall PecynUK ailgyfrifo’ch hysbysiad atebolrwydd yn ystod neu ar ôl y flwyddyn asesu. Yr enw ar hyn yw ailgyfrifo. Gall ailgyfrifo ddigwydd oherwydd:
- bod PecynUK yn cael gwybodaeth ddiwygiedig am y pecynwaith a ddarparwyd gennych
- bod PecynUK yn darganfod gwall yn y cyfrifiad gwreiddiol
- bod cyfanswm y ffioedd a gasglwyd yn fwy neu’n llai na chyfanswm y costau gwaredu
- bod yna unrhyw reswm arall dros wahaniaeth o bwys
Ar ôl ailgyfrifo, bydd PecynUK yn anfon hysbysiad atebolrwydd diwygiedig atoch. Bydd hwnnw’n dangos y ffi ddiwygiedig a naill ai’r swm sy’n dal yn ddyledus neu’r swm sydd i’w ad-dalu.
Rhaid ichi barhau i dalu’r symiau a ddangosir ar eich hysbysiad cyfredol, hyd yn oed os ydych chi’n disgwyl ailgyfrifiad.
Talu gostyngiad yn eich atebolrwydd
Os yw’ch ffi wedi gostwng, bydd PecynUK:
- yn diweddaru’ch hysbysiad atebolrwydd
- yn rhoi gwybod ichi a ydych chi’n gymwys i gael ad-daliad y gallwch ofyn amdano ar borth RPD
Fydd eich dyddiadau talu ddim yn newid o’ch hysbysiad atebolrwydd gwreiddiol.
Os oes gennych chi ddebyd uniongyrchol ar waith yn barod, bydd PecynUK:
- yn diweddaru’ch debyd uniongyrchol i adlewyrchu’r swm newydd a ddangosir ar eich hysbysiad atebolrwydd newydd
- yn anfon neges ebost atoch 10 diwrnod cyn iddyn nhw gasglu’r taliad newydd er mwyn cadarnhau’r swm casglu a’r dyddiad casglu
Os nad oes gennych chi ddebyd uniongyrchol ar waith, bydd PecynUK yn sefydlu cynllun talu newydd ar gyfer gweddill eich taliadau chwarterol yn y flwyddyn bilio honno.
Talu cynnydd yn eich atebolrwydd
Os bydd cynnydd yn eich ffi, yna bydd ail hysbysiad atebolrwydd yn cael ei ddyroddi a fydd yn cynnwys y swm ychwanegol. Bydd manylion y telerau talu ar gyfer yr ail hysbysiad yn yr hysbysiad.
Bydd yr ail hysbysiad atebolrwydd yn nodi:
- cyfanswm y taliad sy’n ddyledus ar gyfer y flwyddyn asesu berthnasol
- y swm ychwanegol sy’n daladwy o dan yr ail hysbysiad atebolrwydd
- pa daliadau ychwanegol y mae angen ichi eu gwneud o dan yr ail hysbysiad atebolrwydd
Bydd y rhestr daliadau yn yr ail hysbysiad atebolrwydd yn adlewyrchu’r swm ychwanegol, nid y cyfanswm. Bydd eich hysbysiad atebolrwydd gwreiddiol yn dal yn weithredol nes ei fod wedi’i dalu’n llawn.
Os ydych chi eisoes yn talu trwy ddebyd uniongyrchol, bydd PecynUK yn sefydlu un arall i’w gwneud hi’n haws casglu’r swm ychwanegol sy’n ddyledus. Gan y bydd gennych chi ddau ddebyd uniongyrchol wedi’u sefydlu, gallwch ddisgwyl cael:
- neges ebost 10 diwrnod cyn iddyn nhw gasglu’r taliad ychwanegol newydd i gadarnhau’r swm casglu a’r dyddiad casglu
- cadarnhad ychwanegol o’r taliad ar gyfer y swm casglu a’r dyddiad casglu
Terfynau amser ar gyfer ailgyfrifo
Gall PecynUK gynnal ailgyfrifiad diwedd blwyddyn hyd at bedair blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn asesu.
Mae hyn yn ymestyn i 10 mlynedd os na chafodd PecynUK yr wybodaeth angenrheidiol yn gynt oherwydd rhywbeth wnaethoch chi neu rywbeth na wnaethoch chi, er enghraifft, os na chyflwynoch chi’ch data pecynwaith.
Os bydd PecynUK yn darganfod eich bod yn atebol ar ôl y rownd gychwynnol
Os na wnaeth PecynUK eich trin yn wreiddiol fel cynhyrchydd atebol ond eu bod yn cael gwybodaeth yn nes ymlaen sy’n awgrymu eich bod chi’n gynhyrchydd atebol, mae’n rhaid i PecynUK ddilyn y camau hyn.
- Anfon hysbysiad atoch yn esbonio pam mae PecynUK yn credu eich bod yn atebol. Cewch gyfnod rhesymol i ymateb.
- Ar ôl y cyfnod hwnnw, os yw PecynUK yn dal yn fodlon eich bod yn atebol, byddan nhw’n cyfrifo’ch ffioedd ac yn anfon hysbysiad atebolrwydd atoch.
Os methodd PecynUK â’ch adnabod fel cynhyrchydd atebol am eich bod chi heb gydymffurfio â’r rheoliadau, maen nhw’n cael codi llog. Mae llog yn cael ei godi o’r dyddiad yr oedd y taliad gwreiddiol yn ddyledus. Mae’r un terfynau amser o bedair blynedd a 10 mlynedd yn gymwys.
Os ydych chi’n credu bod eich ffi’n anghywir
Cysylltu â chymorth cwsmeriaid
Yn gyntaf, rhaid ichi gysylltu â desg cymorth cwsmeriaid PecynUK i drafod y mater.
Ffôn: 0300 060 0002 – dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4:30pm
Ebost: EPRCustomerService@defra.gov.uk
Gwneud cwyn
Rhaid ichi godi cwyn gyda PecynUK drwy’r porth RPD cyn cael apelio. Chewch chi ddim mynd yn uniongyrchol at dribiwnlys.
Apêl i dribiwnlys
Ar ôl ichi fod trwy broses gwyno PecynUK, cewch apelio i dribiwnlys os ydych chi’n credu:
- nad ydych chi’n atebol i dalu ffi waredu neu ffi weinyddol
- bod y ffi fesul tunnell neu’r cyfanswm wedi’u camgyfrifo
Mae ble i apelio yn dibynnu ar ble mae eich sefydliad wedi’i leoli.
Tabl: y corff apelio y bydd angen i’ch sefydliad gysylltu â nhw ar sail eich lleoliad
| Lleoliad | Corff apelio |
|---|---|
| Cymru neu Loegr | Tribiwnlys Haen Gyntaf |
| Yr Alban | Y siryf |
| Gogledd Iwerddon | Y Comisiwn Apelau Cynllunio |
Rhaid ichi gyflwyno’ch apêl o fewn dau fis ar ôl y dyddiad y mae’ch cwyn gyda PecynUK yn cael ei datrys.
Cosbau os na fyddwch chi’n talu
Os na fyddwch chi’n talu o fewn 50 diwrnod ar ôl y dyddiad dyledus, gall PecynUK ddyroddi cosb ariannol newidiol (VMP). Mae hyn yn ddirwy ar ben y ffioedd sy’n ddyledus.
Sut mae PackUK yn cyfrifo’r gosb
Yn achos cynhyrchydd unigol, y gosb yw’r un uchaf o blith y canlynol:
- 20% o’r ffioedd gwaredu a’r ffioedd gweinyddol sydd heb eu talu
- 5% o’ch trosiant yn y Deyrnas Unedig os ydych chi wedi cofrestru fel un sefydliad neu 2% o’ch trosiant grŵp yn y Deyrnas Unedig os ydych chi wedi cofrestru fel grŵp
Yn achos cwmni daliannol sydd â chofrestriad grŵp, y gosb yw’r un uchaf o blith y canlynol:
- 20% o’r ffioedd sydd heb eu talu
- 2% o drosiant cyfunol aelodau’r grŵp yn y cofrestriad
Proses y gosb
Bydd PecynUK yn defnyddio’r broses ganlynol.
- Mae PecynUK yn anfon hysbysiad o fwriad atoch. Mae hyn yn esbonio’r seiliau dros y gosb, y swm, a’ch hawl i ymateb. Mae gennych chi 28 diwrnod i wneud sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig.
- Ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod, mae PecynUK yn ystyried unrhyw sylwadau ac yn penderfynu a ddylid gosod y gosb. Maen nhw’n cael newid y swm.
- Os yw PecynUK yn penderfynu gosod y gosb, maen nhw’n anfon hysbysiad terfynol yn nodi’r swm, sut i dalu, a’r dyddiad cau ar gyfer talu. Mae angen talu hyn o fewn 28 diwrnod.
Apelio yn erbyn cosb
Cewch apelio yn erbyn VMP i dribiwnlys. Does dim angen ichi fynd trwy broses gwyno PecynUK yn gyntaf.
Gall y seiliau dros apelio gynnwys:
- gwall ffeithiol
- bod y penderfyniad yn anghywir yn y gyfraith
- bod swm y gosb yn afresymol
- bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall
Mae’r gosb yn cael ei hatal tra bo’ch apêl yn cael ei phenderfynu. Does dim rhaid ichi dalu nes bod yr apêl wedi’i datrys.
Cael help
Cysylltwch â’r tîm gwasanaeth cwsmeriaid EPR yn Defra:
Ffôn: 0300 060 0002 – dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4:30pm